Realaeth ffiwdal Breuddwyd Hafnos

Shakespeare
William Shakespeare

Gall cyfieithu testun ei ailddiffinio’n llwyr. Yn wir, fel y dywedodd J. T. Jones, un o gyfieithwyr mwyaf toreithiog y Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif, yn ei ragair i’w gyfieithiad o’r ddrama Shakespearaidd enwog, Hamlet, “Y mae pob trosiad llwyddiannus o gân neu nofel neu ddrama yn greadigaeth newydd, ac felly’n ychwanegiad at gynhysgaeth artistig a stôr lenyddol yr iaith y’i troswyd iddi.” Un testun sy’n cadarnhau’r datganiad hwn i’r dim yw Breuddwyd Hafnos, cyfieithiad ac addasiad J. Eddie Parry o un o ddramâu eraill y dramodydd mawr o Stratford, A Midsummer Night’s Dream.

Talfyriad yw’r cyfieithiad hwn o’r ddrama wreiddiol hwy. Fe’i cyhoeddwyd mewn cyfrol o ddramâu byrion a fwriadwyd, yng ngeiriau’r cyfieithydd ei hun, “at wasanaeth Ysgolion, Aelwydydd, Clybiau, etc.”, yn 1946. Mae’r modd yr aed ati i dalfyrru’r ddrama’n ei gweddnewid yn eithriadol. Nid drama gomedi am ffolineb boneddigion rhamantus, nac am ddylanwad drygionus y tylwyth teg ar ddynoliaeth, nac hyd yn oed am hud a lledrith bro breuddwydion mohoni mwyach. Erys yn alegori o fywyd, ond mae natur yr alegori honno wedi’i chyfaddasu i’w hoes.

Ni chawn bortread o foneddigion y ddrama wreiddiol yn y cyfieithiad: dim Theseus, dim Hippolyta, dim Hermia, Lysander na neb. Ni chawn ychwaith gwmni tylwyth teg y gwaith Shakespearaidd: dim Oberon, dim Titania, dim Puck hyd yn oed. Yn wir, yr hyn oll a ddysgwn am unrhyw un o’r cymeriadau uchod yw bod “gwyr [sic] mawr” dienw bro’r ddrama’n dathlu priodas, a’u bod am i rai o daeogion y plwyf berfformio drama, Y gomedi ddifrifol a marwolaeth drist, Piramws a Thisbi, i nodi’r achlysur hwnnw. Dônt allan i’r llwyfan yn ail act y ddrama i fod yn gynulleidfa i’r ddrama-o-fewn-drama a berfformir gan y Mechanicals, ond ni chawn gwrdd â nhw’n unigol bryd hynny ychwaith. O ran y tylwyth teg, ysywaeth, ymddengys eu bod oll wedi diflannu o’r tir.

Oberon, Titania and Puck with Fairies Dancing circa 1786 by William Blake 1757-1827
‘Oberon, Titania and Puck with Fairies Dancing’, William Blake, tua 1786. Golygfa estron i ‘Breuddwyd Hafnos’.

Y Mechanicals, felly, yw unig sêr y cyfieithiad hwn o’r ddrama: Peter Quince, Nick Bottom, Francis Flute, Robin Starvelling, Tom Snout, a Snug. Rhain, bellach, yw arwyr ein sioe. Ond, y mae’r cymeriadau hyn hefyd wedi cael eu gweddnewid rywfaint gan y cyfieithydd. Cymreigiwyd eu henwau trwy bwysleisio’u galwedigaethau yn unol ag arferion enwol y Gymru wledig gynt. Bellach, John y Saer yw Quince, Dai Brethyn yw Bottom, Tim y Crydd yw Flute, Morus y Teiliwr yw Starvelling, Sam Tincer yw Snout, a Wil y Gof yw Snug.

Yn wahanol i A Midsummer Night’s Dream, nid stori driphlyg am y gomedi sy’n codi o ymwneud rhamantaidd gwahanol haenau ar gymdeithas mo Breuddwyd Hafnos Parry. Yn hytrach, stori ydyw am un haen o’r gymdeithas honno yn unig; yr haen werinol a thlawd, sy’n cael ei chymell drwy ufudd-dod i arferion perchentyaeth i ddiddanu’r boneddigion lleol. Nid yw’r cymeriadau hyn yn byw mewn byd o hud a lledrith mwyach. Er ei fod, o hyd, yn fyd o gomedi a chwerthin, byd o realaeth wleidyddol ffiwdal yw byd addasiad Parry.

Mae’r portread hwn o un haen gymdeithasol wedi’i datod oddi wrth y lleill yn un trylwyr a chyflawn. Gadewch inni ystyried un enghraifft o’r ddau destun er mwyn deall hyn yn well.

Edwin_Landseer_-_Scene_from_A_Midsummer_Night's_Dream._Titania_and_Bottom_-_Google_Art_Project
‘Titania a Bottom’, Edwin Landseer. Byddai’r olygfa hon yn dra gwahanol pe bai hi wedi’i hysbrydoli gan ‘Breuddwyd Hafnos’. Dim ond Dai Brethyn fyddai i’w weld, ac ni fyddai pen asyn ganddo ychwaith.

O’r dechrau’n deg, diffinnir y Mechanicals Cymreig yn ôl eu cymhwyster i’r dasg o ddiddanu’r bonedd – “Wel, dyma enwau’r bechgyn sy’n ddigon da yn y plwyf hwn, i chwarae yn ein interliwt ar ddydd priodas y gwyr mawr, yn y nos,” meddai John Saer yn nhrydedd llinell y ddrama.

Tebyg iawn ydyw i’r modd y cyflwynir y Mechanicals yn A Midsummer Night’s Dream yn Act 1, Golygfa 2. Ond, yn y fersiwn honno, yr ydym eisoes wedi cwrdd â Theseus, Hippolyta, a Philostrate, Meistr y Dathlu, yn yr olygfa gyntaf oll. Yr ydym wedi gweld eu bod hwythau hefyd yn brysur yn paratoi ar gyfer y briodas fawr. Yn ogystal, ymddengys fod sgôp bywyd y perfformwyr yn y fersiwn Saesneg yn sylweddol ehangach na’r rhai Cymreig. Sylwer ar y manylion yn y dyfyniad isod o’r gwreiddiol:

“Here is the scroll of every man’s name, which is
thought fit, through all Athens, to play in our
interlude before the duke and the duchess, on his
wedding-day at night.”

Mae’r ddau fersiwn yn debyg, ond mae’r plwyfoldeb Cymreig, o’i gymharu ag ystod Athen gyfan yn y gwreiddiol, yn rhoi tymer wahanol i’r darn. Hefyd, mae’r manylion am y dug a’r dduges, a’r hyn a ddysgasom amdanynt yn yr olygfa flaenorol, yn eu dyneiddio, yn hytrach na’u harallu fel y gwna “gwyr mawr” y fersiwn Cymraeg. Yn y fersiwn honno, nid ydynt yn ddim ond mynegiannau moel o bŵer bydol.

Ceir yn yr addasiad hwn lawer o gig i’r beirniad llên i gnoi cil arno. Mae’n brawf o ddatganiad J. T. Jones am natur cyfieithiadau, ac y mae’n ffenestr ar weledigaeth Gymreig ar hierarchaeth gymdeithasol yng nghanol yr ugeinfed ganrif. Yn bennaf oll, mae’n arwydd fod pob cenhedlaeth, a phob darllenwr unigol hyd yn oed, yn ail-ddiffinio llên yn barhaus. Yn hynny o beth, mae’n deg dadlau ein bod oll, o’n hanfod, yn gyfieithwyr.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s