Shwmae, Su’mae: Cyfieithu Profiadau

Mewn caffis, mewn siopau, ac ar hyd strydoedd Cymru heddiw mae siaradwyr Cymraeg wedi bod yn cyfarch ei gilydd gyda’r geiriau llon “Shwmae, Su’mae”. Drwy wneud hynny, maent wedi bachu ar y cyfle i wneud pwynt o fyw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma gyfarchiad sy’n gyfarwydd iawn i lawer ohonom, un sy’n rhan annatod o’n bywydau bob dydd. Ond, i eraill, ac yn enwedig i’r sawl sydd wrthi’n dysgu’r iaith, mae’n gyfarchiad sy’n cyfieithu eu profiad o fywyd, un sy’n rhoi golwg newydd iddynt ar y byd o’u cwmpas.

Shwmae 1
Heath McLean

Tri sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg ers ychydig dros flwyddyn yn fy nosbarth nos yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion y Canolbarth yw Heath McLean, Adam Wilson, ac Ashley Owen. Heddiw, i ddathlu’r diwrnod llawen, cyfarfûm â nhw am baned, lle cawsom gyfle i drafod sut yr oedd eu gallu cynyddol i ddweud ‘Shwmae, Su’mae’ (a llawer mwy, o ran hynny), wedi cyfoethogi eu bywydau.

Un o Lundain yw Heath yn wreiddiol. Daeth i Brifysgol Aberystwyth fel myfyriwr israddedig i astudio yn yr Adran Saesneg, ac yno y mae’n nhw o hyd, yn cwblhau eu doethuriaeth. Apeliodd Aberystwyth atynt o’r cychwyn, gyda’i draeth a’i naws gyfeillgar, a chan hynny yr oedden nhw’n benderfynol y byddent, pan y caent yr amser, yn bwrw ati o ddifri i ddysgu Cymraeg. Yn ystod y flwyddyn diwethaf y maent wedi cael blas ar ddysgu geiriau, idiomau, a phatrymau gramadegol newydd, ac yna, cael arbrofi â nhw drwy sgwrsio â’u ffrindiau a thrwy ysgrifennu straeon byrion gwych a gwirion. Ar hyn o bryd, maent yn gweithio ar stori sy’n cynnwys y llinell frawychus, a hynod awgrymog, ‘Caeth siarc ei herwgipio ddoe!” – dyna dipyn o hanes, mae’n siŵr! Dywedant fod y defnydd o hiwmor swrrealaidd yn eu galluogi i ddysgu geiriau a strwythurau gwahanol yn rhwydd, a’u bod yn bwriadu parhau i ysgrifennu’n greadigol yn y Gymraeg. Mae dysgu Cymraeg, meddent, wedi rhoi iaith arall iddynt i fyw ynddi, a thrwyddi, a chyfoeth o arwyddion ac ystyron newydd iddynt gael eu dysgu a’u mwynhau.

Shwmae 2
Adam Wilson

Brodor o Ogledd Cymru, o bentref bach Dolgarrog, yw Adam Wilson. Mae’n gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth fel Datblygwr Cyfryngau Newydd a gwneuthurwr ffilmiau. Dywed taw drwy ei waith y daeth y cymhelliad cychwynnol iddo i ddechrau dysgu Cymraeg. Sylweddolodd ei fod yn gweithio mewn swyddfa lle roedd y rhan fwyaf o’i gyd-weithwyr yn medru’r iaith. Yn sgil hynny daeth yn fwyfwy ymwybodol ei fod yn byw mewn tref a gwlad ddwyieithog, ond nad oedd yntau ddim ond yn medru rhyngweithio ag un hanner o’r byd hwnnw. Daeth i’r casgliad ei bod hi’n hanfodol i wneuthurwr ffilmiau yn y Gymru sydd ohoni i fedru’r ddwy iaith, hyd at y fath safon nes ei alluogi i’w cynhyrchu yn y naill iaith neu’r llall, neu’n ddwyieithog. Gan hynny, penderfynodd fynychu dosbarthiadau Cymraeg. Dywed i’r dosbarthiadau hynny roddi iddo ddulliau newydd ar hunan-fynegiant, ynghyd ag ymwybyddiaeth ehangach o’r byd o’i gwmpas. Mae dysgu mewn cymuned, a chyd-ddiffinio pau gymunedol unigryw yn yr iaith newydd, yn porthi’r awch i ddysgu mwy, meddai. Yn syml, mae rhuglder yn magu rhuglder.

Shwmae 3
Ashley Owen

Geneth o Nashville, Tennessee, yw Ashley Owen. Ymfudodd i Gymru i astudio ar gyfer ei doethuriaeth mewn barddoniaeth Eingl-Sacsonaidd yn Adran Saesneg Prifysgol Aberystwyth. Daeth yma gan iddi gael ei swyno gan lyfrau a hanesion am y wlad drwy gydol ei hoes. Aeth ati i ddysgu Cymraeg wedi iddi gyrraedd gan nad oedd yn teimlo y medrai fyw yma heb ymwrol i wneud hynny. Nid oedd am barhau i fod, megis, yn Americanes yng Nghymru, ond yn hytrach, yr oedd am fod yn Americanes ac yn Gymraes, yn blethiad unigryw o’r ddwy hunaniaeth. Yr hunaniaeth hon fydd yn sail i’w blog newydd, Ymylnodau, a fydd yn trafod y profiad o fod yn ddysgwr Cymraeg. Dywed bod dysgu Cymraeg wedi agor drysau iddi, ac wedi ei galluogi i fynychu dramâu a darlithoedd, a darllen erthyglau a llyfrau, a fyddai wedi bod yn ddirgelwch llwyr iddi cynt. Mae’n gwerthfawrogi’r gymuned sydd wedi ffurfio yn y dosbarth drwy gyfrwng ei hiaith newydd, ac yn hoff o sut y mae’r berthynas rhyngddi hi â’i chyfeillion wedi magu haenau gwahanol wrth iddynt ei throsi rhwng y Gymraeg a’r Saesneg. A hithau’n arbenigo mewn barddoniaeth Eingl-Sacsonaidd, ac wedi iddi ddod i arfer meddwl drwy gyflythreniad arddull farddonol yr iaith honno yn ei gwaith, mae’n edrych ymlaen at fagu’r un ddealltwriaeth o’r gynghanedd, maes o law, yn ei hiaith newydd. Ac yna, mae’n bwriadu eu plethu, a gweld beth a ddaw …

Mae pob iaith yn gyfieithiad o brofiadau allanol, yn fynegiant drwy system o arwyddion cyfyngedig o’r hyn a ddaw i ran ei siaradwyr. Drwy ddysgu iaith newydd, yr ydym yn dysgu system newydd o arwyddion, sy’n gyfoeth o gysyniadau ac ystyron newydd. System sy’n sail i hunaniaeth, i ymwneud cymdeithasol, i fywyd proffesiynol a phersonol, a system sy’n goleuo’r profiad dynol. Fel y gwelsom yn nhystiolaeth ein tri chyfaill, mae byd gwahanol i’w ganfod ym mhob system o arwyddion, a chyfieithiad newydd o’n hunaniaeth i’w gweld yn y plethiad rhyngddynt.

A gan hynny, gyfeillion, gadewch i mi ymuno â Heather, Adam ac Ashley i’ch cyfarch oll, ar y diwrnod arbennig hwn – Shwmae, a Su’mae.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s