Y sgwrs Gymraeg rhwng Tolstoi a Phwshcin

Pushkin_Alexander_by_Sokolov_P.
Alecsandr Pwshcin

Mae pob cyfieithiad yn greadigaeth newydd. Gwelsom hynny sawl tro’n barod ar dudalennau’r blog hwn. Gwelsom sut y mynegwyd idiom Gymreig ar ddisgwrs bŵer ieithyddol yn Post ar Garlam, gwelsom sut y portreadwyd Cymru fel rhan o’r Ymerodraeth Brydeinig yn ei chyfieithiadau cenhadol, a gwelsom sut y plethwyd dyheadau cenedlaetholgar Tsiechoslofacia â dyheadau’r Cymry yn rhagymadrodd grymus Storïau Bohemia. Gwelsom werth ym mhob un o’r gweithiau hyn – gwerth eu hybridedd, o fod yn gydamserol leol ac estron, a thrwy hynny, o fod yn greadigaethau newydd, o ran iaith, syniadaeth, a byd-weledigaeth.

Mae gwerth arall i gyfieithiadau hefyd, sef gwerth parhau i gyfieithu. Dyma’r gwerth sy’n codi o lunio mwy nag un cyfieithiad o weithiau iaith, diwylliant, awdur, neu ysgol benodol – gwerth sydd i’w weld yn y sgwrs rhwng gwahanol fynegiannau diwylliannol. Trwy barhau i gyfieithu, cawn fwy na dim ond y profiad o hybridedd rhwng un mynegiant ar ddiwylliant gwahanol â’r iaith darged. Darperir inni hefyd fynegiant ar ddisgyrsiau rhyng-destunol y diwylliant gwreiddiol. Darperir hyn oll trwy gyfwng yr iaith darged, a thrwy hynny, daw’r drafodaeth gyfan yn greadigaeth newydd sydd wedi’i gwreiddio yn hybridedd y rhannu diwylliannol hyn.

Ceir enghraifft berffaith o bwysigrwydd parhau i gyfieithu yn ‘Rhagair’ T. Hudson-Williams i’w gyfieithiad o nofel hanesyddol Alecsandr Pwshcin, Merch y Capten, a gyhoeddwyd gan Y Clwb Llyfrau Cymraeg yn 1947. Yno, fel ym mhob nodyn sydd i’w weld ar ddechrau cyfrol, câr Hudson-Williams gyd-destunio prif waith ei lyfr er hwylustod a golud ei ddarllenwyr. Â ati i esbonio pwy oedd Pwgatsioff – y gwrthryfelwr hwnnw a geisiodd gipio coron Rwsia rhwng 1773 ac 1775 yn ystod teyrnasiad Catrin yr Ail, a’r ffigwr hwnnw a fu’n gymeriad mor fyw a brawychus yn llên gwerin Rwsia am flynyddoedd maith wedi methiant ei gyrchoedd.

Pugachev
Iemelian Pwgatsioff

Esbonnir yr hanes hwn a hanes llunio’r nofel gan Hudson-Williams ar gychwyn ei ‘Ragair’:

“Nofel hanes yw hon â’i sail ar ymchwil yr awdur ei hun; bu’n chwilota’n bybyr yn swyddfeydd y llywodraeth ac aeth ar hyd a lled y wlad i holi’r sawl a oedd yn gyfarwydd ag erchyllterau’r gwrthryfelwyr a’r modd y cosbwyd ef a’i gefnogwyr, cafodd dystiolaeth hefyd am anfadwaith gweision y llywodraeth. Cyhoeddodd Pwshcin Hanes Pwgatsioff yn 1834.”

Ymhelaetha gan nodi fod Rhamantiaeth y nofel yn adlewyrchol o ddylanwad gwaith Walter Scott, a’r nofel Rob Roy yn benodol, ar lenyddiaeth Pwshcin. Cawn yr argraff bod y stori, fel y’i lluniwyd gan Pwshcin, yn blethiad difyr o hanes a chwedlau gwerin â’i bod yn sicr o ddod â’r gwrthryfel yn fyw i’n meddyliau. Eisoes mae’r ysfa i’w darllen wedi cael ei chynnau yn ein calonnau.

Ond, yna, â’r cyfieithydd ati i gyd-destunio’r gwaith unwaith eto, yn y ddisgwrs lenyddol Rwsiaidd y tro hwn. Sonia am y disgrifiad o’r ddrycin sydd i’w weld ar gychwyn Merch y Capten yng nghyd-destun ei gyfieithiad ef ei hun o Yr Ellyllon, cerdd gan Pwshcin a gyhoeddwyd yn Cerddi o’r Rwseg, Llangollen, 1945. Gan iddo gyfieithu’r gwaith hwn mae’r drafodaeth yn agored i’r darllenwr hefyd. Cânt fynd i hela am y gerdd eu hunain, a chytuno, neu anghytuno, â sylwadau’r cyfieithydd ar y mater. Mae rhan o’r ddisgwrs Rwsiaidd wedi’i Chymreigio, a Chymraeg yw’r iaith sydd iddi’n sail.

L.N.Tolstoy_Prokudin-Gorsky
Leo Tolstoi

Dyfynnir wedyn stori fer gyfan o eiddo Leo Tolstoi, sef Pwgatsioff yn rhoi pisyn chwech i Modryb. Stori ydyw a luniwyd gan Tolstoi ar gyfer yr ysgol a gynhaliai ar gyfer taeogion ei stad, Iasnaia Poliana, fel rhan o’i weledigaeth wleidyddol radicalaidd. Edrydd ynddi hanes am sut y bu i’w fodryb ddod wyneb yn wyneb â Pwgatsioff ei hun pan oedd yn eneth ifanc yn ystod y gwrthryfel. Fe’i hachubwyd rhag llid y gwrthryfel gan rai o’r taeogion oedd yn atebol i’r teulu. Dywedasant wrth y milwyr mai un o’u plant nhw oedd hi, ac fe’u credwyd. Mae’r disgrifiad o’r digwyddiad yn frawychus:

“Euthum i gysgu yn y bore cyntaf a phan ddeffroais, gwelais Gasác mewn côb felfed werdd ac Anna yn ymgrymu iddo. Troes y gŵr dieithr at fy chwaer. “Plentyn pwy ‘di hon?” meddai. “Plentyn fy merch sydd gyda’r teulu.” “A hon?” gan droi ataf i.” “F’wyres ydi hithau hefyd.”

Cododd ei fys arnaf. “Tyrd yma ‘mhwt i,” meddai.

Arswydais. “Dos ato fo, Catsan, paid ag ofni,” meddai Anna. Euthum ato. Rhoes ei law ar f’wyneb i a dweud: “Wel, wir, dyma wyneb glandeg, mi fydd hon yn eneth hardd ryw ddydd.” Tynnodd lond ei ddwrn o arian o’i boced a rhoes bisyn chwech imi. “Dyma iti rywbeth i gofio am y brenin,” meddai a mynd allan.”

Dyma un o awduron pennaf Rwsia’n cynnig rhagair i nofel gan un arall o’i phrif lenorion, yn ddiarwybod i’r naill na’r llall ohonynt, mewn iaith na fedrai’r naill na’r llall siarad namyn yr un gair ohoni. Dyma sgwrs rhyng-destunol, sgwrs ddiwylliannol Rwsiaidd, wedi’i llunio’n gyfan-gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg. Crefft ac ymroddiad cyfieithydd i barhau i gyfieithu sy’n sail i’r cyfan hyn.

Dyma werth parhau i gyfieithu. Fe’n galluoga i wneud mwy na dim ond camu i fyd yr awdur unigol, neu’r testun unigol – gwelwn fwy na’r artist yn Philistia, megis. Yn hytrach, fe’n galluoga ni hefyd i gamu i’r bylchau sy’n bodoli rhwng awduron a thestunau, ac i’r sgyrsiau bywiol sy’n sail i bob diwylliant yn eu trylwyredd. Fe’n galluoga ni i gamu’n ddyfnach i fydoedd amrywiol ac aml-haenog y ddynoliaeth.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

w

Connecting to %s