Y daith o’r Castell i’r Cartref

Sain Aml Gyfrwng Tachwedd
Robert Simonišek, Samira Negrouche, Zoe Skoulding, ac Eurig Sailsbury.

*Gydag ymddiheuriadau lu am y trafferthion technegol a ddaeth i’m rhan, ac i ran fy ngliniadur druan, a achosodd i’r blogiad diweddaraf hwn fod ddiwrnod yn hwyr yn eich cyrraedd*

Ar nos Fawrth wyntog yn Aberystwyth yr wythnos hon ymgasglodd nifer ohonom yn Theatr Arad Goch, Stryd y Baddon, i geisio lloches rhag tymestl gyntaf mis Tachwedd yng nghwmni pedwar bardd o bedwar ban byd – Robert Simonišek, Samira Negrouche, Zoe Skoulding, ac Eurig Sailsbury. Yn eu cwmni, yn eu gwaith, yn eu trafodaethau a’u perfformiadau, cawsom ein tywys ar daith lenyddol o’r castell i’r cartref ar hyd llwybrau troellog amlieithrwydd dyn. Hon oedd noson ‘Cysylltiadau Barddoniaeth Cymru: Perfformiad Sain Amlieithog’ gan Llenyddiaeth ar draws Ffiniau.

Roedd y syniad o’r berthynas rhwng person â lle yn rhan ganolog o’r drafodaeth a gafwyd rhwng Eurig Sailsbury â’r bardd o Slofenia, Robert Simonišek, yn rhan gyntaf y noson. Agorodd Robert y drafodaeth drwy ddarllen ‘Castle’, sef ei gyfieithiad Saesneg o’i gerdd Slofeneg wreiddiol. Ynddi, trafoda’r bardd sut yr â ati i ganfod castell ym mha le bynnag y teithia yn Ewrop, er mwyn dringo i’w entrychion i gael gwell syniad o’r dref neu’r ddinas newydd o’i gwmpas. Gwêl yn y cestyll hyn lecynnau sifig sydd o hyd, neu a fu unwaith, yn sail i wleidyddiaeth, a diwylliant, a gwareiddiad. Gwêl ynddynt alegori o’r symud parhaus sy’n rhan o fywyd cymaint ohonom yn y byd, ac yn enwedig yn yr Ewrop, sydd ohoni.

Aeth Eurig ac yntau yn eu blaenau i drafod y syniad modern hwn o fywyd sifig fel cyfaddawd rhwng yr wrbaidd â’r gwledig. Esboniodd Robert bod dwy brif arddull farddonol yn y Slofeneg – yr arddull wledig, draddodiadol, o ganu ar fesurau odledig, a’r arddull wrbaidd, ifanc, o ganu’n uniongyrchol ac yn benrydd. Ond, pwysleisiodd, gan mai gwlad fechan a chanddi ddinasoedd bychain yw Slofenia, mai cymharol denau yw’r ffiniau rhwng y ddau fyd mewn gwirionedd.

Robert ac Eurig
Robert Simonišek ac Eurig Sailsbury

Dangosodd Eurig sut oedd yr elfen hon o deithio rhwng y gwledig â’r wrbaidd hefyd yn wir yn y byd Cymreig drwy ddarllen cerdd o’i eiddo am fywyd myfyrwyr yn Aberystwyth, ynghyd â chyfieithiad Saesneg ohoni. Ynddi, disgrifia’r dref fel lleoliad sy’n gynhaliaeth i Gymreictod, ac fel man cyfarfod i efrydwyr a siaradwyr Cymraeg o bob cwr – yn gyrchfan gyffrous, megis un o gestyll Robert.

Cytunodd y ddau fardd bod y symud parhaus hwn wedi dod, yn ei ffordd, yn fath ar gartref i bawb ohonom. Ond, yn y gerdd olaf a ddarllenwyd ganddynt, sef cerdd Slofeneg wreiddiol gan Robert a gyfieithwyd gan Eurig i’r Gymraeg, dangoswyd hefyd bod i’r tŷ sefydlog werth o hyd fel encil barod inni gyd. Yno, yn ein llecyn bach ni, cawn ymgeleddu, heb ‘ddim ots bod y llestri’n bŵl’, a ‘rhoi yn nwylo amser’ ein pasbort rhacs. Yno, lle nad oes na ddim wrbaidd na gwledig, cawn ganu’n rhydd neu’n odledig, ac oedi am ennyd cyn ein cyrch nesaf i’r castell ar y bryn.

Wedi inni glywed am y daith gan Eurig a Robert cawsom ein hebrwng i’w bwrlwm gan berfformiad grymus Samira a Zoe yn ail hanner y noson. Gwewyd seiniau’r llais a seiniau’r byd yn grefftus yn eu cynhyrchiad aml-ieithog, gyda Samira’n darllen ac yn canu darnau o’i gwaith o’r Ffrangeg, o sawl cywair ar yr Arabeg, ac o Damasicht, a Zoe’n darllen cyfeithiadau Saesneg ohonynt oll, gan drefnu a thrawsosod yr holl seiniau a gynhyrchwyd ganddynt drwy ddulliau samplo ac ailadrodd i greu wal gyson, ond cyfnewidiol, o sŵn pwerus.

Zoe a Samira
Zoe Skoulding a Samira Negrouche.

Wrth i seiniau’r gwahanol ieithoedd blethu medrem glywed y tebygrwydd a’r gwahaniaethau rhyngddynt, ac ymgolli i’r sgwrs gyfansawdd, annealladwy, a grëwyd drwy’r cyfuno. Cawsom glywed iaith ar ei gwedd amrwd, yn gasgliad o seiniau y tu hwnt i ddirnadaeth ei rheolau arferol. Cawsom brofiad byw o’r hyn y byddai Roman Jakobson yn ei alw’n gyfieithu rhyngsemiotig. Cyfieithwyd ystyr pob dim o’r oll a fynegwyd mewn geiriau yn y cerddi gwreiddiol i brofiad ac i weithred gelfyddydol newydd mewn system semiotig wahanol. Daeth bydoedd ynghyd ar y daith rhwng pob iaith, rhwng ein peuoedd cyson, yn ‘llecyn yr atgofion, lle try’r act yn fetaffor’.

Ymbiliwyd arnom, yng nghlo’r perfformiad, i geisio deall ‘o ba le y daw hi, y wreigan honno sy’n canu pob cam o’i thaith ar hyd y llwybr noeth’. Gyda’r fath ymholiad, a chyda’r fath bersonoliad o’r daith ei hun, cawsom ein harwain yn ein holau at gychwyn y noson, ac at drafodaeth Robert ac Eurig drachefn. Tybed ai o’r castell neu o’r catref y daeth hi y tro hwn, yr uniad fyw honno o sain ac iaith sy’n dod i’n cyfarfod, a’n cyfareddu, ar ein teithiau di-ben-draw?  Neu tybed ai teithio’n barhaus yw ei ffawd, yn ad-drefnu’n seiniau, ac yn ein cymell, o hyd, i gyfieithu’r byd?

Gyda hyn o bos yn canu yn ein clustiau, daeth y noson i ben: noson wych, llawn ystyriaethau dwys a pherformiadau caboledig. Cawsom wledd yn ein castell yn Stryd y Baddon, a dychwelsom adref, bob un, yn ddiddig i’n cartrefi wedi i’r storm a fu’n rhuo gynt ddistewi.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s