T. Ifor Rees a chyfieithiadau Dinas Mecsico

Mexico_Dic_06_045_1
Eglwys Gadeiriol Dinas Mecsico

A wyddoch chi am lyfrau Cymraeg Dinas Mecsico?

Nos Sadwrn diwethaf darlledwyd rhaglen ddifyr ar S4C oedd yn olrhain hanes y diplomydd o Gymro anturus o Fow Street, T. Ifor Rees. Yn y rhaglen, ‘Dylan ar Daith: o Bow Street i Bolifia’, gwelsom Dylan Iorwerth yn dilyn ôl traed Rees ar ei deithiau ym Molifia, lle bu’n Llysgennad Prydeinig am nifer o flynyddoedd. Dysgasom am ddiddordeb Rees yn niwylliannau brodorol y wlad, ei thirwedd ddramatig, a’u gwleidyddiaeth gythryblus.

Teithiodd Rees yn helaeth yn Ne America yn ystod yr ugeinfed ganrif, a chadwodd ddyddiaduron taith manwl o’i anturiaethau. Ymwelodd â nifer o wledydd yn ogystal â Bolifia, gan gynnwys Nicaragua, Venezuela, a Mecsico. Roedd yn gweithio i Swyddfa Dramor Prydain yn Ninas Mecsico yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac yno hefyd y daeth dechrau ar ei yrfa fel cyfieithydd.

Cyhoeddwyd tri chyfieithiad o’i eiddo yn ystod ei flynyddoedd ym Mecsico. Cyhoeddwyd Marwnad a Ysgrifennwyd Mewn Mynwent Wledig, cyfieithiad o Gray’s Elegy, yn 1942; Rubáiyát Omar Khayyám, cyfieithiad o gyfieithiad Saesneg Edward Fitzgerald o’r Rubáiyát Bersieg wreiddiol yn 1939; a Taith o Amgylch fy Ystafell, cyfieithiad o Voyage Autour de ma Chambre, Xavier de Maistre, yn 1944.

Amlinella Rees ei gymhellion dros gyfieithu’r testunau hyn yn ei Ragymadroddion i’r tair cyfrol.

Gray0004
Thomas Gray, awdur ‘Gray’s Elegy’.

“I foddio mympwy, a roes fwynhad i mi heb beri loes i arall,” oedd y rheswm dros gyfieithu’r Marwnad. Cydnebydd fod cyfieithiad Cymraeg o’r gwaith eisoes yn bodoli, hwnnw o eiddo Dafis, Castell Hywel, ond dadleua “er bri y trosiad hwn, rhaid imi gyfaddef na chefais erioed fawr o swyn y gwreiddiol ynddo, gan na chadwyd at fydr y gwreiddiol.” Perthyn nodwedd ddeublyg i’r weithred o gyfieithu i Rees, felly. Yr oedd yn ddiddanwch personol iddo, yn bont rhyngddo â’i hen gynefin tra oedd yn byw ym mhellafion byd, ac hefyd yn gyfraniad uniongyrchol i’r diwylliant llenyddol Cymreig.

Mae ei sylwadau yn ei Ragair i Rubáiyát Omar Khayyám yn amlygu’r un dyheadau deublyg. Noda’n gyntaf taw ar addewid bersonol i rai o’i gyfeillion ym Mecsico yr aeth ati i gyfieithu a chyhoeddi’r cyfieithiad o drosiad Fitzgerald. Ond, yna, â ati i ddyfynnu sylwadau John Morris Jones am waith Fitzgerald. Daw’r sylwadau hyn o Ragymadrodd Jones ei hun i’w gyfieithiad uniongyrchol o’r Rubáiyát Bersieg wreiddiol. Eto, trwy hyn, gwreiddir y cyfieithiad o Dde America yn ddwfn yn y drafodaeth Gymreig. Dywed Jones, wrth iddo sôn am gyfieithiad y Sais, taw “aralleiriad, yn hytrach na chyfieithiad, yw gwaith Fitzgerald. Nid cyfieithu oedd ei amcan yn gymaint â chanu; a chanodd gerdd sydd ymysg gemau godidocaf barddoniaeth Saesneg.” Efallai mai bachu ar y naws delynegol hon oedd amcan Rees yn ei gyfieithiad ef.

Omar_Khayyam_Profile
Omar Khayyám. Daw’r cerflun o Nishapur, Iran.

Amlygir cysyniad Rees o gyfieithu fel gweithred o addysgu personol a chymdeithasol yn gwbl eglur yn ei Ragair i Taith o Amgylch fy Ystafell. Esbonia ei fod wedi cyfieithu’r gwaith am y tro cyntaf ar gyfer cystadleuaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac iddo fireinio’r cyfieithiad hwnnw yn ystod y blynyddoedd wedi hynny. Ei ysgogiad i gyhoeddi’r nofel oedd ei gred bod “cyfieithiadau o’r natur yma o glasuron gwlad arall yn cynorthwyo i gyfoethogi llenyddiaeth Gymraeg ac mai tra buddiol yw gwneud gemau llenyddol ieithoedd eraill yn hysbys i’r sawl na fedr eu gwerthfawrogi yn y gwreiddiol.”

Fel y nodwyd eisoes, cyhoeddwyd y tair cyfrol hon yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ond gan iddynt gael eu cyhoeddi yn Ninas Mecsico, mae eu diwyg yn wahanol iawn i gyfrolau Cymraeg eraill o’r un cyfnod. Maent yn gain, yn addurnedig, yn llawn dyluniadau manwl, ac yn achos Rubáiyát Omar Khayyám yn enwedig, wedi’u haddurno â chyffyrddiadau o liw ar hyd y tudalennau.  Maent, o’u gwneuthuriad yn ogystal â’u testun, yn perthyn i fyd gwleidyddol ac esthetig gwahanol iawn i bau draddodiadol y Gymraeg. Ond y maent hefyd, o ran eu testun ac ymwybyddiaeth ddeallusol eu rhagymadroddion, wedi’u gwreiddio yn nisgyrsiau deallusol Cymreig eu cyfnod. Maent felly yn symbiosis, o ran iaith, diwyg, testun, a chyd-destun, o ddiwylliannau gwahanol o bob cwr o’r blaned.

Dyma destunau symbiotig wedi’u trosi gan unigolyn symbiotig. Dyma Gymro, yn gweithio i Brydain, yn byw ym Mecsico, mewn cyfnod o wrthdaro rhyngwladol byd-eang, yn trosi gweithiau o’r Ffrangeg a’r Saesneg (un ohonynt a chanddo wreiddiau Persieg), i’r Gymraeg. Dyma gyfoeth ein cyfieithiadau oll – maent yn borthiant i aml-ddiwylliannedd ein hunigolyddiaeth a’n dynoliaeth. Maent yn greadigaethau sy’n rhan o’n gwneuthuriad. Fel y dywed Omar Khayyám ei hun:

A rhyfedd sôn, ymlith y cleiog blwy
Llafarol rai, a’r lleill – mudandod hwy:
Ac wele un llai pwyllog yn rhoi llef –
“Atolwg, pwy’r Crochenydd, a’r Llestr, pwy?”

Advertisements

2 thoughts on “T. Ifor Rees a chyfieithiadau Dinas Mecsico

  1. Cyhoeddodd ac argraffodd T Ifor Rees ei gyfieithiad o Rubáiyát Omar Khayyám yn Mecsico. (Tybed sawl cyfrol Gymraeg a argraffwyd yn y wlad?) Roedd cyfaill iddo yn gweithio i Lywodraeth Mecsico ac hefyd wedi cyfieithu’r gwaith (i Sbaeneg mae’n debyg) a mi ddefnyddiwyd rhai o’r un “woodcuts” yn y ddau gyfieithiad. Mae nhw’n arbennig o hardd.

    Hoffi

  2. Ar fy nghopi personol i o ‘Marwnad a Ysgrifennwyd Mewn Mynwent Wledig’ (Copi Rhif XXVIII) y mae T. Ifor Rees wedi ysgrifennu’r geiriau a ganlyn:

    I’r Parch. T. E. Nicholas,
    Gyda dymuniadau gorau’r cyfieithydd
    T. Ifor Rees
    Dinas Mecsico – Rhagfyr 1942

    Hoffi

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s