Y defnydd o dafodiaith ym myd y Cowboi Cymraeg

ponyexpress
Grant Sullivan, ar y chwith, yn chwarae rhan Brett Clarke, yn y ‘Pony Express’ gwreiddiol. Ailenwyd ei gymeriad yn Bryn Clarke ar gyfer ‘Post ar Garlam’.

Mae hi’n ‘Thanksgiving’ yn yr Unol Daleithiau heddiw. Un o’r delweddau mwyaf eiconig Americanaidd yw’r cowboi ar gefn ei geffyl ar y paith. Gan hynny, gadewch inni edrych yn ein blogiad yr wythnos hon ar ffilm gowboi Gymraeg, sef Post ar Garlam.

Cyfieithiad o un o episodau’r gyfres boblogaidd, The Pony Express, yw Post ar Garlam. Darlledwyd y gyfres Americanaidd wreiddiol rhwng 1959 ac 1960. Ynddi adroddwyd hanesion wedi’u seilio ar hanes y Pony Express gwreiddiol, sef system o gludo llythyron a pharseli a redai o St. Joseph, Missouri, dros y Rocky Mountains a Sierra Nevada, i Sacramemto, California, rhwng 1860 ac 1861.

Cyfieithwyd yr episod benodol hon, The Search, i’r Gymraeg gan Gwyn Llewellyn, ac fe’i darlledwyd gan TWW yn 1961. Yn y ffilm adroddir hanes y llanc ifanc, Spencer Beynon, wrth iddo fynd ar ei daith gyntaf ar rediad y post. Cyll ef ei geffyl trwy ei esgeulustod ei hun, ond, rhag swilio ei hun, beia’r Americanwyr Brodorol lleol am y golled, gan achosi gwrthdaro rhyngddynt hwy â gweithwyr y cwmni post. Datguddir y celwydd wedi cryn ryfela, a syrthia Spencer ar ei fai yn llawn edifeirwch.

Mae’r defnydd o iaith yn yr addasiad Cymraeg yn ddadlennol iawn. Ystyriwn ef yng ngoleuni datganiad agoriadol y ffilm – “Y flwyddyn, 1860. Yn eisiau, marchog ifanc i gario’r post. Parod i wynebu pob math ar anawsterau, tir diffaith, tywydd garw, ac Indiaid!” Gesyd y troslais hyn bresenoldeb yr Americanwyr Brodorol fel bygythiad i arwr y stori. Arweinir ein rhagdybiaethau ni, fel gwylwyr, felly, o’r cychwyn cyntaf.

Numaga2
Numaga, arweinydd y Paiute yn ystod y Rhyfel Paiute, gwrthdaro a fu yn ardal Nevada yn yr 1860au. Ymosodwyd ar rai o drigolion y Paiute gan weithwyr y Pony Express yng Ngorsaf Williams, ar lannau Afon Carson ar y 12fed o Fai, 1860. Gwrthymosododd y Paiute mewn ymateb i’r ymosodiad cyntaf, a bu i’r digwyddiad hwn weithredu fel catalydd ar gyfer y rhyfel. Tybed a ysbrydolwyd y stori yn ‘Post ar Garlam’ gan y digwyddiad hwn, yn rhannol?

Mae tair ffurf ar Gymraeg yn weithredol yn y darn. Siaredir iaith ffurfiol a choeth gan Bryn Clarke (Brett Clarke yn y rhaglenni Saesneg gwreiddiol), y ditectif annibynnol sy’n datrys dirgelon y cwmni ac sy’n gweithredu fel math ar lais ar foeseg oruchafol y naratif. Mae ei ramadeg yn agosach at ramadeg llyfr na gramadeg llafar mewn sawl ystyr: defnyddia ffurfiau cryno berfau’n rheolaidd, mae nodweddion seinegol rheolaidd i’w iaith, ac mae’n medru ymddiddan â phob un o gymeriadau eraill y ffilm. Er enghraifft, dyma sut yr aiff ati i drafod anffawd Spencer, cyn iddo sylweddoli mai twyll oedd y cyfan – “Fuost yn gyfrwys yn smalio marw a’u twyllo nhw felly”, ac yna, wrth hen ddyn y cwmni, Now, “Ac, yn ôl be’ ddywed Spencer, mae’n nhw’n dipyn o griw!”

Siaredir amrywiol dafodieithoedd gan y gweddill o drigolion y cwmni a’r dref leol, fel Now, Sam, gofalwr gorsaf Sand Point, Martha gwraig sy’n teithio drwy’r dref, a Spencer ei hun.

“‘ala i r’wun nawr ichi Mr Clarke” meddai Now wrth gasglu gweithwyr y post ynghyd; “Duwcs annwyl, o’nai’m meddwl mai chdi oedd o!” meddai Sam wrth gyfarch Bryn am y tro cyntaf; “Yw e’n ddanjerus?” hola Martha wrth drafod â Spencer am anturiaethau’r cwmni; a “Lladdesi’r djawl!” meddai Spencer wrth sôn am y frwydr a fu ar ddiwedd y ffilm.

Mae modd edrych ar y bwlch tafodieithol hyn fel Cymreigiad ar y ddisgwrs bŵer sy’n bodoli yn y gymuned a bortreedir yn y ffilm. Mae Bryn Clarke yn awdurdodol, ac ni chwestiynir yr awdurdod hwnnw. Adlewyrchir hyn yn ei iaith lafar. Mae’r sawl sydd o’i gwmpas yn atebol iddo, mewn amrywiol ffyrdd, a gwelir hynny yn eu lleferydd hwythau yn yr un modd.

Cedwir tafodiaith fwyaf unigryw’r ffilm i linellau’r Brodorion Americanaidd. Yma, ni Chymreigir eu deialog, ond fe’i cyfieithir yn uniongyrchol o’r idiom Eingl-Americanaidd, drefedigaethol.  Dyma linell agoriadol Eryr Goch, pennaeth yr Americanwyr Brodorol: “Bryn Clarke. Ti anfon amdanaf. Fi dod.” ac yna’n syth wedyn, gydag ystum leddf, “Ti dod newydd drwg.”

Cyfieithir yma fwy na deialog, cyfieithir yma hefyd ragdybiaethau trefedigaethol yr Unol Daleithiau yn y cyfnod. Daw hyn i’r fei’n amlycach wrth i’r sgwrs barhau, ac wrth i arddull ffurfiol Bryn Clarke ac arddull gymalog Eryr Goch wrthgyferbynnu’n amlwg.

“Dyw Saethwr Sydyn,” meddai Bryn Clarke wrth drafod arweinydd tybiedig y gwrthryfel, “ddim yn ffrind i’r cwmni, ond mae ganddo’i ffrindiau ymysg y’ch pobol chi.”

“Saethwr Sydyn, mab fy chwaer? Fe dim dachre ryfel heb cael fy gair.”, yw ymateb Eryr Goch i’r honiad.

Mae’r un rhagdybiaeth o hierarchaeth ddiwylliannol i’w weld yn y sgwrs rhwng Bryn Clarke a’r Brodor Americanaidd di-enw  sy’n darganfod ceffyl coll Spencer yn ddiweddarach yn y stori:

“Cwmni’r Post sydd biau’r ceffyl yma.”

“Fi ffeindio. Bwyta Gwair. Neb arno. Ceffyl perthyn i mi.”

TCTelegraph
Ysgythriad pren sy’n dangos un o farchogion y Pony Express yn carlamu drwy’r mynyddoedd. Mae’r gweithwyr wrth ochr y ffordd yn gosod gwifren deligraff, teclyn a fyddai’n dod ag oes y Pony Express i ben ymhen dim o dro.

Dyma grisialu’n berffaith y ddisgwrs bŵer sydd i’w gweld yn iaith y gwaith o dan sylw.

Trafodwyd y syniad o hybridedd yr wythnos diwethaf. Dyma’r syniad yn codi’i ben eto. Yn y weithred o gyfieithu’r testun mae’r greadigaeth wedi dod yn blethiad o ddiwylliannau amrywiol. Gwelir y ddisgwrs bŵer ieithyddol Gymreig a’r un Eingl-Americanaidd ar waith yn yr un ffilm. Mae pob cyfieithiad yn greadigaeth newydd, sy’n ddrych cydamserol ar y rhyngwladol ac ar y lleol, ac ar ei hoes a’i hamseroedd ei hun.

A hithau’n Ddydd y Diolchgarwch, mae’n deg gofyn – tybed sut fyddem ni, siaradwyr Cymraeg y Gymru sydd ohoni heddiw, yn mynd ati i gyfieithu’r ffilm hon? A fyddem ni’n arddel y fath ragdybiaethau tafodieithol a diwylliannol â’r rhai a fu’n sail i’r cyfieithiad gwreiddiol, neu a fyddem ni’n ail-ddiffinio’r cydbwysedd grym yn y gwaith? Ai Bryn Clarke, neu’r Brodorion Americanaidd eu hunain, fyddai’n siarad y Gymraeg goethaf yn ein trosiad modern ni o’r Post ar Garlam?

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s