Pippi Hosan-hir

Pipi Hosan Hir
Clawr ‘Pippi Hosan-hir’.

Paham y gwnawn ni’r hyn a wnawn? Beth sy’n ein cymell ni i ymddwyn, i fyw a bod a meddwl, mewn un ffordd, neu mewn un casgliad o ffyrdd, penodol? Beth sy’n diffinio’r ‘normal’ yn ein bywydau ni?

Mae Pippi Hosan-hir wedi bod yn ein cymell i ofyn y fath gwestiynau ers 70 mlynedd, ers cyhoeddi ei hanes am y tro cyntaf yn Pippi Långstrump, sef ail nofel yr awdur Swedaidd Astrid Lindgren. Cymeriad hynod yw Pippi – mae’n eneth amddifad ond llon, un ddireidus ond egwyddorol, ac yn un sy’n oruwchnaturiol o gryf. Mae’n byw gyda’i cheffyl a’i mwnci mewn hen fwthyn ar gyrion un o drefi bychain Sweden, ac y mae’n ysbryd rhydd, yng ngwir ystyr y term.

Wrth inni ddarllen am ei hanturiaethau hi a’i ffrindiau mwy confensiynol, Tomi ac Annika, gwelwn sut y daw meddylfryd penrhydd Pippi benben â byd-weledigaethau honedig ‘normal’ byd yr oedolion, ac, i raddau llai, byd y plant, o’i chwmpas.  Dro ar ôl tro, â ati i danseilio awdurdod stad normadol y gweledigaethau hyn ar ei bywyd drwy ymarferion rhesymegol a thrwy chwarae cyfrwys ar eiriau.

Er enghraifft, nid yw’n cydweld â’r plismyn sydd am ei hebrwng i’r Cartref Plant – er ei lles, yn eu tyb nhw – gan na chaniateir iddi i fynd â’i cheffyl na’i mwnci yno i fod yn gwmni iddi. Os na chaiff hi gwmni ei chyfeillion, yna, yn ôl ei rhesymeg hi, mae’n amlwg nad y Cartref Plant mo’r lle cymwys iddi. Nid yw ‘norm’ y plismyn a’i ‘norm’ hi’n cyfateb o gwbl.

Mewn episod arall, penderfyna fynd i’r ysgol yn unswydd er mwyn cael mwynhau cyfnod o wyliau rhag y lle, ond daw’n amlwg yn ddigon buan, wrth i’w hathrawes newydd ofyn cwestiwn mathemategol iddi, nad yw’r fethodoleg ysgolheigaidd ‘normal’ at ei dant:

OLYMPUS DIGITAL CAMERA
Villa Villakulla, cartref Pippi.

‘ “Nawr ‘te Pippi, allwch chi ddweud wrtha i faint yw saith a phump?”

Roedd golwg braidd yn syn ac yn grac ar wyneb Pippi. Yna dywedodd, “Wel, os nad ydych chi’n gwybod, peidiwch â disgwyl imi ddod o hyd i’r ateb ichi!” ‘

Perthyn Pippi i fyd gwahanol i bawb o’i chwmpas – yn wir, yn ôl nifer o sylwebwyr, perthyn hi i’r tylwyth teg, a pherthyn ei hanes i’r teulu hwnnw o straeon gwerin arallfydol. O ganlyniad, ni chicia yn erbyn y tresi drwy wrthod awdurdod normadol y dref fechan, ond yn hytrach, ni wêl unrhyw gyswllt digonol i berthnasoli’r normadol dynol i’w normadol amgen hithau. Ac yno, fel drych ar abswrdiaeth awdurdod y normadol, y cyfyd ei hapêl i’w darllenwyr.

Dysga Pippi inni, drwy lygaid Tomi ac Annika, i gwestiynu’r hyn â wnawn yn dragywydd. Fel y dysga’r ddau brotagonydd, yn y bennod ‘Pippi yn eistedd ar glwyd ac yn dringo coeden’, na ddylent ofni rhag dringo i grombil coeden ar sail dim ond ofn yn unig, dysgwn ninnau nad oes rhaid inni dderbyn nodweddion normadol ein bywydau bob dydd ar sail eu ‘normalrwydd’ yn unig. Nid yw’r un awdurdod na’r un fyd-weledigaeth yn hunan-gyfiawnhaol – mae’n rhaid inni eu profi, eu cwestiynu, eu pwyso a’u mesur cyn y gallwn benderfynu os y dylem gydymffurfio â nhw neu beidio. Dyna yw neges fawr Pippi i’w chyfeillion ifanc, ac i’w darllenwyr lu. Amodol yw’r normadol dynol.

Câr Pippi gysgu â’i thraed ar ei chlustog a’i phen o dan ei chwrlid; hyderwn na fydd hi ddim yn ymatal rhag gwneud hynny fyth. Nid oes rhaid i Tomi nac Annika wneud hynny er mwyn iddynt dilyn ei hesiampl. Yn wir, mae’n bur bosibl y byddant yn dod i’r casgliad mai’r dull mwy arferol o gysgu mewn gwely yw’r un mwyaf cyfforddus mewn gwirionedd. Dyna’r oll sy’n angenrheidiol iddynt wneud yw sylweddoli bod dulliau amgen, dilys, o wneud pob dim sy’n ymdebygu at y ‘normal’ cymdeithasol. Gelwir arnynt i ddefnyddio’r ymwybyddiaeth newydd honno wedyn yn ystyrlon i ymateb i’r byd o’u cwmpas. Rhaid iddynt benderfynu sut i fyw eu bywydau yn unol â’r egwyddor ymholgar honno.

Stamp
Stamp yn portreadu Pippi.

Mae cyfieithu yn ein galluogi ni i weld y byd mewn amrywiol ffyrdd gwahanol. Cawn weld y byd yn amryliw, yn llawn potensial, ac yn llawn amrywiaethau ar yr hyn sy’n normadol o fewn cymdeithas. Dyna pam mae’r cyfieithiad o hanes Pippi Hosan-hir mor hanfodol, mor hynod. Yn ei destun, dysgwn sut i edrych ar y byd o’r newydd, ac yn ei fodolaeth, dysgwn mai cyfieithu sydd wrth wraidd y broses fywiol honno.

Cyhoeddwyd cyfieithiad Cymraeg Siân Edwards o Pippi Hosan-hir gan Gwasg y Dref Wen yn 1978. A hithau’n agosáu at ddeugain mlynedd ers y cyhoeddiad cyntaf hwnnw, tybed a ydyw’n amser inni fwrw iddi i ail-gyhoeddi’r gwaith drachefn? Mae’n sicr yn hanfodol ein bod yn darparu’r cyfle i blant ac oedolion Cymru i ymateb i siars barhaus Pippi i ystyried hanfodion cysyniadau normadol ein byd. Mae’n bwysig inni, oll, i gael y cyfle i glywed ei llais ar y gwynt yn galw:

‘Pan gyrhaeddodd Tomi ac Annika a’u tad y glwyd fe glywon nhw hi’n gweiddi ar eu holau. Dyma nhw’n aros i wrando. Roedd y gwynt yn rhuo drwy’r coed. Prin glywed llais Pippi roedden nhw. Ond fe ddeallon nhw, serch hynny.

“Rwy’n mynd i fod yn for-leidr ar ôl tyfu’n fawr,” gwaeddodd, “ydych chi?” ’

Gadael sylw