I Ddwyrain fy Ieuenctid

Alaw a Charwyn yn Nhyddewi
Alaw a Charwyn yn Nhyddewi

Ychydig o wythnosau yn ôl ces i’r cyfle i fynychu I Ddwyrain fy Ieuenctid, sef perfformiad aml-gyfrwng MACCY o’u cyfieithiad, a’u Cymreigiad, o On the Road gan Jack Kerouac. Trafodwyd cychwyn y prosiect ar y blog hwn yn ystod mis Mawrth eleni.

Yn y ddrama cawsom ein tywys i fyd hybrid oedd i’w ganfod rhywle rhwng Cymru a’r UDA, a chyflwynwyd ger ein bron ystyriaethau dwys a digrif am hunaniaethau amrywiol ein bywydau modern.

Trefnwyd y gofod perfformio mewn dull dyfeisgar tu hwnt. Gosodwyd y gynulleidfa i eistedd fel pe baent ar seddi bws. Roedd pob cadair mewn rhesi byrion o dri, gydag eil fechan yn rhedeg drwy eu canol. Amgylchynwyd y seddi hyn ar dair ochr gan lenni hanner-dryloyw. Goleuwyd y rhain mewn amrywiol ffyrdd yn ystod y perfformiad i gyfleu nos a dydd, dinas a dôl, a dedwyddwch a thristwch mwll. O’n blaenau gosodwyd sgrin fawr, ac ar y sgrin honno tafluniwyd fideo o daith fawreddog MACCY o gwmpas Cymru gyfan, pan fu iddynt ddilyn ôl traed Kerouac ar dir na throediodd ef mohono fyth.

Salt Lake City
Cartrefoliad MACCY o Salt Lake City

Roedd y ffilm o’r daith, yn ei symud di-baid, yng nghyflymdra byrlymus mudiant y fan, ac ym mywiogrwydd y pedwar teithiwr, yn asio’n berffaith ag arddull y nofel wreiddiol. Yr un oedd rhyferthwy’r daith â rhyferthwy’r teipio ar deipiadur Kerouac gynt, a’r un oedd y cyffro ym mronnau’r gynulleidfa wrth ymwneud â’r naill waith fel y llall.

Cartrefolwyd y daith gan y dirwedd a’r trefi cyfarwydd ar y sgrin. Cartrefolwyd yr iaith ei hun gan gyfieithiadau a darlleniadau unigryw’r pedwar perfformiwr. Aeth pob un o’r pedwar, Alaw, Carwyn, Gwion a Lucy, ati i gyfieithu’r darnau y byddent hwy’n eu datgan o’r nofel yn y perfformiad yn annibynnol. Aethant ati i geisio dal naws a nodweddion eu tafodieithoedd yn eu cyfieithiadau, gan drosi iaith lafar yr awdur yn gyfan-gwbl i amrywiol beuoedd y Gymraeg. Roedd eu lleisiau’n gymaint o fap o Gymru â’r daith ar y sgrin, gyda seiniau o’r Gogledd i’r De, ac o’r Dwyrain i’r Gorllewin, oll yn atsain yn ein clustiau wrth i’r ffordd ymestyn yn un rhibin hir o’n blaenau.

Lucy dan Ymbarel
Lucy’n mochel dan ymbarél.

Cawsom wledd, felly – un llythrennol, o gofio’r bwyd a ddosbarthwyd gan y pedwar actor yn ystod y perfformiad, a hefyd un ddeallusol. Cawsom gip ar Gymru drwy brism awdur o’r Unol Daleithiau, a chawsom gip ar Kerouac drwy ysbienddrych unigryw Gymreig. A chawsom hefyd ddoethineb, yn y daith a oedd yn para byth.

Dadl fawr Kerouac oedd mai’r weithred decaf a mwyaf urddasol y gallai unrhyw un ei chyflawni oedd parhau i symud yn dragywydd, ac mai’r daith sy’n bwysig bob tro, nid ei chyrchfan. Dyna hefyd oedd neges rymusaf perfformiad MACCY, i mi. Yn y mapio diriaethol a thafodieithol a wnaed o Gymru, dangoswyd mai symudliw yw’r naill gysyniad fel y llall. Nid oes na’r un Gymru unffurf, na’r un Gymreictod benodedig, ond yn hytrach mae can-mil o Gymruoedd a Chymreictodau sydd oll yn newid yn barhaus. Cael y cyfle i weld y newidiadau a’r amrywiadau hyn, a chael pharhau i deithio wedyn i gael gweld mwy ohonynt fyth, yw un o anrhydeddau pennaf y byd –

‘Sal, we gotta go and never stop going ’till we get there.

Where we going, man?

I don’t know but we gotta go.’

Advertisements

Dehongli Cyfieithu Diwylliannol

Cyfieithu Thingy2
Un o drafodaethau bord gron ‘Gweithdy: Dehongli ‘Cyfieithu Diwylliannol’ ar draws ein disgyblaethau’.

Ar ddydd Llun yr wythnos hon cynhaliwyd ‘Gweithdy: Dehongli “Cyfieithu Diwylliannol” ar draws ein disgyblaethau’ gan Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a Chyfryngau Creadigol, Prifysgol Aberystwyth. Am brynhawn cyfan, aeth ysgolheigion, myfyrwyr a chyfieithwyr o bob maes yn yr Athrofa ati i drafod, dehongli, a dathlu Cyfieithu Diwylliannol drwy gyfrwng papurau academaidd, darlleniadau a sesiynau bord gron. Cawsom yno hefyd gwmni dau o Bartneriaid Creadigol yr Athrofa, Sampurna Chattarji a Siân Melangell Dafydd.

Trefnwyd y digwyddiad gan Y Ganolfan Cyfieithu Diwylliannol, corff o fewn y Brifysgol sy’n cydnabod cyfieithu fel proses gymdeithasol, wleidyddol a diwylliannol o gyfnewid rhwng ieithoedd a rhwng testunau ar draws sawl math ar gelfyddyd a mynegiant. Pwysleisir ganddynt fod astudiaethau llenyddol, hanesyddol, creadigol, cyfryngol o gyfieithu, ynghyd ag astudiaethau diwylliannol o’r maes, yn allweddol i’r dehongliad hwn. Ceir yng ngwaith y Ganolfan ffocws bendant ar astudiaethau cymharol, traws-ddiwylliannol, rhyngddisgyblaethol a dwyieithog/amlieithog. Yn ganolog i’w gweledigaeth hefyd y mae cydnabod yr hyn a elwir ‘ieithoedd lleiafrifol’ neu’n ieithoedd lleiafrifoledig.

Cyfieithu Thingy
Llawer o’r bobl a fynychodd y digwyddiad yn llon eu byd ar ddiwedd y gweithdy.

Roedd y gweithdy ei hun yn un llawn bwrlwm a dyfeisgarwch, ac yn wledd o drafodaethau ac ystyriaethau am gyfieithu. Cawsom drafodaethau am safle cyfieithu yn llenyddiaeth yr Holocost gan Dr Andrea Hammel a Sylvia Degen, ill dwy o’r Adran Ieithoedd Ewropeaidd. Dysgom gan Dr Cathryn Charnell White o Adran y Gymraeg am brosiect newydd a chyffrous i fapio Barddoniaeth Menywod yn Iwerddon, yr Alban a Chymru. Cawsom glywed gan Keeley Celia Laufer, myfyrwraig israddedig o’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, am ei phrosiect o gyfieithu’r corff dynol mewn barddoniaeth yn ‘The Tooth as a physical embodiment of identity in Literature’. Aeth Ashley Joy Wakefield, myfyrwraig PhD o’r un adran, â ni ar daith i’r hen fyd Eingl-Sacsonaidd, i fyd y bardd modern, ac i fethodoleg cyfieithu diwylliannol ar draws cyfnodau amseryddol maith, mewn cyflwyniad difyr tu hwnt am ei phrosiect doethuriaethol, ‘Cultural Translation in Contemporary Adaptations of the Anglo-Saxon poem Judith‘. Bûm innau’n traethu hefyd, gan gynrychioli Canolfan Mercator, Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu. Yn fy mhapur, ‘Cronfa Cyfieithiadau’r Gymraeg: Cyfieithu i’r Gymraeg yn yr Ugeinfed Ganrif’, trafodais Gronfa Cyfieithiadau’r Gymraeg, prosiect y Detholion, Blog Cronfa Cyfieithiadau’r Gymraeg, a hanes cyfieithu yn yr ugeinfed ganrif yng Nghymru a’r Gymraeg.

Cawsom hefyd drafodaethau bord gron difyr tu hwnt, gyda chyfraniadau gan unigolion fel Alexandra Büchler, Cyfarwyddwr Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau; Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr Iaith a Diwylliant Cymraeg & Athro yn y Cyfryngau a’r Diwydiannau Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth; Rowan Zhao, myfyrwraig ôl-raddedig o Adran y Gymraeg sydd wrthi ar hyn o bryd yn cyfieithu’r Mabinogi i’r Tsieineeg; ac Emily Trahair, Golygydd Cylchgrawn Planet, i enwi ond ychydig ohonynt.

Sampurna a Sian
Sampurna Chattarji a Siân Melangell Dafydd yn darllen eu cerdd aml-ieithog.

Uchafbwynt y digwyddiad oedd cael clywed gan ddau Bartner Creadigol yr Athrofa, Sampurna a Siân. Trafododd y ddwy eu hystyriaethau am gyfieithu’n unigol yn gyntaf – soniodd Sampurna am ei phrofiadau o gyfieithu gwaith Sukumar Rai i’r Saesneg o’r Fengali, a soniodd Siân am sut yr aeth hi a Tony Bianchi ati i gyfieithu rhannau o’i nofel arobryn hi, Y Trydydd Peth, i’r Saesneg.  Yna, aethant ati i drafod eu prosiect presennol o gyfieithu gwaith Rabindranath Tagore ar y cyd o’r Fengali i’r Gymraeg, gan ddefnyddio’r Saesneg fel iaith bontio rhwng yr iaith wreiddiol a’r iaith newydd.

Yna, yn goron ar y cyfan, cawsom ddarlleniad ar y cyd gan Sampurna a Siân o gerdd Gymraeg a gyfieithwyd gan Sampurna i’r Saesneg. Darllenwyd y cerddi linell am linell, gyda Sampurna’n darllen llinell o’i chyfieithiad, ac yna Siân yn adleisio’r llinell honno â’r llinell Gymraeg wreiddiol. Am beth gwirioneddol wefreiddiol ydoedd – y fath ryfeddod o blethiad ieithyddol, ac o gyfathrebiad lenyddol, ac o amlddiwyllianedd fyw. Roedd yn fraint cael bod yno i’w glywed.

Neges bennaf y digwyddiad oedd fod llawer, llawer mwy i’w drafod yn y maes bywiog, aml-haenog hwn. Mae’n hanfodol ein bod yn gwerthfawrogi ac yn dathlu ein cyfieithiadau diwylliannol. Mae’n bwysig fod gwaith y Ganolfan Cyfieithu Diwylliannol yn parhau, a’n bod oll dal ati i gyfieithu ein diwylliannau ac i siarad â’n gilydd a chyd-rannu hynodrwydd ein ieithoedd a’n byd.

Nid ar bob dydd Iau fydd etholiadau!

Etholiad Cyffredinol 2010 2
Map o ganlyniadau Etholiad Cyffredinol 2010.

Dros yr wythnosau diwethaf yr wyf i, fel cymaint o drigolion Cymru a holl genhedloedd y Deyrnas Unedig gyfan bid siŵr, wedi bod yn darllen erthyglau, blogiau, pyst facebook a twitter, ac eitemau amrywiol eraill am yr Etholiad Cyffredinol. Dyma’r adeg pan fyddwn yn pwyso a mesur holl ddadleuon a pholisïau y gwahanol ymgeiswyr yn ein hetholaethau unigol, yn ystyried dylanwad eu pleidiau amrywiol ar wleidyddiaeth ein cenedl, ar wleidyddiaeth San Steffan, ac ar wleidyddiaeth y byd ehangach. Dyma’r adeg pan fyddwn ni’n perfformio un o’n hawliau sylfaenol fel dinasyddion gwladwriaeth ddemocrataidd fodern – yr hawl i’n ewyllys a’n rhyddid unigol i ddewis natur atebolrwydd ein gwladwriaeth statudol.

Mewn cyfnod o’r fath, mae’n naturiol ein bod yn edrych yn ôl ar dwf yr hawl hon, y cysyniad hwn o ddinesydd fel unigolyn sofran o fewn gwladwriaeth atebol. Olrheinir cnewyllyn y syniad hwn, yn y byd modern, i’r Ymoleuedigaeth, i oes Thomas Paine a’i debyg, i flynyddoedd y Chwyldro Americanaidd a’r Chwyldro Ffrengig, ac i ddyddiad cyhoeddi un ddogfen ddylanwadol iawn, sef y Déclaration des droits de l’homme et du citoyen.

Le_Serment_du_Jeu_de_paume
Dyluniad gan Jacques-Louis David o’r “Llw Cwrt Tenis” ar adeg ffurfio Cynulliad Cenedlaethol Ffrainc yn 1789.

Cyhoeddwyd y ddogfen hon ar y 26ain o Awst, 1789, gan Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc, yr endid gwleidyddol ifanc hwnnw a ymffurfiodd yn sgil chwyldro’r misoedd cynt. Yr oedd yn ddogfen a oedd yn ail-ddiffinio perthynas y wladwriaeth â’i dinasyddion. Ynddi mynegwyd rhai o syniadau pennaf yr Ymoleuedigaeth am unigolyddiaeth, hawliau’r unigolyn, ewyllys rydd, a chytundeb gymdeithasol. Mynegwyd ynddi weddnewidiad ar yr hen syniad o ddinasyddion fel grŵp a oedd yn atebol – yn deyrngar ac yn ufudd hyd yn oed – i’r grymoedd uwch eu pennau, boed y rheiny’n rhai economaidd, yn rhai sefydliadol, yn rhai crefyddol neu’n rhai ffiwdal. Dadleuwyd ynddi yn hytrach fod pob unigolyn wedi’i eni yn rhydd i ddewis ei dynged ei hun, ac mai amcan gwladwriaeth yw amddiffyn yr hawl hon i ryddid a llewyrch a llawenydd unigol.

Bu’r ddogfen yn batrymlun ar ryddfrydiaeth wleidyddol newydd mewn sawl man, gan gynnwys Prydain a Chymru. Traddododd Richard Price, yr athronydd ymneilltuol o Gymru, bregeth gynhyrfus yn Llundain yn Nhachwedd 1789, A Discourse on the Love of our Country,  a alwyd gan lawer yn ddigwyddiad cyntaf y Chwyldro Ffrengig ym Mhrydain. Serch hynny, gwir gymhelliant y bregeth oedd coffau digwyddiadau 1688, pan y diorseddwyd y Brenin Iago II a phan osodwyd William a Mary yn ei le. Fodd bynnag, fe’i gwreiddiwyd hi’n bwrpasol gan Price yn syniadau’r Chwyldro Americanaidd a’r Chwyldro Ffrengig am ryddid a hawliau dyn. Pan ddaeth hi’n amser i gyhoeddi’r bregeth, cynhwysodd Price gyfieithiad Saesneg o’r Déclaration des droits de l’homme et du citoyen , sef Declaration of the Rights of Man and of the Citizen yn y gyfrol, gan blethu ei syniadau ef â syniadau’r datganiad yn eglur.

(c) Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales; Supplied by The Public Catalogue Foundation
Richard Price.

Mae gennym gyfieithiad Cymraeg o’i bregeth ac o’r datganiad – Cariad at Ein Gwlad yw’r bregeth, a Datganiad ar Iawnderau Dyn a’r Dinesydd yw enw’r datganiad. Fe’u cyfieithwyd ar gais Llyfrgell Genedlaethol Cymru gan P. A. L. Jones yn 1989 i goffau daucanmlwyddiant y Chwyldro. Fel y nododd y cyfieithydd yn Rhagymadrodd y cyfieithiad, gwnaed hynny oherwydd, ‘o’r cychwyn roedd yn amlwg bod y Chwyldro o’r pwys mwyaf, nid yn unig i Ffrainc ond i’r byd cyfan, ac fe’i croesawyd yn frwd gan radicaliaid ym mhob gwlad.’ Peth hanfodol yn wir yw fod gennym ddogfen mor ddylanwadol yn ein hiaith ein hunain.

Ac felly, yng ngoleuni’r cytundeb sifig hwn a hawliwyd ar ein cyfer, gadewch inni ryngweithio ag ef heddiw, bob un ohonom yn unol â’n cydwybod bersonol, bob un fel dinesydd a chennym yr hawl i ddiffinio eu gwladwriaeth statudol, a phob un fel unigolyn a aned yn rhydd, gan mai ‘diben pob cymdeithas wleidyddol yw cadwraeth iawnderau naturiol a chynhenid dyn, sef rhyddid, eiddo, diogelwch, a’r hawl i wrthsefyll gormes.’ Canys, nid ar bob dydd Iau fydd etholiadau!