Talwrn y Trosiadau

Eisteddfod!
Mae hi bron yn amser ‘Steddfod! 🙂

Annwyl gyfeillion,

Am 11:00 ar ddydd Iau y 6ed o Awst eleni cynhelir digwyddiad arbennig iawn ym mhabell Prifysgol Aberystwyth ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, sef ‘Talwrn y Trosiadau’.

Gornest fydd hon lle bydd nifer o unigolion blaengar ym mydoedd ysgolheictod, ysgrifennu, a chyfieithu, yn dewis eu hoff gyfieithiad i’r Gymraeg a dadlau o’i blaid ger bron cynulleidfa’r babell. Wedi iddynt glywed yr holl dadleuon bydd y gynulleidfa yn cael i cyfle i bleidleisio dros y cyfieithiad, a thros y cyflwyniad, sydd fwyaf at eu dant. Gwobrwyir y cyfieithiad buddugol (a’r sawl a fu’n eiriol o’i blaid) â’r teitl urddasol ‘Ceiliog Talwrn y Trosiadau’. Bydd y cyfieithiad buddugol hefyd yn ennill blogiad cyflawn i ganu ei glodydd ar eich hoff flog wythnosol am gyfieithiadau – Blog Cronfa Cyfieithiadau’r Gymraeg: Bob dydd Iau, bydd #cyfieithiadau!

Ceiliog!
Pa un o’n cystadleuwyr dewr fydd yn ‘Geiliog y Talwrn’ ar ddiwedd yr ornest? Dim ond chi all benderfynu!

Trefnir yr ornest hon gennym ni yn Sefydliad Mercator, Prifysgol Aberystwyth. Dathliad ydyw o’r cyfoeth o gyfieithiadau sydd i’w canfod yn y Gymraeg, ac o benllanw prosiect tair blynedd y Sefydliad, wedi’i gyllido gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, i lunio catalog disgrifiadol o gyfieithiadau ar-lein ym meysydd y Celfyddydau, y Dyniaethau, a’r Gwyddorau Cymdeithasol – sef Cronfa Cyfieithiadau’r Gymraeg. Mae’r prosiect hefyd yn rhan o allbwn Canolfan Ymchwil Cyfieithu Diwylliannol Prifysgol Aberystwyth.

Dyma ddefnyddio’r blog yr wythnos hon i estyn gwahoddiad atoch oll i’r digwyddiad cyffrous hwn. Dyma eich croesawu i ddod i glywed y dadleuon brwd o blaid y cyfieithiadau amrywiol, ac i fwrw eich pleidlais dros eich hoff gyflwyniad. Dyma eich galw, bawb ohonoch, i’r gynulleidfa a fydd yn dewis pwy fydd deiliad y teitl anrhydeddus, ‘Ceiliog y Talwrn’, am 2015!

Dewch yn llu, un ac oll!

Advertisements

One thought on “Talwrn y Trosiadau

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

w

Connecting to %s