I gamu’n ddewr i beuoedd newydd…

Y Dosbarth
Ein cymuned newydd o siaradwyr Cymraeg.

Tybed â wyddoch chi am deithiau Mr Siarc i’r Lleuad? Na? Wir? Wel, mi ddylech chi. Mae castell mawreddog yno – Castell y Lleuad, lle caiff Mr Siarc a’r Ddraig Goch ddawnsio’n llon drwy’r nos i sain cerddoriaeth wych Chwarelgrefft y Famflaidd, sef band dychmygol gorau’r bydysawd, medden nhw. Yno, cânt fwyta brechdanau sebras ac yfed paneidiau te neu ysgytlaethau ffrwchnedd, cyn ei throi hi am Siop y Lleuad i brynu mefus a malws melys, achos, wel, pam lai!? Mae’n lle arbennig iawn, llawn hwyl a sbri – dewch yno, oll, ar Drên y Gofod … neu ar gefn Clive yr Iac, wrth gwrs. Druan â Chlive.

Mae’n siŵr eich bod chi’n meddwl fy mod i’n hurtio’n llwyr gyda’r holl sôn ‘ma am Iacod a Siarcod a Dreigiau lloerig. Ond mae cyd-destun digon rhesymol i’r hyn oll. Pan nad wyf yn gatalogiwr cyfieithiadau, yr wyf yn diwtor Cymraeg i Oedolion. Ers nifer o flynyddoedd bellach yr wyf wedi dysgu dosbarthiadau nos, dosbarthiadau dros ginio, dosbarthiadau anffurfiol dros y penwythnosau, a threfnu gweithgareddau cymdeithasol amrywiol i siaradwyr Cymraeg o bob rhuglder. Mae’n dasg lawen imi, un sydd wedi rhoi’r cyfle i mi i gwrdd â chyfeillion annwyl o bedwar ban byd, ac un sydd wedi fy ngalluogi i gyfrannu at daith pob un o’r efrydwyr rheiny tuag at ruglder yn eu dewis iaith newydd.

Mr Siarc
Mr Siarc ei hun, neb llai!

Mae pob dosbarth unigol yn gymuned, ac mae pob cymuned unigol yn meddu ar ei digrifwch mewnol ei hun. Perthyn y digrifwch yn y paragraff agoriadol i’m dosbarth diweddaraf i. Neithwir, cynhaliwyd ein gwers olaf y tymor hwn, ac o ganlyniad mi benderfynais ddathlu eu dyfeisgarwch, eu brwdfrydedd, a’u rhuglder, yn y rhifyn hwn o’r blog. Mewn cwta flwyddyn mae’r dosbarth wedi mynd o fod yn methu siarad y nesaf peth i ddim o Gymraeg at fedru ei defnyddio’n hyderus mewn cymaint o feysydd, o’r difrifol i’r digrif. Gallant sgyrsio â’u cyfeillion, eu cariadon, a’u cydweithwyr; gallant fynychu a mwynhau perfformiadau o ddramâu Cymraeg; gallant archebu bwyd a phaneidiau mewn caffis; gallant ddarllen erthyglau a llyfrau; gallant wneud hyn oll a mwy drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal, maent wedi ysgrifennu straeon byrion, sgriptiau, dyddiaduron a dramâu bychain, rhai’n ddwys a rhai’n ddychanol, ac wedi datblygu eiconograffiaeth gymunedol unigryw yn y Gymraeg wrth wneud hynny. Maent wedi llunio hanesion doniol am drenau i’r Gofod ac am fandiau dychmygol, ac mae’r naratifau hynny wedi dod yn rhan o’u naratif nhw, fel grŵp, ac fel unigolion o fewn grŵp. Maent wedi dod i fyw drwy gyfrwng y Gymraeg.

Pan fydd cymuned o unigolion yn dysgu iaith gwnânt lawer mwy na dim ond camu i bau ddiwylliannol newydd. Yn hytrach, dônt â’u bydoedd nhw i mewn i’r bau honno, a phlethant y naill at wead y llall, gan greu gofod newydd, unigryw, yn yr iaith darged. Mae dysgwyr yn cyfoethogi iaith, yn ei meddiannu hi, yn ei hail-brosesu hi, ac yn ei chyfieithu hi o’r newydd. Maent yn barhaus yn creu peuoedd amgen o’i mewn. Maent yn hanfodol ar gyfer ei ffyniant, ei thwf, a’i goroesiad. Ni all unrhyw ddiwylliant iach fodoli rhwng cyfyng furiau. Ni chaniateir iddi fod felly yn nyfeisgarwch ei dysgwyr â’u peuoedd newydd.

Clive yr Iac
Clive yr Iac. Druan â Chlive!

Gan hynny, gadewch inni ddathlu dyfodiad y gymuned newydd hon o siaradwyr Cymraeg i’n byd. Gadewch inni ganu clodydd eu hiwmor dyfeisgar, bywiog, a bywiol o abswrdaidd. Gadewch i ni gydnabod fod yma fyd hybrid cyffrous i ni i ddod i ymgyfarfod ag ef yn nisgyrsiau hunaniaethol yr unigolion hyn. Gadewch i ni, siaradwyr o bob lefel, neidio ar Drên y Gofod, a chamu’n ddewr i bau newydd y Gymraeg, lle mae’n siŵr y bydd Mr Siarc ei hun yno yn barod i’n cyfarch gyda llond plât o frechdanau sebras braf. Brechdanau a fyddant wedi’u cludo atom ar gefn Clive yr Iac, mae’n siŵr. Druan, O!, druan bach â Chlive …

 

Advertisements

Cyfieithu’r Wyneb – Ffotograffau Philip Clarke

Lluniau amrywiol
Amrywiol bortreadau o’r arddangosfa ‘North Pembrokeshire Faces’ gan Philip Clarke.

Pwy yw e? Y gŵr barfog hwnnw â’i lygaid yn disgleirio? Neu nhw, y ddwy efeilles, sy’n edrych mor synfyfyriol arnom drwy lens y camera? Pwy yw’r dyn ‘na sy’n bonllef chwerthin yn ddedwydd ger ein bron? Neu’r henwr â’i wên sy’n dweud cyfrolau? Pwy ydyn nhw oll? A beth yw eu hanes?

Beth a barodd i’r dyn barfog droi o’i gwmpas mor sydyn a phwrpasol? Pa brofiadau a ddaeth i ran y ddwy efeilles wrth iddynt fyw bywydau mor debyg, ac eto mor wahanol, i’w gilydd? Pa dynnu coes bachog a wnaeth i’r gwrbonheddig llawen bwffian? A pha straeon sydd gan yr henwr i’w hadrodd wrthym? Pwy, yn wir, yw’r bobl hyn?

Mae ganddynt enwau, wrth gwrs. Mae ganddynt eu hanesion hefyd. Maent oll yn bobl o gig a gwaed, yn unigolion ac yn unigryw. Ond ni chawn wybod y nesaf peth i ddim amdanynt – nid oddi wrth Philip Clarke, perthynas a chyfaill imi, a’r ffotograffydd a dynnodd yr holl luniau yma, beth bynnag. Tra’n siarad yn yr agoriad i’w arddangosfa newydd o bortreadau, ‘North Pembrokeshire Faces’, yn Llyfrgell Abergwaun ar ddydd Sadwrn diwethaf, dywedodd Philip nad dadrithio’r dirgelwch hwn mo’i amcan yn ei waith, ond yn hytrach ei ystyried a’i ddathlu. Meddai:

Pip ei hun 2
Philip Clarke yn agoriad ‘North Pembrokeshire Faces’, Llyfrgell Abergwaun.

“Who are they? What do they do? … I am not breaking the spell by giving any clues. Each photograph manages to offer up one or more emotion which we try to discern. Whether through photographs or face-to-face contact, we are constantly in the business of reading faces and evaluating emotion – indeed, in the past our very survival has depended on the acuteness of this skill.”

Mae pob delwedd yn greadigaeth newydd, yn gyfieithiad o realiti’r gwrthrych. Mae’n gyflawn ynddi hi ei hun, yn ddadlennol, yn emosiynol, ac yn gyfathrebol. Gall gymell ymateb ar ei phen ei hun, ymateb sydd wedi’i lwyr ddatod oddi wrth unrhyw gyd-destun cychwynnol. Megis y soniodd Roland Barthes am yr elfennau sy’n sgwrsio â’i gilydd mewn lluniau ffasiwn – y wisg, y gwisgwr, y ddelwedd o’r gwisgiad unigol, a’r sawl sy’n gweld y ddelwedd gyflawn – felly hefyd y sonia Philip am ei waith. Daw’r ddelwedd yn gam mewn sgwrs semiotig – o brofiad unigryw’r gwrthrych gwreiddiol, drwy brofiad cyffredinol y ddelwedd ei hun, at brofiad unigryw’r gwyliwr amgen.

Deulun 2
Y ddelwedd a’r gwrthrych.

Ystyrier, er enghraifft, y ddelwedd hon o wrthrych un o’r lluniau yn eistedd ar bwys y portread ohono. Am eiliad, rhewir amser, a daw’r llun a’r gwrthrych yn un unwaith eto. Ond, fel y gwyddom, daw’r awr yn ddigon buan pan fydd y gwrthrych yn newid ei osgo, yn symud, yn gadael, ac yn mynd ymlaen â’i fywyd, tra bydd y ddelwedd, ar y llaw arall, yn aros, ac yn dod yn fan cychwyn i ystyriaethau personol pobl eraill am gyfrinachau’r fuchedd hon. Dengys y ddelwedd yr wyneb ddynol, oesol, inni. Mynega un ennyd o’r profiad dynol cyffredin hwnnw sy’n perthyn i ni gyd. Ni, wylwyr, unigolion oll, fydd yn dehongli’r ennyd honno, bob un ohonom yn unol â’n profiadau a’n dealltwriaethau unigryw ein hunain. Gyda phob dehongliad ar gelfyddyd fe’i deellir am y tro cyntaf, ac fe’i cyfieithir o’r newydd drachefn.

Dywedir gan rai mai ffotograffiaeth yw’r unig iaith gyffredin yn y byd. Ond, os yw’n wir ein bod yn ail-ddehongli pob arwydd semiotig a welwn, boed yr arwydd hwnnw’n rhan o iaith yn yr ystyr traddodiadol o’r gair, neu’n waith gweledol, neu’n unrhyw beth arall drachefn, yna gellir dadlau’n deg mai’r unig iaith, neu’r unig wyddor, sy’n ein huno, yw’r wyddor hybrid honno sydd wrth wraidd y weithred o gyfieithu. Cyfieithu profiadau, a chyfieithu wynebau.

Dyma eich gwahodd oll yn wresog felly i ymweld ag arddangosfa ‘North Pembrokeshire Faces’ yn Llyfrgell Abergwaun dros yr wythnosau nesaf. Tybed pa bethau fyddwch chi’n eu gweld yn celu yn llygaid mud ei muriau?

Y Gaucho o’r Ffos Halen

Velero_Mimosa,_Y_Wladfa
Y ‘Mimosa’ ar y môr.

Mimosa. Gallai fod yn air hud, yn adduned a anfonodd rhyw bererinion mentrus – teithwyr yn eu breuddwyd eu hunain – ar draws y cefnfor i’r feinir yr ymserchwyd ynddi, i’r tir pell a dieithr, i’w swyno.”

Ganrif a hanner yn ôl i ddydd Iau diwethaf, byrddiodd oddeutu 153 o Gymry Cymraeg y llong hwyliau Mimosa ar gychwyn taith aruthrol ar draws yr Iwerydd o gyfandir i gyfandir. Aethant yna yn y gobaith o ganfod tir ffrwythlon, ir – gwynfyd newydd lle caent fyw eu bywydau’n rhydd rhag gormes ac erledigaeth y grym Prydeinig – llecyn lle caent sefydlu Gwladfa Gymreig ym mhen draw’r byd. Aethant i Batagonia.

A ninnau yn nhymor y cofio a’r dathlu am yr ymfudo mawr hwnnw – ymfudiad sydd wedi dod yn rhan o Ramantiaeth ein cenedl, yn “epig genedlaethol y Cymry”, chwedl Saunders – a chyda rhaglen deledu ragorol Huw Edwards, a chynhadledd ‘Cymru a Phatagonia: 150 o flynyddoedd o etifeddiaeth’ ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rai o binaclau’r cofio, bûm innau yr wythnos hon yn darllen Y Gaucho o’r Ffos Halen, sef cyfieithiad Gareth Miles o El Riflero de Ffos Halen, nofel tan gamp gan yr awdur Archentaidd o dras Cymreig, Carlos Dante Ferrari.

Ynddi, ymgorfforir hanes y Wladfa yn hanes bywyd Ifor Thomas, cymeriad ffuglennol a aned yn blentyn siawns i ddau gariad, Dafydd Williams a Megan Thomas, a deithiodd ar fwrdd y llong eiconig honno i’r Byd Newydd. Ganed Ifor gwta fisoedd byrion yn unig wedi i’r fintai lanio ym Mhatagonia, ond fe’i ganed hefyd yn fuan wedi i’w dad farw tra oedd ar gyrch yn archwilio’r tir newydd hwnnw. Daw’r tad colledig yn alegori drwy gydol bywyd Ifor o’r hen wlad goll honno, y Gymru honno, nas gwelodd ef mohoni fyth. Amlygir hyn yn fwyaf croyw yn yr olygfa lle cyflwynir cyllell Dafydd i Ifor gan Tomi, ei ewythr:

“Cymerodd Ifor y gyllell yn ddibetrus a syllu arni am hydoedd cyn cau ei fysedd amdani a’i gwasgu’n dynn. Bu’r gyllell fechan hon yn llaw ei dad. Roedd yn gyfrwng a’i galluogai i gydio yn y llaw honno mewn modd a oresgynnai ragfuriau amser a gofod. Fe’i llanwyd ag awydd anorchfygol i ganu fel y canai ei dad gynt yng Nghymru ac ar y Mimosa:

Map_of_Patagonia_from_'Llawlyfr_y_Wladychfa_Gymreig'
Map o Batagonia o ‘Lawlyfr y Wladychfa Gymreig’. Casgliad y Werin Cymru.

Nid wy’n gofyn bywyd moethus,
Aur y byd, na’i berlau mân…

Darlunnir yn Ifor yr idiom gyflawn o’r Cymro ar y paith, darlun a ramantwyd gennym yng Nghymru ers canrif a hanner. Efe yw’r gaucho Cymreig, cantor persain ein hemynau cain, dofwr y tiroedd anial, marchog dewr y dyffryn, arwr praff y paith – pob dim y carai’r meddwl torfol Rhamantaidd Cymreig iddo fod. Ond, o gofio mai nofel Sbaeneg o’r Batagonia fodern, Archentaidd, yw hon yn gyntaf, mae Ifor yn rhywbeth arall hefyd. Mae’n fynegiant ar ddeffroad cenedligrwydd newydd. Yn strwythur y nofel daw’n fodel Rhamantaidd ar hunaniaeth bedagogaidd y Batagonia sydd ohoni. Daw’n sylfaenydd cenedl.

Adroddir holl hanes Ifor yn y stori gan draethydd o hen wraig, sef ei nith, Gwladys. Ond, cuddir y ffaith hon rhagom am y rhan fwyaf o’r nofel. Cawn sioc wrth ddarllen dechrau Pennod XIX a sylweddoli fod y testun yn ein cyfarch yn y person cyntaf, yn hytrach na’r trydydd person, fel yr arferid ym mhob rhan blaenorol o’r gyfrol. Deallwn nad nofel Ramantaidd seml sydd yma, yn gyforiog o antur arallfydol a phellennig, ond nofel sy’n cydnabod bodolaeth – a thrwy hynny, barchu gwerth a chwestiynu dilysrwydd – y Rhamantiaeth honno. Cydnabyddir gan strwythur y gwaith ei hun mai myth yw Ifor, casgliad o straeon hynafiaethol lled-wir wedi’u hadrodd gan hen wreigan, sy’n cysylltu trigolion presennol Patagonia, a deiliaid presennol yr hunaniaeth hybrid Archentaidd-Gymreig, â’u hynafiaeth gychwynnol. Sylwer ar y neges ddiwethaf un a edrydd Ifor wrth Gwladys:

“Fe fydda i’n teimlo’n gymysglyd iawn weithiau. Hon yw’n gwlad ni, oherwydd i’n rhieni ddewis dod yma i fyw ac Archentwyr ydyn ni, heb os nac oni bai. Serch hynny, mae yn ein gwythiennau ni adleisiau o draddodiadau sy’n perthyn i wlad arall, gwlad wahanol iawn i hon. Wrth grwydro’r paith rydw i wedi clywed lleisiau pobol o sawl gwlad a chenedl a heriodd ei anialdiroedd caregog ond rydyn ni’n wahanol. Daeth ein tadau ni yma i aros. I garu’r wlad a’i pharchu a’i datblygu. Ac fe ddaethant â rhywbeth prin a gwerthfawr iawn gyda nhw – cariad at gerdd a barddoniaeth.”

11402396_10152932863492444_8828554221735812665_o
Clawr ‘El Riflero de Ffos Halen’ gan Carlos Dante Ferrari

Crëwyd hunaniaethau Cymreig symbiotig yn yr ymfudo mawr i’r Wladfa. Am ganrif a hanner gron, mynegwyd hwynt mewn dulliau cydamserol debyg a gwahanol, ac fe’u dehonglwyd yn yr un modd. I rai, Ifor Thomas yw’r anturiwr parhaus sy’n torri tir newydd yn dragywydd – y Cymro Cymraeg byd-eang; i eraill, efe yw’r maen sylfaen sy’n rhoi cadarnle i’w hunaniaeth ac i’w perthynas â’u cyd-destunau bydol a hynafiaethol – yr Archentwr sy’n driw i’r etifeddiaeth Gymreig.

Daw’r weithred o gyfieithu â’r ddeuoliaeth hon yn fyw ger ein bron. Daw â chyswllt arall i bontio’r bwlch rhwng Cymru a Phatagonia. Cyfieithu yw ein Mimosa modern ni. Trwy gyfieithu’r profiadau hyn, trwy eu mynegi’n llawn ger bron y naill gynulleidfa fel y llall, gallwn weld cyfoeth y darlun a wêl Gwladys ar ddiwedd y nofel, wrth iddi bendroni am dynged y Gaucho o Ffos Halen yn y tir pell hwnnw sy’n ei swyno o hyd:

“Así es. En días como hoy, cuando me dejo asaltar por las nostalgia, me gusta pensar que tal vez él todavía pueda andar cabalgando por allí.

Nada me cuesta imaginar su clásica silueta de cazador de sueños recortada contra el fulgor del horizonte, en la solitaria inmensidad de la meseta.”