Cysylltiadau Barddoniaeth Cymru: Perfformiad Sain Amlieithog

Sain Aml Gyfrwng Tachwedd
Robert Simonišek, Samira Negrouche, Zoe Skoulding, ac Eurig Sailsbury.

Annwyl Gyfeillion,

Dyma fachu ar y cyfle cyntaf i flogio eto, wedi rhai wythnosau prysur iawn, gyda hysbysebiad ar gyfer digwyddiad cyffrous ym myd cyfieithu.

Am 7:30yh ar nos Fawrth y 10fed o Dachwedd yn Theatr Arad Goch yn Stryd y Baddon, Aberystwyth, cynhelir noswaith ‘Cysylltiadau Barddoniaeth Cymru: Perfformiad Sain Amlieithog’ gan Llenyddiaeth ar draws Ffiniau.

Yno bydd Eurig Sailsbury’n trafod ac yn darllen gyda’r bardd Slofeneg Robert Simonišek. Hefyd, bydd y bardd Ffrangeg o Algeria, Samira Negrouche a’r bardd Zoe Skoulding, Bangor, yn cyflwyno perfformiad sain aml-ieithog dyfeisgar drwy gyfrwng Saesneg, Ffrangeg, Arabeg a Thamasicht.

Cynhelir y digwyddiad hwn fel “ôl nodyn” i Ŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Gogledd Cymru a phrosiect LITERARY EUROPE LIVE / EWROP LENYDDOL FYW a gefnogir gan y rhaglen Ewrop Greadigol a Chyngor Celfyddydau Cymru. Cyflwynir y digwyddiad gan Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a’r Celfyddydau Creadigol Prifysgol Aberystwyth.

Am fwy o wybodaeth, galwch draw at wefan Llenyddiaeth ar draws Ffiniau neu at dudalen Facebook y digwyddiad.

Mae’n argoeli bod yn noson llawn bwrlwm a bywiogrwydd barddol, a chawn oll fynediad am ddim, felly dewch yn llu!

A chofiwch alw draw hefyd at y blog yr wythnos nesaf, lle bydd adolygiad o’r digwyddiad yn disgwyl amdanoch!

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s