Pippi Hosan-hir

Pipi Hosan Hir
Clawr ‘Pippi Hosan-hir’.

Paham y gwnawn ni’r hyn a wnawn? Beth sy’n ein cymell ni i ymddwyn, i fyw a bod a meddwl, mewn un ffordd, neu mewn un casgliad o ffyrdd, penodol? Beth sy’n diffinio’r ‘normal’ yn ein bywydau ni?

Mae Pippi Hosan-hir wedi bod yn ein cymell i ofyn y fath gwestiynau ers 70 mlynedd, ers cyhoeddi ei hanes am y tro cyntaf yn Pippi Långstrump, sef ail nofel yr awdur Swedaidd Astrid Lindgren. Cymeriad hynod yw Pippi – mae’n eneth amddifad ond llon, un ddireidus ond egwyddorol, ac yn un sy’n oruwchnaturiol o gryf. Mae’n byw gyda’i cheffyl a’i mwnci mewn hen fwthyn ar gyrion un o drefi bychain Sweden, ac y mae’n ysbryd rhydd, yng ngwir ystyr y term.

Wrth inni ddarllen am ei hanturiaethau hi a’i ffrindiau mwy confensiynol, Tomi ac Annika, gwelwn sut y daw meddylfryd penrhydd Pippi benben â byd-weledigaethau honedig ‘normal’ byd yr oedolion, ac, i raddau llai, byd y plant, o’i chwmpas.  Dro ar ôl tro, â ati i danseilio awdurdod stad normadol y gweledigaethau hyn ar ei bywyd drwy ymarferion rhesymegol a thrwy chwarae cyfrwys ar eiriau.

Er enghraifft, nid yw’n cydweld â’r plismyn sydd am ei hebrwng i’r Cartref Plant – er ei lles, yn eu tyb nhw – gan na chaniateir iddi i fynd â’i cheffyl na’i mwnci yno i fod yn gwmni iddi. Os na chaiff hi gwmni ei chyfeillion, yna, yn ôl ei rhesymeg hi, mae’n amlwg nad y Cartref Plant mo’r lle cymwys iddi. Nid yw ‘norm’ y plismyn a’i ‘norm’ hi’n cyfateb o gwbl.

Mewn episod arall, penderfyna fynd i’r ysgol yn unswydd er mwyn cael mwynhau cyfnod o wyliau rhag y lle, ond daw’n amlwg yn ddigon buan, wrth i’w hathrawes newydd ofyn cwestiwn mathemategol iddi, nad yw’r fethodoleg ysgolheigaidd ‘normal’ at ei dant:

OLYMPUS DIGITAL CAMERA
Villa Villakulla, cartref Pippi.

‘ “Nawr ‘te Pippi, allwch chi ddweud wrtha i faint yw saith a phump?”

Roedd golwg braidd yn syn ac yn grac ar wyneb Pippi. Yna dywedodd, “Wel, os nad ydych chi’n gwybod, peidiwch â disgwyl imi ddod o hyd i’r ateb ichi!” ‘

Perthyn Pippi i fyd gwahanol i bawb o’i chwmpas – yn wir, yn ôl nifer o sylwebwyr, perthyn hi i’r tylwyth teg, a pherthyn ei hanes i’r teulu hwnnw o straeon gwerin arallfydol. O ganlyniad, ni chicia yn erbyn y tresi drwy wrthod awdurdod normadol y dref fechan, ond yn hytrach, ni wêl unrhyw gyswllt digonol i berthnasoli’r normadol dynol i’w normadol amgen hithau. Ac yno, fel drych ar abswrdiaeth awdurdod y normadol, y cyfyd ei hapêl i’w darllenwyr.

Dysga Pippi inni, drwy lygaid Tomi ac Annika, i gwestiynu’r hyn â wnawn yn dragywydd. Fel y dysga’r ddau brotagonydd, yn y bennod ‘Pippi yn eistedd ar glwyd ac yn dringo coeden’, na ddylent ofni rhag dringo i grombil coeden ar sail dim ond ofn yn unig, dysgwn ninnau nad oes rhaid inni dderbyn nodweddion normadol ein bywydau bob dydd ar sail eu ‘normalrwydd’ yn unig. Nid yw’r un awdurdod na’r un fyd-weledigaeth yn hunan-gyfiawnhaol – mae’n rhaid inni eu profi, eu cwestiynu, eu pwyso a’u mesur cyn y gallwn benderfynu os y dylem gydymffurfio â nhw neu beidio. Dyna yw neges fawr Pippi i’w chyfeillion ifanc, ac i’w darllenwyr lu. Amodol yw’r normadol dynol.

Câr Pippi gysgu â’i thraed ar ei chlustog a’i phen o dan ei chwrlid; hyderwn na fydd hi ddim yn ymatal rhag gwneud hynny fyth. Nid oes rhaid i Tomi nac Annika wneud hynny er mwyn iddynt dilyn ei hesiampl. Yn wir, mae’n bur bosibl y byddant yn dod i’r casgliad mai’r dull mwy arferol o gysgu mewn gwely yw’r un mwyaf cyfforddus mewn gwirionedd. Dyna’r oll sy’n angenrheidiol iddynt wneud yw sylweddoli bod dulliau amgen, dilys, o wneud pob dim sy’n ymdebygu at y ‘normal’ cymdeithasol. Gelwir arnynt i ddefnyddio’r ymwybyddiaeth newydd honno wedyn yn ystyrlon i ymateb i’r byd o’u cwmpas. Rhaid iddynt benderfynu sut i fyw eu bywydau yn unol â’r egwyddor ymholgar honno.

Stamp
Stamp yn portreadu Pippi.

Mae cyfieithu yn ein galluogi ni i weld y byd mewn amrywiol ffyrdd gwahanol. Cawn weld y byd yn amryliw, yn llawn potensial, ac yn llawn amrywiaethau ar yr hyn sy’n normadol o fewn cymdeithas. Dyna pam mae’r cyfieithiad o hanes Pippi Hosan-hir mor hanfodol, mor hynod. Yn ei destun, dysgwn sut i edrych ar y byd o’r newydd, ac yn ei fodolaeth, dysgwn mai cyfieithu sydd wrth wraidd y broses fywiol honno.

Cyhoeddwyd cyfieithiad Cymraeg Siân Edwards o Pippi Hosan-hir gan Gwasg y Dref Wen yn 1978. A hithau’n agosáu at ddeugain mlynedd ers y cyhoeddiad cyntaf hwnnw, tybed a ydyw’n amser inni fwrw iddi i ail-gyhoeddi’r gwaith drachefn? Mae’n sicr yn hanfodol ein bod yn darparu’r cyfle i blant ac oedolion Cymru i ymateb i siars barhaus Pippi i ystyried hanfodion cysyniadau normadol ein byd. Mae’n bwysig inni, oll, i gael y cyfle i glywed ei llais ar y gwynt yn galw:

‘Pan gyrhaeddodd Tomi ac Annika a’u tad y glwyd fe glywon nhw hi’n gweiddi ar eu holau. Dyma nhw’n aros i wrando. Roedd y gwynt yn rhuo drwy’r coed. Prin glywed llais Pippi roedden nhw. Ond fe ddeallon nhw, serch hynny.

“Rwy’n mynd i fod yn for-leidr ar ôl tyfu’n fawr,” gwaeddodd, “ydych chi?” ’

Advertisements

Ceiliogod y Cyfieithiadau!

11823954_10100337854399508_2070699554_n
Yr Athro Dafydd Johnston yn cyflwyno ‘Cynghorion Priodor o Garedigion i Ddeiliaid ei Dyddynod’.

Bob dydd Iau bydd cyfieithiadau, a dydd Iau diwethaf oedd dydd y cyfieithiadau ym mhabell Prifysgol Aberystwyth ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod. Yno y cynhaliwyd Talwrn y Trosiadau, sef ein dathliad o’r cyfoeth o gyfieithiadau amrywiol sy’n bodoli yn y Gymraeg.

Daeth pum areithiwr dewr i gystadlu yn y Talwrn – Yr Athro Dafydd Johnston a Dr. Marion Löffler o Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Dr. Roger Owen o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth, a’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones a Ned Thomas o Sefydliad Mercator.

Cawsom wledd o drafodaethau difyr gan y pum ymgeisydd.

Dysgom gan Dafydd Johnston am Cynghorion Priodor o Garedigion i Ddeiliaid ei Dyddynod, sef cyfieithiad William Owen Pughe o A Cardiganshire Landlord’s Advice to his Tenants, llawlyfr Thomas Johnes o Hafod Uchdryd i’w denantiaid. Dysgom am sut yr aeth William Owen Pughe ati, wrth drosi’r gyfrol honno, i fathu termau technegol o’r newydd yn y Gymraeg, termau sydd bellach yn rhan o’n geirfa feunyddiol, gan gynnwys gair mor gyfarwydd ag ‘amaethyddiaeth’ ei hun, hyd yn oed. Gwelsom sut y gall cyfieithu ehangu peuoedd y Gymraeg a sicrhau lle i dechnoleg a thechnegau newydd ym mywyd yr iaith.

11845952_10100337854364578_1926352638_n
Dr. Roger Owen yn trafod ‘Y Bacchai’.

Trafododd Elin Haf Gruffydd Jones y Datganiad Byd-Eang o Hawliau Ieithyddol, gan gyd-destunio’r weithred o gyfieithu’r ddogfen â dadl waelodol y ddogfen ei hun. Pwysleisiodd natur gydweithredol llunio’r ddogfen, a natur gydweithredol ei chyfieithu hefyd. Dangosodd allu cyfieithu i bontio rhwng cymunedau o bob iaith, a gwelsom sut y gall y pontydd rheiny atgyfnerthu pob cymuned a phob iaith, gan fod cyfieithu’n gydamserol yn weithred gadwriaethol  ac yn un sy’n torri tir newydd yn dragywydd.

Aeth Marion Löffler â ni i fyd Pipi Hosan-Hir, yr eneth ddireidus honno o Sweden sydd wedi diddanu miloedd o blant mewn cymaint o ieithoedd ar draws y byd gyda’i hanesion difyr. Pwysleisiodd Marion bwysigrwydd cyfieithu llên plant, gan ddadlau bod cyfieithiadau’n ehangu profiadau’r ifanc, ac yn caniatáu iddynt weld y byd yn ei blethwaith amryliw a bywiol. Dadleuodd hefyd fod llenyddiaeth wedi’i chyfieithu’n rhoi drych amgen inni ar ein byd ein hunain, ac ar bynciau gwleidyddol a diwylliannol llosg ein hoes. Dangosodd pa mor bwysig yw hi i ni fedru gweld y byd mewn amrywiol ffyrdd, a thrwy amrywiol brismau diwylliannol.

Tywysodd Roger Owen y gynulleidfa ar daith o’n hoes ni i’r byd Groegaidd Clasurol yn ei drafodaeth rymus o gyfieithiad Gareth Miles o’r ddrama fawr honno gan Ewripedes, Y Bacchai. Yn ei gyflwyniad pwysleisiodd y gwahaniaeth cysyniadol rhwng y dramatig â’r theatrig, rhwng yr ysgrifenedig â’r hyn a berfformir, a dangosodd sut y mae cyfieithiad o ddrama yn ein caniatáu ni i brofi o’r ddwy wedd honno yn ein bydoedd personol. Gallwn brofi brawdoliaeth ar draws y milenia drwy’r cyfoeth diwylliannol a ddaw i’n rhan drwy gyfieithu, a thrwy ddarllen, gweld, a chlywed cyfieithiadau.

11830320_10100337854304698_1252455753_n
Dr. Marion Löffler yn derbyn tlws y Talwrn – Ceiliog y Cyfieithiadau!

Amlinellodd Ned Thomas hanes cyfieithu Y Maniffesto Comiwnyddol i’r Gymraeg. Dangosodd bwysigrwydd cyfieithu, a phwysigrwydd parhau i gyfieithu o’r newydd drachefn, wrth drafod yr amrywiol fersiynau sydd ar gael o’r gwaith. Eglurodd sut y mae pob cyfieithiad newydd yn ddehongliad o’r testun gwreiddiol ac o’r cyfieithiadau a wnaed gynt, o ran terminoleg, arddull, syniadaeth a ffurf. Wrth gyfeirio at y fersiwn gyntaf a gyhoeddwyd ar bapur yn 1948, ac wrth olrhain datblygiad cyhoeddiadau diweddarach o’r gwaith hyd at e-argraffiad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2014, dangosodd sut y mae cyfieithiadau wedi bod, a sut y byddant yn parhau i fod, yn rhan annatod o ffyniant a thwf deallusol ein cenedl.

Mor anodd oedd hi i i’r gynulleidfa i ddewis dim ond un ffefryn o blith y pum cyflwyniad rhagorol yma. Ond, fel ym mhob cystadleuaeth, daeth un ceiliog dewr yn ben. Marion Löffler, a’i chyflwyniad gwych am Pipi Hosan-Hir, a enillodd y bleidlais. Hi, felly, yw Ceiliog y Cyfieithiadau, a buddugwr Talwrn y Trosiadau am eleni! Llongyfarchiadau mawr iawn iddi, ac yn wir llongyfarchiadau a diolch i bob un o’r areithwyr am gystadleuaeth gyffrous, addysgol, a difyr tu hwnt.

Un o wobrau Talwrn y Trosiadau (ynghyd â’r tlws arbennig hwnnw sydd i’w weld yn y llun o Geiliog y Cyfieithiadau ei hun!) oedd y byddai’r enillydd yn sicrhau blogiad cyfan i’r cyfieithiad buddugol ar y blog wythnosol hwn. Gan hynny dyma gyhoeddi mai Pipi Hosan-Hir fydd testun y blog yr wythnos nesaf. Dewch yn ôl ymhen wythnos felly i ddysgu mwy am hanesion Pipi a’i byd amryliw yn y Gymraeg!