Hybridedd, Cyfieithu, a Llenyddiaeth Genhadol

Dysgwn am fyd y gwreiddiol ac am fyd y cyfieithydd gyda phob cyfieithiad newydd. Teflir goleuni ar y naill ddiwylliant fel y llall, ac o astudio’r plethiad rhwng y ddau ddiwylliant gwelwn bortread hybrid o’r ddwy bau diwylliant unigryw’n ymffurfio o’n blaenau.

Clawr yr ail wobr-lyfr gan yr LMS.
Clawr yr ail wobr-lyfr gan yr LMS.

Roedd bri mawr ar ymgyrchoedd cenhadol yn y Brydain Fictoraidd ac Edwardaidd. Cyllidwyd yr ymgyrchoedd hyn, i raddau helaeth iawn, gan y werin bobl eglwysig a chapelaidd, tan arweiniad cymdeithasau cenhadol amrywiol. Er mwyn hyrwyddo’r casglu aeth y cymdeithasau ati i lunio llenyddiaeth genhadol oedd yn cynnig portreadau tra arwrol o’r cenhadon eu hunain, adroddiadau am ddaearyddiaeth, botaneg, hinsawdd, a thirwedd tiroedd pellennig, hanesion am fywydau pobl o bob cwr o’r byd, ac, yn bwysicaf oll efallai i ddarllenwyr yr oes, llawer iawn o ddyluniadau (ac yn ddiweddarach, ffotograffau) i gyd-fynd â’r straeon hyn oll. Porthai’r casglu’r gallu i gynhyrchu’r llên, a phorthai’r llên y cymhelliant i gasglu.

Roedd y math hyn ar lenyddiaeth yn un o genres mwyaf poblogaidd yr oes. Trwy ei astudio’n feirniadol cawn gip ddadlennol tu hwnt ar feddylfryd cyfran fawr o boblogaeth Prydain yn y cyfnod. Rhydd y genre oleuni i’r sawl a garai ystyried hanes trwy lygaid yr Ôl-Drefedigaethwr, gan fod y cyhoeddiadau’n aml yn feirniadol o’r ymgyrch ymerodraethol gyfalafol, er eu bod yn codi’n uniongyrchol o’r dylanwad ymerodraethol ei hun. Rhydd hyn, yn ei dro, olwg arbennig inni ar safle’r llenyddiaeth hon yng Nghymru, ac yn y Gymraeg.

V0026724 David Livingstone. Photograph by Mayall.
David Livingstone, y mynegiant eithaf o’r arwr-genhadwr Fictoraidd.

Un o’r cynhyrchwyr mwyaf toreithiog o’r genre oedd y London Missionary Society (LMS). Cyn dyddiad sefydlu ymgyrchoedd cenhadol amrywiol y capeli Cymraeg yr LMS oedd y mudiad cenhadol mwyaf poblogaidd yng Nghymru hefyd, a pharhaodd felly am flynyddoedd wedi oes eu sefydlu’n ogystal. Un o gyhoeddiadau mwyaf poblogaidd yr LMS oedd eu gwobr-lyfrau blynyddol, lle cesglid ynghyd flodeugerdd o erthyglau’r flwyddyn a aeth heibio mewn un gyfrol gain. Penderfynwyd y dylid cyfieithu un o’r cyfrolau hyn i’r Gymraeg yn 1896. Y Parch. L. Williams, Bontnewydd, Caernarfon, oedd y cyfieithydd. Dyma a nododd ef yn ei ragymadrodd i’r gyfrol gyntaf, ‘Lloffion o Feusydd Lawer’:

“Wele o’r diwedd y gwobr-lyfr, y buwyd yn dadleu gymaint am ei gael yn Gymraeg, wedi gwneyd ei ymddangosiad. … Cofier mai ar brawf yr ydym y flwyddyn hon, ac yr ymddygir atom yn y dyfodol yn ôl y derbyniad a roddir i’r Gyfrol brydferth hon. Os colledir y Gymdeithas drwy ei chyhoeddi, ni bydd gan neb sail resymol i achwyn os gwrthodir dwyn allan Gyfrol gyffelyb y flwyddyn nesaf.”

Atebwyd galwad y Parchedig gyda brwdfrydedd, ac ar sail casglu brwd y Cymry tyfodd yr un gyfrol hon i fod y gyntaf mewn cyfres o ddeng cyfrol flynyddol, a gyhoeddwyd rhwng 1896 ac 1906. Esgorodd hyn yn ei dro ar ddiddordeb cynyddol yn y meysydd cenhadol, ac mewn llenyddiaeth genhadol yn yr un modd. Tybed a fyddai cyhoeddiadau fel Y Cenhadwr, cylchgrawn cenhadol y Methodistiaid Calfinaidd, wedi magu’r fath boblogrwydd yn 20au a 30au’r ugeinfed ganrif heb yn gyntaf weld poblogrwydd cyhoeddiadau fel y gwobr-lyfrau hyn?

Gellir trafod y llwyddiant hyn mewn sawl modd. Wele sylwadau L. Williams yn ei ragymadrodd i’r ail wobr-lyfr, ‘Gwroniaid Cenhadol Affrica’, yn 1897:

“Wele eich ail wobr-lyfr yn barod, a hyderaf y bydd i chwi ei hoffi. Gweithiasoch yn rhagorol y llynedd. Yn wir, gwnaethoch y tu hwnt i ddisgwyliadau eich cyfeillion goreu. Gwn fod yr awdurdodau yn Llundain wedi eu boddhau yn ddirfawr ynoch, prawf o hynny ydyw eu bod wedi penderfynu argraphu mwy o nifer o’r gyfrol hon.”

Bhabha
The Location of Culture, Homi K. Bhabha, un o’r trafodaethau mwyaf dylanwadol ar hybridedd diwylliannol.

Wele’r ddisgwrs grym rhwng Cymru a Llundain yn y dyfyniad uchod. Cofier hefyd am sut y disgrifiwyd y Cymry fel pe baent ‘ar brawf’ yn y flwyddyn gyntaf. Cyfyd nifer o gwestiynau posibl i’r efrydydd Ôl-Drefedigaethol ar sail hyn. Gall ofyn – beth oedd apêl yr hybridedd a grëwyd rhwng y genre cenhadol a’r iaith Gymraeg? A oedd y Rhamantiaeth fyd-eang yn digoni estheteg gyffredinol Ramantaidd Cymry’r oes? A oedd gweledigaeth amgen y cyhoeddiadau o swyddogaeth yr ymerodraeth yn porthi un o ddisgyrsiau hunaniaethol mwyaf dylanwadol y Cymry Cymraeg yn y cyfnod, sef Cymru fel enaid Prydain, ac o ganlyniad, Cymru fel enaid ymerodraeth gyfan? A oes yma, yn y drafodaeth am fyd cyfan, drafodaeth guddiedig hefyd am nodweddion yr idiom bedagogaidd o ‘Gwlad y Menig Gwynion’?

Mae’r rhain oll yn gwestiynau dilys, a phwysig i fynd i’r ymrafael â nhw. Rhydd cyfieithiadau hybridedd, a thaflant oleuni ar yr hybridedd honno hefyd. Fe’n galluogant yn barhaus, felly, i ofyn beth, yn wir, yw’r plethiad newydd hwnnw a gyfyd pan fo’n bydoedd yn dod ynghyd?

Gadael sylw