Y Crwydryn a’r Lleuad

“Myfi islaw a thi uwchben,
ni grwydrwn heno, leuad wen”

Johann_Gabriel_Seidl
Johann Gabriel Seidl

Dyma agoriad ‘Y Crwydryn a’r Lleuad’, sef cyfieithiad John Stoddart o gerdd Johann Gabriel Seidl, a ddaeth yn sail i lied enwog Schubert, ‘Der Wanderer an den Mond’. Yn y gwaith, ymbilia’r cantor ar i’r Lleuad fod yn gydymaith cyson iddo, wrth iddo orfod crwydro’n unig o wlad i wlad. Dadleua’r bardd fod y Lleuad yn byw mewn gwynfyd, gan fod pob gwlad, a phob tu, a phob llecyn ir yn gartref iddo.

Mae’n gerdd swynol, ac mae’r alaw sy’n cyd-fynd â hi’n ingol o hardd. Cyhoeddwyd y cyfieithiad Cymraeg ohoni mewn cyfrol swmpus o drosiadau o lieder Almaeneg, Y Gân yn ei Gogoniant, a gyhoeddwyd gan Cyhoeddiadau Barddas yn 1989. Nodir yn y gyfrol fod y Lied Almaeneg yn gyfuniad o gerddoriaeth a barddoniaeth, a’i bod yn ffurf unigryw ar gelfyddyd sy’n perthyn yn gyfan gwbl i’r Almaeneg fel iaith.

Mae’n deg dadlau, er gwaetha’r ffaith nad oes modd cyfieithu’r gair Lied i’r Gymraeg yn uniongyrchol, fod y gweithiau eu hunain yn bethau sy’n croesi ar draws diwylliannau’n hawdd. O ran natur strwythurol daeth y Lied yn ffurf hynod boblogaidd yng Nghymru ar sail anghenion ac estheteg cystadlaethau Eisteddfodol amrywiol y wlad. O ran y themâu a fynegir yn y gweithiau, fel yr ymgom rhwng y crwydryn a’r Lleuad, maent yn bynciau y gall pawb ymdeimlo â hwy.

Apollo_17_Cernan_on_moon
Eugene Cernan, Apollo 17, ar wyneb y Lleuad.

Nid oes ond angen edrych ar y calendr er mwyn cael syniad o’r cyd-ymdeimlad rhyng-ddiwylliannol hwn. 42 o flynyddoedd yn ôl i heddiw glaniodd Challenger, sef capsiwl glanio Apollo 17, ar wyneb y Lloer. Yn y capsiwl roedd Eugene Cernan a Harrison Schmitt, y ddau berson diwethaf i droedio tir ein cydymaith cosmig agosaf. Yn eu gorchest anturus cawsant brofiad gweddnewidiol. Cawsant sefyll ar y Lleuad ac edrych i fyny i weld y Ddaear yn esgyn fry uwch eu pennau. Tynasont lun o’n cartref, ‘Y Belen Las’ neu ‘The Blue Marble’, sydd wedi dod yn ddelwedd eiconig o safle’r Ddaear yn y Cosmos. Roedd y profiad hwn yn un o binaclau eu teithiau. Yr oedd yn brofiad ysgytwol a ddaeth i ran llawer o’r gofodwyr a’u rhagflaenodd hefyd.

The_Earth_seen_from_Apollo_17
Y Belen Las. Un o’r delweddau cynharaf, ac enwocaf, o’r Ddaear gyfan o’r Gofod. Fe’i tynnwyd gan griw Apollo 17 ar eu ffordd i’r Lleuad.

Nododd Mike Collins, gofodwr ar Apollo 11, mai ar y Ddaear yr edrychai’n ddiddiwedd ar ei daith i’r Lloer. Rhyfeddai o weld pa mor frau oedd y Byd mewn gwirionedd. Ategwyd ei sylwadau gan Jim Lovell, gofodwr ar Apollo 8 ac Apollo 13, wrth iddo adrodd am sut yr âi allan o’i ffordd i guddio’r Ddaear â’i fawd tra’n hedfan drwy’r Gofod. Cymaint oedd ei syndod wrth wneud hyn, o feddwl bod pob un o’i gyfeillion, ei deulu, ei gydnabod, ei gyd-wladwyr, yn wir, y ddynoliaeth gyfan yn fyw â’i pharadocsau di-ben-draw, oll ynghudd, am ennyd, y tu ôl i’w un digid bach. A dywedodd Neil Armstrong, y cawr o ffigwr ym myd anturio’r gofod, ei fod, wrth edrych yn ôl ar y Ddaear, yn teimlo’n fychan, fychan, o weld cartref pob un ohonom yn hwylio’n fregus a distaw drwy’r mudandod du.

Cyfieithwyd y profiad Daearol gan yr ymgyrch Ofodol. Gwelsom ein hunain o bersbectif newydd, yn deithwyr oll ar belen fechan las ein cynefin. Dysgasom fod gwirionedd dyfnach i eiriau Seidl ac i geinder nodau Schubert. Dysgasom ein bod oll yn grwydriaid fel y Lloer.

“Ffurfafen Nêr a’i sêr di-ri’
sy’n wlad a chartre’n un i ti;
O, gwyn ei fyd, pwy bynnag fo,
a ddeil er crwydro’n rhan o’i fro.”

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

w

Connecting to %s