Ai bod ai beidio â bod: dyna yw’r cwestiwn …

Tybed a wyddoch chi bod ‘na dri chyfieithiad o ‘Hamlet’ yn bodoli yn y Gymraeg?

Hamlet Popeth
Laurence Olivier ei hun, neb llai, yn adrodd un o linellau enwocaf ‘Hamlet’!

Mae’n wir! Tri chyfieithiad o dri chyfnod dra gwahanol; y cyntaf o 1864, yr ail o 1958, a’r llall o 2004. Beth am gael cip sydyn ar y tri ohonyn nhw yr wythnos hon.

Lluniwyd y cyfieithiad cyflawn cyntaf o ‘Hamlet’ gan David Griffiths o Dreffynnon, Sir y Fflint ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Llandudno yn 1864. Gwobrwywyd y gwaith yn yr Eisteddfod honno, ac fe’i cyhoeddwyd am y tro cyntaf ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn 1866, yn y cyfnodolyn ‘Yr Eisteddfod’. Mae’r gwaith wedi’i drefnu ar batrwm mydryddol, ac y mae’n enghraifft berffaith o arddull ieithyddol a chonfensiynau gramadegol Oes Fictoria.

Mae ymdriniaeth y cyfieithydd o’r prif gymeriad, ac yn wir o’r dramodydd ei hun, hefyd yn nodweddiadol o’i oes. Fel y dywed ym mrawddeg agoriadol ei ragymadrodd i’r ddrama – “Byddai yn waith ofer myned i ganmawl Shakspeare (sic) – mor ofer a throi i addurno’r lili, neu baentio y rhosyn.”

Gwêl Griffiths Hamlet fel pendronwr o gymeriad, un sy’n syrthio’n fyr o’r idiom tywysogaidd angenrheidiol. Mae’n ffigwr sy’n rhy barod i amau, sy’n “lled amhenderfynol” sy’n “arddangos arafwch mawr” ac sy’n “syrthio’n fyr o’r gwroldeb oedd yn angenrheidiol iddo feddu.”

Trasiedi’r Hamlet Cymraeg cyntaf hwn, felly, oedd ei amharodrwydd i weithredu mewn modd cymesur â’i statws.

Cyfieithiad Eisteddfodol yw’r ail gyfieithiad o’r ddrama hefyd, sef cyfieithiad J. T. Jones ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy, 1958. Athro o Borthmadog oedd J. T. Jones, ac efe yw’r cyfieithydd mwyaf toreithiog o weithiau Shakespeare i’r Gymraeg. Gwobrwywyd y cyfieithiad gan yr Eisteddfod, ac fe’i cyhoeddwyd ddwy flynedd yn ddiweddarach yn 1960

Roedd Jones yn ymwybodol o’r cyfieithiad blaenorol, ond yr oedd hefyd yn ymwybodol iawn o’r datblygiadau a fu ar gychwyn yr Ugeinfed Ganrif ym myd gramadeg y Gymraeg. “Aeth agos i gan mlynedd heibio,” meddai yn ei ragymadrodd i’w gyfieithiad ef, “er pan Gymreigiwyd Hamlet y tro cyntaf, ac yn y cyfamser – trwy lafur adrannau Cymraeg ein Prifysgol – fe’i gwnaethpwyd yn llawer haws i feirdd a llenorion y genedl ysgrifennu’n gywir o ran orgraff a chystrawen, a rhoi’r parch dyladwy i deithi’r ddwy iaith.” O ganlyniad, perthyn iaith yr ail ‘Hamlet’ yn llawer agosach at ramadeg John Morris-Jones, ac i arddull ddramatig Saunders Lewis, nag at reolau William Owen Pughe, ac arddull y canu Eisteddfodol Fictoraidd.

Mae Hamlet ‘Hamlet’ Jones hefyd yn berson tra gwahanol. Nid gwendid mewnol sy’n hebrwng ei drasiedi ef, ond yn hytrach ergydion y byd o’i gwmpas sy’n sicrhau ei gwymp. “Nid oes dim,” meddai Jones, “sy’n dristach na gweld amgylchedd di-amgyffred yn llethu personoliaeth nobl. A dyna gyweirnod Hamlet.”

Trasiedi allanol, a thrasiedi’r bwlch rhwng yr allanol a’r mewnol, yw trasiedi’r ail Hamlet yn ein hastudiaeth.

Cyhoeddwyd y trydydd cyfieithiad o ‘Hamlet’ yn 2004, ond nid cyfieithiad uniongyrchol mohono, ond trosiad. Hepgorwyd yr adeiledd fydryddol am iaith lled-lafar, ac addaswyd rhywfaint ar strwythr y ddrama hefyd. Eiddo Gareth Miles yw’r trosiad hwn, a dysgwn ar gychwyn ei ragymadrodd i’r gwaith fod ganddo weledigaeth dra gwahanol i’r ddau arall ar waith a bywyd y bardd-ddramodydd o Stratford.

“Gadewais y Coleg ar y Bryn ym 1960,” meddai, “gyda gradd gyfun symol mewn Saesneg ac Athroniaeth a chasineb at Shakespeare.” Ymhelaetha, gan nodi, “Adweithiwn yn gryf yn erbyn Shakespeare-addoliaeth ysgolheigion Seisnig a ddwyfolai W.S.; gwelwn eu llafar a’u llên fel rhan o’r Seisnigrwydd imperialaidd a oedd yn rhemp y dyddiau hynny. Cenedlaetholdeb imperialaidd, haerllug yn datgan yn feunyddiol: ‘Gynnon ni mae’r Lluoedd Arfog dewra’n y byd, y Frenhinas anwyla’, y Teulu Brenhinol mwya’ urddasol, y Senedd fwya’ democrataidd, y ceir a’r awyrenna’ cyflyma’, y Gyfraith deca’ a’r plismyn ffeindia’. Ac ar ben hyn i gyd, bardd-ddramodydd-lenor-broffwyd-athronydd-ddiwinydd-seicolegydd mwya’r Oesoedd.”

O ddeall ei ddehongliad Ôl-Drefedigaethol ar waith, ar safle gymdeithasol gwaith, ac ar fytholeg gwaith Shakespeare, mae’n deg gofyn pam y bu i Gareth Miles fynd ati i drosi’r ddrama hon yn y lle cyntaf? Yn syml, oherwydd ei huniongyrchedd fel drama, ac fel drama ddynol bwerus o ran hynny. “Fel drama i’w pherfformio yr ysgrifennwyd hon,” meddai, “ac nid darn o lenyddiaeth i’w astudio mewn gwers neu seminar.” Drama berfformiadol ydoedd, ym marn Miles, yn astudiaeth gain o gymeriadau cymhleth a allasant fod yn bobl o gig a gwaed.

Gan hynny, felly, beth a ddywed Miles yn ei ragymadrodd am gymeriad Hamlet ei hun? Yn rhyfedd ddigon, ni chawn ddim gwybodaeth o gwbl ar y pwnc. Dyna’r oll a gawn yw anogaeth i blymio i’r testun, ac i ymgolli i’r ymdriniaeth ddwys sydd i’w gweld yno o nodweddion un o gymeriadau mwyaf enigmatig y byd llenyddol.

3 Hamlet
O’r chwith i’r dde – ‘Hamlet’, D. Griffiths; ‘Hamlet’, J. T. Jones; ‘Hamlet’, G. Miles

O ystyried cyd-destun hanesyddol ac ideolegol y trosiad, ac o ystyried y newid a fu yn y portread o Hamlet rhwng y cyfieithiad cyntaf a’r ail un, byddai’n deg dyfalu bod trydydd Hamlet y Gymraeg hefyd yn gymeriad tra gwahanol i’w ragflaenwyr. Efallai’n ffigwr mwy unigolyddol, yn fwy ymwybodol o baradocsau’r gymdeithas o’i gwmpas, ac yn llai ufudd i fatricsau moesol bydoedd y ddau Hamlet cyntaf. Tybed wir.

Efallai y dylem ni edrych yn fwy manwl ar y testunau eu hunain, ar eu hiaith, ar y dewisiadau a wnaed wrth gyfieithu geiriau unigol o’r gwreiddiol, i ddysgu mwy am yr Hamlet cudd hwn, ac am y ddau arall hefyd o ran hynny. Ond, trafodaeth i ddydd Iau arall yw’r drafodaeth honno …

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s