Pam chwarae gemau? Monopoly a Mancala

Monopoly Almaeneg
Monopoly – gornest ar ei chanol.

Trioleg Cyfieithu Gemau Bwrdd: 3

Pam ydyn ni mor hoff o chwarae, fel dynoliaeth? O’n gemau fideo i’n gemau siawns, o’n gemau maes i’n gemau meddwl, ac o’n gemau barddol i gemau bwrdd, mae chwarae yn rhan annatod o fywydau cymaint ohonom. Mae’r dystiolaeth archeolegol hefyd yn awgrymu bod ein tuedd i chwarae gemau yn un sy’n ymestyn ymhell yn ôl at hanes ein cyndadau hynafol. Mae’r gêm yn rhan ohonom, ond beth yw ei hapêl?

Er mwyn ceisio ateb y fath gwestiwn, edrychaf yr wythnos hon ar ddwy enghraifft o gemau ar draws hanes – y gemau cynharaf oll a’r gem fwyaf diweddar i mi ei chwarae’n bersonol.

Ychydig ddyddiau yn ôl ces i, fy nyweddi, a dau ffrind i ni ornest o Monopoly, y gêm fyd-enwog a ddyfeisiwyd, ar ei gwedd gyntaf un – The Landlord’s Game – gan yr Americanes Elizabeth Magie yn 1904. Yn eironig ddigon, amcan Magie oedd i’r gêm weithredu fel alegori wrth-gyfalafol ac fel drych ar gamymddygiad landlordiaid y cyfnod, ond wrth iddi ddatblygu yn ystod yr ugeinfed ganrif daeth ei chynhyrchwyr, ei haddaswyr a’i chwaraewyr i ffafrio’r agwedd o fonopoli gystadleuol sydd ynddi’n llawer mwy na’r un gydweithredol wreiddiol.

Yn ein gêm yr wythnos hon gwelsom yn fuan fod tactegau pob un ohonom yn wahanol iawn i’n gilydd. Mewn adlais o amcan wreiddiol Magie, daeth difyrrwch mawr i’n rhan wrth inni briodoli alegorïau o’r byd go-iawn ar ein dulliau o chwarae.

Roedd gennym Y Wladwriaeth Fawr – sef, yr un ohonom oedd am brynu cymaint o leoliadau ag y medrai yn gynnar yn y gêm, gan wario ymron iawn i bob ceiniog o’i arian yn sydyn, oll yn y gobaith o fedru ennill ei gyfoeth yn ei ôl, cyn ei ddosbarthu eildro, wrth i’w fuddsoddiadau dewr ddwyn ffrwyth.

BoardGamePatentMagie
Yr hawlfraint wreiddiol ar ‘The Landlord’s Game’, Elizabeth Magie, 1904.

Roedd gennym Wladwriaeth y Caledi – sef, er cryn embaras imi, myfi. Ceisiais fod yn fwy darbodus ar y dechrau, gan wario ar ddim ond y lleoliadau rhataf er mwyn medru codi rhent uchel arnynt yn gyflym, gan gadw’r rhan fwyaf o’m arian wrth gefn yn y gobaith y byddai pawb arall yn colli eu cyllid yn chwim wrth fuddsoddi mor fyrbwyll. Gresynaf wrth feddwl beth fyddai gan Elizabeth Magie i’w ddweud am fy nhactegau!

Roedd gennym Y Cwmni Mawr Rhyngwladol – Trodd fy nyweddi ei sylw at brynu adnoddau a gorsafoedd rheilffordd fel meini sylfaen i’w heconomi hi, gan fod cyfuniad o adnoddau yn creu mwy o elw na dim ond un adnodd ar ei ben ei hun. Trwy gyfuno mân gwmnïau daeth i ddylanwadu ar economïau’r ddwy wladwriaeth diriogaethol o’i chwmpas yn effeithiol a chelfydd.

Ac yna, roedd gennym Y Buddsoddwr Anlwcus – Druan â’m cyfaill olaf. Trwy ddim ond hap a damwain y dis digwyddodd iddi golli’r rhan fwyaf o’i phres yn syth, ac fe’i dygwyd i’r carchar sawl tro hefyd. Treuliodd y rhan fwyaf o weddill y gêm yn ceisio’i gorau i gribinio’i cheiniogau prin ynghyd o bob twll a chornel i wneud yn siwr y medrai dalu’r biliau mawrion oedd yn ei disgwyl yn anochel wrth iddi gylchynu o gwmpas y bwrdd. Fe’i dedfrydwyd i fyw mewn tlodi’n gynnar, ac fel hanes cymaint o bobl yn y fath sefyllfa, nid oedd na ddim dianc iddi rhag y cyflwr adfydus hwnnw.

Roedd hi’n ornest glos rhwng Y Wladwriaeth Fawr a Gwladwriaeth y Caledi am y fuddugoliaeth. Ond, daeth y dis i ddewis rhyngom. Glaniais unwaith yn ormod ar westai’r gwrthwynebwyr, a diflannodd yr arian y bûm yn ei gynilo’n gybyddlyd o’m poced yn ddisymwth. Y Wladwriaeth Fawr oedd yn ben, ac erbyn y diwedd, hi oedd berchen ar ymron i bob lleoliad, tŷ, gwesty, adnodd, rheilffordd, a phob dim arall ar y bwrdd. Mae’n siŵr y buasai wedi prynu fy nghi bach, fy nghownter ffyddlon, Dogsworth McDougal ei hun, hyd yn oed, pe bai wedi cael y cyfle!

Deallasom ein gêm o hapchwarae, felly, fel alegori seml ar arddulliau economaidd yn y byd go-iawn. Cyfieithwyd sialensau’r byd inni mewn modd amgen, a diddan, a diogel. Yn y cyfieithiad hwn, cawsom gip ar gnewyllyn un o’r damcaniaethau grymusaf am werth chwarae i’r bywyd dynol – damcaniaeth yr alegori. Mae’n ddamcaniaeth sy’n cysylltu ein gêm ni o Monopoly â’r gemau bwrdd cynharaf oll.

Mae’r enghreifftiau cynharaf o gemau bwrdd i’w canfod yn y Dwyrain Canol. Fe’u dyddir gan archeolegwyr i gyfnod Neolithig yr ardal honno, rhwng tua 10,000 a 4,000 cyn y Cyfnod Cyffredin. Mae’r rhai mwyaf hynafol o’u plith i’w canfod mewn pum lleoliad yn benodol, sef: Beidha, oddeutu chwe chilomedr i’r Gogledd o’r ddinas Nabataeaidd Petra yng Ngwlad yr Iorddonen; Wadi Tbeik, ym mhenrhyn Deheuol Sinai; El-Kowm, y llannerch rhwng yr Euphrates ganol a De Syria; ‘Ain Ghazal ar gyrion Gogledd-Ddwyreiniol y ddinas fodern Amman, Gwlad yr Iorddonen; a Chagha Sefid, ar lain y Deh Luran yn Ne-Orllewin Iran. Yn gyffredinol, mae diwyg debyg i bob un ohonynt – tabledi ydynt ac ynddynt nifer o dyllau, mewn dwy res gan amlaf. Perthyn hwynt felly i’r teulu o gemau a elwir ‘Mancala’.

Mancala Pren
Bwrdd Mancala modern.

Hanfod techneg chwarae gemau Mancala, ar eu gwedd symlaf, yw i symud cownteri mewn dulliau tactegol rhwng y tyllau bychain ar y bwrdd chwarae er mwyn sicrhau buddugoliaeth i’r chwaraewr ar draul y gwrthwynebydd. Gelwir hwynt gan rai yn ‘gemau hau a medi’, gan fod modd eu dirnad fel alegori o fywyd amaethyddol. Ystyrir hwynt gan eraill fel mynegiannau ar y sgwrs economaidd rhwng dau (neu fwy na dau) endid gwleidyddol, wrth i’r naill geisio hawlio’r dosraniad gorau o unedau cyllid i’w ddibenion ei hun. Ystyrir hwynt gan eraill eto fyth fel trafodaethau diriaethol ar gysyniadau mathemategol dyrys.

Yma, y dull deongliadol ei hun, yn hytrach na manylion y dehongliadau unigol a gynigir uchod, yw hanfod ein dadl. Er nad oes modd dweud i sicrwydd beth oedd y cymhelliant dros ddyfeisio’r gemau cynnar hyn, mae’r dehongliadau diweddarach yn dangos sut y gall gemau weithredu fel amrywiol ddehongliadau ar fywyd bob dydd. Mae’n demptasiwn i ddamcaniaethu fod gemau bwrdd (a gemau’n gyffredinol) yn ymateb i gymlethdodau cymdeithas ddynol, wrth i’r cysylltiadau rhwng gwahanol ddiwylliannau, economïau a phobloedd amlhau a dwyshau. Efallai’n wir y daeth ein gemau i’n cynorthwyo fel alegorïau pwrpasol ar sefyllfaoedd gwirioneddol yn y byd go-iawn. Neu, efallai y daethom ni i ddehongli ein gemau bwrdd haniaethol fel alegorïau o brofiadau unigryw yn y broses o’u chwarae.

Ffrwyth trafodaethau am gyfalafiaeth ac am hawliau landlordiaid a thenantiaid yn yr ugeinfed ganrif yn yr Unol Daleithiau yw The Landlord’s Game/Monopoly. Yn yr un modd, gellir dychmygu fod dyfodiad y mancala yn y byd Neolithig yn y Dwyrain Canol wedi codi o’r un angen i ddiriaethu trafodaethau cyffelyb yr oes honno. A gellir cynnig, felly, un ateb posibl i’n pos cychwynnol. Yr ydym yn chwarae am ein bod yn fyw, y fodau o gig a gwaed, ac yn rhan o’r gymuned ddynol. Chwaraewn am fod arnom angen dybryd am gyfieithiadau chwareus o’n profiadau dyddiol, a gemau diddan i’n diogelu.

Advertisements

One thought on “Pam chwarae gemau? Monopoly a Mancala

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

w

Connecting to %s