Sgwrs â Siân Melangell Dafydd

Sian Melangell
Siân Melangell Dafydd

Mae Siân Melangell Dafydd, yr awdur a bardd o Gymru sy’n byw ym Mharis, wrthi’n ddyfal ar hyn o bryd yn cyfieithu rhai o straeon byrion a llythyron Rabindranath Tagore, yr awdur Bengali byd-enwog a enillodd Wobr Nobel am Lenyddiaeth yn 1913, i’r Gymraeg. Ces innau’r fraint yr wythnos hon o gael sgwrsio â Siân dros Skype am y prosiect cyffrous hwn, am yr hyn a’i denodd a sy’n parhau i’w denu at waith Tagore, ac am ei hystyriaethau am y broses o’u cyfieithu ac am gyfieithu’n gyffredinol.

Er ei bod yn ymwybodol ohono fel bardd ers amser, deffrowyd diddordeb ddofn Siân yng ngwaith Tagore am y tro cyntaf gan weithdy cyfieithu Bengali a Chymraeg a gynhaliwyd gan Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Medi 2014. Yno, aeth rhai o gyfieithwyr, beirdd ac ysgolheigion pennaf Cymru ati i gydweithio â phedwar ysgolhaig o Brifysgol Jadavpur (Kolkata, India) i drosi gweithiau’r awdur nodedig i’r Gymraeg. Trafodwyd barddoniaeth, rhyddiaith, erthyglau a straeon byrion yn y gweithdy, ond y rhyddiaith, a’r llythyron yn enwedig, a ddenodd bryd Siân o’r cychwyn.

Tagore3
Rabindranath Tagore, tua 1915.

“Ma’ ‘na hiwmor ynddyn nhw, sti,” meddai amdanynt yn ein sgwrs, “mae o’n llai ar ei geffyl mawr awdurdodol ynddyn nhw. Mae ‘i lythyra fo fel llên meicro. Mae o’n fwy byw ynddyn nhw, r’wsut.”

Yn ogystal ag uniongyrchedd mynegiant ei lythyron mae ymdriniaeth Tagore o ymwneud dynoliaeth ag afonydd hefyd yn rhan o’i apêl i Siân. Efallai fod hyn yn anochel, a hithau’n awdur Y Trydydd Peth, nofel sy’n canolbwyntio ar berthynas un dyn ag afon ei fywyd. Noda ei bod, o ganfod awdur sydd yn hoff o fyfyrio dros “sut y mae cymdeithas yn cwmpasu afon”, wedi cwrdd ag enaid hoff cytûn o ymgyfarfod â gwaith Tagore.

Enaid hoff cytûn arall i Siân ar y prosiect hwn yw ei chyd-gyfieithydd, Sampurna Chattarji. A hithau’n feistres ar y Fengali, iaith estron i Siân, gweithiant gyda’i gilydd i ddeall y testunau, gan ddefnyddio’r Saesneg fel iaith bont i groesi rhwng y gwreiddiol â’r Gymraeg. Yn y cydweithrediad hwn mae’r llythyron a’r straeon wedi dod yn brofiadau torfol a lleisiol hefyd – mae’n arfer gan deulu Sampurna i ddarllen darnau o waith Tagore yn uchel fin nos pan fo Siân yn ymweld â hwy, yn gyntaf yn y Fengali ac yna yn y Saesneg. Bydd hi’n lawenydd pur, mae’n siŵr, pan ddaw’r dydd pan fydd y Gymraeg yn ymuno â’r ieithoedd eraill yn y perfformiad llafar bywiog hwn.

Mae gan Sampura â Siân lawer i’w drafod wrth gyfieithu o’r Fengali drwy’r Saesneg i’r Gymraeg. Yn ein sgwrs, soniodd Siân am un enghraifft, y gair Bengali “Sukh”. Gellir ei gyfieithu fel anwyldeb, daioni, iechyd, melyster, ac fel plethiad o’r cysyniadau hyn oll. Heb ddealltwriaeth Sampurna o’r iaith wreiddiol byddai’r cyfoeth ystyr hwn yn cael ei golli, pe trosid y gwaith o’r Saesneg yn unig. Heb feistrolaeth Siân ar y Gymraeg ni fyddai’r un cyfoeth ystyr, a’r un cysyniad cain, yn cael ei gyfleu’n eglur i bau diwylliant newydd. Mae’r broses o gyfieithu felly’n un greadigol i’r ddwy gyfieithwraig fel ei gilydd. Fel yr esboniodd Siân:

Gweithdy Cyfieithu
Gweithdy Cyfieithu Cymru-India Translation Workshop Prifysgol Aberystwyth & Jadavpur University, Aberystwyth 8-10/09/2014

“Does na ddim darllen mwy intimate yn bodoli na chyfieithu, dim modd o wranglo efo iaith arall sy’n debyg iddo fo. Mae o’n ddifyrrwch personol sy’n arwain, gobeithio, at ddifyrrwch hefyd i’r darllenwr. Mae o’n galluogi ti i siarad dy iaith dy hun mewn iaith wahanol.”

Perygl mawr i ni yw meddwl fod iaith yn beth statig, yn ffenomen a ellir ei rhewi mewn gramadeg a geiriadur, neu a ellir ei chywasgu i ffiniau termau mor eang â ‘Ffrangeg’, ‘Saesneg’, ‘Bengali’ neu ‘Cymraeg’. Dengys Siân yma fod mwy i iaith dyn na dim ond geiriau – mynegwn ein hunain drwy symbolau, drwy gysyniadau, drwy ysgogiadau, a thrwy ystumiau o bob math. Mynegwn ein hunain drwy iaith sydd y tu hwnt i gwmpas mynegiant unrhyw un iaith unigol o ieithoedd y ddynoliaeth. Mynegwn ein hunain yn ein hybridedd, yn ein cyfieithiadau parhaus o bob profiad cysefin.

Edrychaf ymlaen yn arw at gael darllen cyfieithiadau Cymraeg Siân o waith Tagore. Edrychaf ymlaen at gael profi, o’u darllen, rhywfaint o’r hybridedd iachus a fynegir drwyddynt, ac a brofwyd yn ystod y broses o’u creu.

Advertisements

Pen-Blwydd Hapus William Shakespeare!

Mae hi’n ben-blwydd ar William Shakespeare heddi, ac i ddathlu, mae Blog Cronfa Cyfieithiadau’r Gymraeg wedi llunio eitem arbennig iawn – wele, felly, berfformiad aml-ieithog o ‘Soned 30’, gan y dyn ei hun:

Penblwydd Hapus William Shakespeare!

 

Dau lun a Dulyn

Dros y Pasg es i a’m cariad ar ein gwyliau i Ddulyn.  Aethom i weld holl ryfeddodau’r lle, o’r casgliad euraidd ysblennydd yn yr Amgueddfa Archaeolegol Genedlaethol, i berfformiadau cerddoriaeth werin yr ŵyl lyfrau, barddoniaeth a cherddoroliaeth a gynhaliwyd nid nepell o’n gwesty, i ryfeddodau’r lepreconiaid, hyd yn oed, yn Amgueddfa Genedlaethol y Leprecorniaid (un o ganolfannau mwyaf eclectig y byd, bid siŵr!) ar lannau’r afon Liffey. Cawsom amser braf tu hwnt, a dihangfa barod, am rai dyddiau, rhag dyletswyddau ein bywydau beunyddiol.

Lady Hazel Lavery
Y Foneddiges Hazel Lavery, y model ar gyfer y paentiad o ‘Cathleen ni Houlihan’ gan John Lavery. Mae’r paentiad ei hun dan hawlfraint o hyd, felly nid oes modd imi ei rannu yn y blog hwn. Gellir chwilio amdano ar-lein, fodd bynnag.

Gwelsom hefyd ddwy ddelwedd a barodd imi ystyried sut y mae pob cenhedlaeth yn cyfieithu eu heiconograffiaeth at ddibenion eu byd a’u hoes. Ymhlith yr atyniadau a welsom oedd Oriel Genedlaethol Iwerddon. Yno cawsom gip ar holl gyfnodau hanes celf y byd, a holl nodweddion unigryw’r byd celfyddydol Gwyddelig dros y canrifoedd, o Glasuraeth Bensaerniol James Malton, i Ramantiaeth y Diwygwyr Celtaidd, i Foderniaeth unigryw Jack Butler Yeats, a llawer mwy.

Ymysg y gweithiau rhyfeddol hyn oedd un o ddelweddau enwocaf yr Iwerddon fodern, sef paentiad John Lavery o’i wraig, y Foneddiges Lavery, fel ‘Cathleen Ni Houlihan’. Personoliad o Iwerddon ei hun ar ffurf geneth, un gydamserol hen ac ifanc, yw Cathleen ni Houlihan, a bu’n sail i lawer o weithiau celfyddydol a gwleidyddol ar droad yr ugeinfed ganrif.

Hon oedd yr hen wreigan, a’r cymeriad enwol, yn nrama W. B. Yeats a’r Foneddiges Gregory, Cathleen Ni Houlihan (1902), a hudodd lanc ifanc o’i briodas ei hun i fartsio i ymuno â’r Ffrancwyr yng ngwrthryfel 1798, ac i aberthu ei hun er ei mwyn, ar allor ei wlad. Ei llais hi a fynegodd yn fwyaf croyw, yn y ddrama honno, y syniad Rhamantaidd o hawl cenedl dros einioes ei phobl. Hon a hudodd y llanciau o freichiau eu morynion. Hon oedd Iwerddon, wedi colli ei ‘phedwar cae gwydd a hardd’, yn adnewyddu ei hunan yn dragywydd yng ngwaed ei phlant. Fel y dywed Peter wrth Patrick yn y ddrama, yn fuan wedi i’r llanc ifanc fynd i ryfel ac wedi i’r hen wreigan ddiflannu:

“Peter [to Patrick, laying a hand on his arm]: Did you see an old woman going down the path?

Patrick: I did not, but I saw a young girl, and she had a walk like a queen.”

Scene_From_Cathleen_Ni_Houlihan_-_Project_Gutenberg_eText_19028
Perfformiad cynnar o ddrama W. B. Yeats a’r Foneddiges Gregory, ‘Cathleen ni Houlihan’.

Cymaint oedd dylanwad y ddelwedd hon o’r Foneddiges Lavery nes iddi gael ei defnyddio ar arian y Weriniaeth am y rhan fwyaf o’r ugeinfed ganrif, gan gael ei gosod yno’n bwrpasol gan y Wladwriaeth Rydd Wyddelig yn yr 1920au fel symbol o’u hannibyniaeth newydd. Perfformiwyd Iwerddon ganddi, a thrwyddi, ac er ei mwyn.

Gadawsom yr Oriel i gael cnoi cil ar yr hyn oll a welsom, ond wrth gamu drwy’r drws sylweddolasom fod gorymdaith arall, nid annhebyg i’r un ryfelgar honno a ddisgrifiwyd gan Yeats a Gregory yn eu drama, yn digwydd yn syth o’n blaenau. Roedd miloedd o bobl wedi dod i gerdded drwy ganol Dulyn i brotestio yn erbyn ymgyrch y llywodraeth bresennol i godi treth ar gyflenwadau dŵr y wlad. Cerddon nhw’n un llif di-dor heibio i ni am rai munudau, yn chwifio’u baneri trilliw, yn dosbarthu taflenni’n llawn gwybodaeth am yr achos, ac yn canu alawon cyfarwydd eu bro.

Yn eu plith, roedd un gŵr bonheddig yn cario placard grymus ei neges – “Do I belong in Ireland?”. Tynnais lun ohono, ac wrth edrych ar sgrin y camera i weld y ddelwedd a dynnais, meddyliais am yr hyn yr oeddwn newydd ei weld gwta funudau ynghynt. Dau lun yng nghanol Dulyn, y naill yn perfformio’r Iwerddon Ramantaidd yn ddiogel rhwng muriau’r oriel, a’r llall yn perfformio’r Iwerddon radicalaidd yn fyw ar strydoedd moel.

Do I belong in Ireland
‘Do I belong in Ireland’, protestiwr yn gorymdeithio drwy Ddulyn, 21 o Fawrth, 2015

Meddyliais am y wraig yn y paentiad, yn ymbil am gartref wedi’r crwydro maith, ac yna am y gŵr yn y llun, yn galw am yr un peth, ac yntau ar grwydr o hyd. Yr un oedd dyhead y ddau ffigwr yn y naill lun fel y llall, sef ceisio dirnad eu perthynas â’r wlad oedd yn gartref iddynt. Ond, tra’r oedd Cathleen yn ystyried fod ganddi hi, fel y wladwriaeth, hawl ar dynged ei thrigolion, roedd y gŵr bonheddig yn y brotest yn anghytuno’n llwyr â hi. Ei her yntau oedd galw ar i’r wladwriaeth i fod yn atebol i’w phobl. Mae’r ddelwedd ohono’n cario’i blacard yn ddatganiad uniongyrchol o wrthryfel yn erbyn neges y wraig yn y paentiad hŷn. Bygythiad ydyw i hawlio’r pedwar cae yn eu holau.

Dyma ddwy ddelwedd sy’n cyfieithu ‘Iwerddon’, sy’n ei diriaethu, sy’n eu llunio’n drafodaeth ddeallusol. Dengys y ddwy rai o’r newidiadau sylfaenol a ddaeth i’r meddwl dinesig diweddar am y syniadau o atebolrwydd cenedl i’w thrigolion, o bwrpas ac amcan democratiaeth, ac o rym cenedlaetholdeb sifig ar draul cenedlaetholdeb Ramantaidd. Dengys y ddwy ohonynt ein bod, o oes i oes, yn gyfieithwyr – yn ddehonglwyr, ac weithiau hyd yn oed, tan orfodaeth, yn ddinistrwyr; yn gadwraethwyr eiconoclastig ar ein byd.

Bob dydd Iau …

10552603_10152257123902444_1134793980587915499_n
Yr awdur yn trafod Tri Hamlet y Gymraeg …

Mae’r tymor academaidd newydd ar fin dechrau, ac yn ei sgil, bydd Blog Cronfa Cyfieithiadau’r Gymraeg yn ei ôl!

Galwch draw yma’n wythnosol o wythnos nesaf ymlaen i ddathlu rhai o gyfieithiadau gorau’r Gymraeg.

Yn yr wythnosau nesaf byddwn ni’n cael cip ar gyfieithiadau a chelfyddyd gain Iwerddon, byddwn yn sgwrsio â chyfieithydd sydd wrthi’n ddyfal ar hyn o bryd yn cyfieithu rhai o weithiau mawr y byd i iaith y nefoedd, byddwn yn dathlu penblwydd William Shakespeare mewn modd unigryw a chyffrous, byddwn yn adolygu perfformiad terfynol Maccy o’u dehongliad, a’u Cymreigiad, arbennig hwythau o ‘On the Road’ gan Jack Kerouac, a llawer, llawer mwy!

Felly, cofiwch, o wythnos nesaf mlaen unwaith eto – Bob dydd Iau, bydd cyfieithiadau!