Y Cyfieithiadau sy’n Celu

Mae Tymor yr Adfent wedi cychwyn, ac mae’r Nadolig ar ei ffordd! Pa lyfrau newydd fydd yn eich hosan chi ar fore’r Ŵyl? A fydd cyfieithiadau yn eu plith?

Marchnad y Nadolig yw un o’r cyfnodau pwysicaf i gyhoeddwyr, argraffwyr a llyfrwerthwyr. Dyma un o’r adegau gorau i gyhoeddi llyfrau newydd, i hyrwyddo hen lyfrau poblogaidd, ac i awgrymu cyfrolau amgen i ddarllenwyr praff y byd.

Dyma’r adeg hefyd i ystyried pa weithiau a fu’n cysgu am flynyddoedd, pa lyfrau y dylid eu hailgyhoeddi, a pha lyfrau coll y dylid eu ail-ddarganfod a’u cyhoeddi am y tro cyntaf un.

Ymhlith y llyfrau coll hyn mae llawer o gyfieithiadau’n celu. Cyfieithiadau sy’n llawn o gyffro a bywiogrwydd hen hanes, cyfieithiadau sy’n gyforiog o dynerwch llenyddiaeth gain, a chyfieithiadau sy’n ddylanwadol o hyd ym mydoedd gwleidyddiaeth, buchedd a moes.

Herodotos_Met_91.8
Copi Rhufeinig (2il ganrif OC) o gerflun Groegaidd (4edd ganrif CC) o Herodotus.

Tybed a wyddoch chi, er enghraifft, fod gennym gyfieithiad o ddetholion o Historia Herodotus, ‘Tad Hanes’ ei hun, chwedl Cicero, yn celu yn nghasgliad Llawysgrifau a Theipysgrifau’r Llyfrgell Genedlaethol? Mae’r Historia’n gofnod amhrisiadwy o draddodiadau, gwleidyddiaeth, daearyddiaeth a’r cyfarfod diwylliannol a oedd i’w gweld yn Nwyrain Asia, Gogledd Affrica a Groeg yn ystod y 5ed ganrif cyn Crist. Gweithredodd fel patrymlun ar gyfer gwyddor hanes am flynyddoedd maith wedi dyddiad ei gyhoeddi.

Mae’r cyfieithiad Cymraeg yn un cain, wedi’i ysgrifennu â llaw gan y cyfieithydd ei hun, un Thomas Eurwedd Williams, yn 1938. Darperir ganddo linell o’r Groeg, a chyfieithiad Cymraeg oddi tano, ar gyfer pob llinell o’r testun. Darperir ganddo hefyd fynegai helaeth o eiriau Groeg yng nghefn ei gyfrol. Dyma un o gonglfeini diwylliannol y byd Gorllewinol, un o destunau hanfodol ein hanes cyffredin, yn y Gymraeg. Oni fyddai’n wych pe gellid cyhoeddi hwn?

Leaving_Lochmaddy_-_geograph.org.uk_-_929584
Y llong deithwyr ‘MV Hebrides’ yn gadael Lochmaddy, Gogledd Uist, ar ei ffordd i Skye.

Neu, tybed a glywsoch chi am gasgliad John Stoddart o straeon byrion Gaeleg yr Alban? Cyhoeddwyd nifer ohonynt yn 2000 gan Wasg Gwynedd mewn cyfrol o’r enw Y meudwy : a storïau Gaeleg eraill, ond mae nifer ychwanegol sy’n bodoli ar ffurf teipysgrif yn unig.

Fe’u cedwir, eto, yn y Llyfrgell Genedlaethol, a’r rhain, hyd y gwyddom, yw’r unig gopïau ohonynt. Mae rhai o gampweithiau llenyddol Domhnall Iain MacDhugail, Cailean T. MacCoinnich, Ruaraidh MacThomais, Donnchadh MacLabruinn ac eraill oll gennym, yn y Gymraeg, yn llawn o ramant Ynysoedd Heledd, dwyster y profiad diasporig, ac ing a gorfoledd y profiad o fod yn ddeiliaid diwylliant lleiafrifol yn y byd sydd ohoni. Byddai’r rhain yn straeon gwych i’w cyflwyno gerbron y Cymry Cymraeg mewn cyfrol gain ar fore dydd Nadolig.

Öèôðîâàÿ ðåïðîäóêöèÿ íàõîäèòñÿ â èíòåðíåò-ìóçåå gallerix.ru
Martin Luther (1533) gan Lucas Cranach yr Hynaf.

I’r sawl a garent drafod y metaffisegol, mae cyfieithiad cyflawn iawn gennym o bregeth a luniwyd gan Martin Luther i’w thraddodi ar y Sul wedi’r Nadolig yn 1522. Fe’i cyfieithwyd gan Pennar Davies yn yr 1950au er mwyn ei darlledu ar y radio. Seiliwyd y bregeth ar lythyr Paul at y Galatiaid, un o hoff rannau Luther o’r Beibl, ac mae’n nodweddiadol o syniadau diwinyddol, gwleidyddol, a chymdeithasol un o dadau’r Diwygiad Protestannaidd. Byddai’r fath destun o ddiddordeb aruthrol i’r hanesydd cyfrwng Cymraeg ac i’r diwinydd Cymraeg ei iaith fel ei gilydd. Ond, eto, ysywaeth, yr unig fodd y medrwn weld y testun teipysgrif ar hyn o bryd yw i chwilio amdano yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Dyma grybwyll dim ond tair enghraifft o’r stôr o gyfieithiadau heb eu cyhoeddi sydd i’w canfod yn y llyfrgell honno. A thybed faint o gyfieithiadau sy’n celu ym meddiant y cyfieithwyr unigol o hyd? Rhai nad ydynt eto wedi cyrraedd casgliad cynhwysfawr y Genedlaethol hyd yn oed?

Mae sawl ffynhonnell bosibl i’w hystyried. Er enghraifft, beth am ddeunydd Eisteddfodol? O ystyried bod cystadleuaeth flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol i gyfieithu drama i’r Gymraeg, ac o gofio na chyhoeddwyd ond cyfran fechan iawn o’r gweithiau buddugol hyn eto, mae deg dweud fod y cyfoeth o gyfieithiadau sy’n bodoli, ac sy’n celu, yn y Gymraeg, yn wirioneddol ryfeddol.

Felly, beth amdani, gyhoeddwyr, llyfrwerthwyr a darllenwyr Cymru? Beth am fynd ati i hela am ein cyfieithiadau coll? Beth am fynd ati i’w golygu, a’u twtio, a’u cyhoeddi, er mwyn iddynt addysgu, diddanu, ac adlonni cenhedlaeth newydd o Gymry Cymraeg? Beth am sicrhau bod o leiaf un o’r llyfrau a fydd yn ein hosanau Nadolig yn y dyfodol yn un o’r cyfieithiadau sy’n celu?

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

w

Connecting to %s