Cyngerdd ‘Cofio Canrif’

Darlith
Darlith Dr. Rhian Davies ar gerddorion alltud Gwlad Belg.

Ar nos Fawrth yr wythnos hon ces i’r cyfle i fynychu cyngerdd yng Nghapel y Garn, Bow Street, ger Aberystwyth. Cyngerdd ‘Cofio Canrif’ oedd hwn, digwyddiad a drefnwyd gan y prosiect ‘Cofio a Myfyrio’. Adlais ydoedd o gyngerdd tebyg a gynhaliwyd union ganrif ynghynt ar yr un noson ac yn yr un man. Noson oedd honno i godi arian i’r Groes Goch drwy ddathlu talentau rhai o gerddorion alltud Gwlad Belg a oedd wedi dod i Gymru’n ffoaduriaid rhag galanas y Rhyfel Mawr. Noson oedd ‘Cofio Canrif’ i gofio’r cyngerdd cyntaf, ac i gasglu eto i’r Groes Goch, y tro hwn er mwyn cynorthwyo ffoaduriaid ein hoes ni wrth iddynt ffoi o erchyllterau’r rhyfel yn Syria.

Roedd hi’n noson arbennig, yn llawn talentau cerddorol a pherfformiadol. Cawsom eitemau gan gyfoeth o artistiaid, gan gynnwys Brian Clarke, a ganodd Simple Confession gan Francis Thome ar y soddgrwth; Vernon Jones, a adroddodd Araith Llewelyn gan Elfed yn awdurdodol a grymus, fel y’i adroddwyd ganrif ynghynt; Eleri Roberts, a ganodd ddwy alaw Gymreig hyfryd i asio’r clasurol â’r gwerinol yn un, a llawer mwy. Cawsom hefyd ddarlith wych gan Dr. Rhian Davies ar hanes y cerddorion alltud eu hunain, ac am rôl y chwiorydd Davies, o Blas Gregynog gynt, yn sicrhau lloches iddynt. Canwyd anthem Gwlad Belg, hyd yn oed, yn union fel y gwnaed ganrif ynghynt, a chyfieithwyd profiad a gweithred o gyngerdd i gyngerdd ar draws y degawdau.

Soddgrwth
Brian Clarke yn perfformio Simple Confession gan Francis Thorne.

Roedd hi hefyd yn noson iasol, yn llawn cyffelybiaethau brawychus rhwng yr argyfwng a fu, â’r argyfwng y sydd, eto, yn wynebu ffoaduriaid ar draws y byd. Darluniodd Siôn Meredith, o elusen Tearfund, y sefyllfa bresennol yn eglur, yn fanwl, ac yn gydymdeimladol ger bron y gynulleidfa, gan gynnig neges seml a phwerus tu hwnt. Pwysleisiodd y dylem gofio’n barhaus fod gan bob un o’r ffoaduriaid enw, a hanes, a dynoliaeth, a bod gennym ni, y sawl sy’n ddigon ffodus i gael byw mewn heddwch, ddyletswydd i’w cynorthwyo. Dyfynnodd Matthew 7:12, a’r Rheol Euraidd honno sy’n pontio cymaint o ddiwylliannau a chrefyddau, gan ein hannog i drin pawb, bob amser, fel yr hoffem ninnau gael ein trin. Braf oedd bod mewn cynulleidfa oedd yn unfrydol gytûn â chywirdeb y fath ddatganiad.

Bara
Bara o Syria

Ar ddiwedd y gwasanaeth, a fynychwyd gan lawer iawn o bobl gan gynnwys nifer o’r ffoaduriaid sydd wedi derbyn lloches yn ardal Aberystwyth, dosbarthwyd darnau o fara pita o Syria. Esboniodd Penri James, arweinydd y noson, bod y bara toredig hwn yn arwydd o’r drychineb, ac o wasgariad pobl Syria ar draws y byd. Mewn noson o ddigwyddiadau grymus, efallai mai’r symbolaeth hon oedd y grymusaf un. Mor gyfarwydd yw’r ymarfer o ddosbarthu bara mewn capel fel arwydd o obaith gymunedol am gymod yn wyneb dinistr enbydus. Weithiau bydd symbolau’n cyfleu ac yn cyfieithu ystyr yn gystal, os nad yn well hyd yn oed, nag unrhyw eiriau.

Diolch i bob un o’r trefnwyr a’r perfformwyr am noson gofiadwy a gwerthfawr tu hwnt. Diolch am y croeso a estynnwyd i bawb gan Gapel y Garn hefyd. Gobeithio’n wir y cawn oll ymgynnull unwaith eto’n fuan, mewn llawer llai na chanrif, pan fydd y byd yn fwy cytûn mai “brodyr i’w gilydd fo dynion pob oes.”

Advertisements

Skyfog, Ysgeifiog, a ‘Sgeifog

photo 1
Tarth yr Awyr?

Os yr ewch chi rywdro am siwrnai ar hyd yr A487 o Abergwaun i Dyddewi, ac os y craffwch chi’n ofalus ar y cloddiau wrth ichi basio drwy bentref bach Carnhedryn, mi welwch chi rywbeth rhyfedd iawn. Yno, yn cuddio ymysg y dail, nid nepell o ben y feidr fach sy’n arwain mas i’r perci, mae arwydd pitw sy’n pwyntio’r ffordd i ‘Skyfog’. Ymysg holl enwau Cymreig yr ardal – Carnhedryn, lleoliad yr arwydd difyr, Croesgoch, y pentref diwethaf ichi ei basio cyn cyrraedd y tro hwnnw, a Chaerfarchell, y pentref nesaf ar eich llwybr cyn ichi gyrraedd Tyddewi ei hun, mae ‘Skyfog’ yn taro’r glust a’r llygad fel un estron braidd. Tybed beth yw ei darddiad, ei ystyr, a’i oblygiadau? Beth yw’r ‘Skyfog’ hwn, yn y man lle bu untro darth dros Ddyfed gyfan?

Ȃ Phenrhyn Dewi yn gartref i Solva, Fishguard, Ramsey, ac enwau tebyg, byddai’n hawdd neidio i’r casgliad mai term o darddiad Llychlynnaidd hynafol ydyw. Mae’r naill gymal o’r gair fel y llall, y ‘Sky’ a’r ‘Fog’, ill dau’n eiriau sy’n hanu o’r ieithoedd Germaneg. Ond buan iawn y disodlir y ddadl honno os yr ystyrid yn gyntaf sut yr yngenir y gair ar dafod leferydd, ac yn ail y berthynas bosibl rhyngddo ag enw pentref sy’n gyfarwydd i drigolion gogledd-ddwyrain Cymru. Ar lafar gwlad yn y Penrhyn, ‘‘Sgeifog’ yw’r enw ar y lle. Ceir yma adlais pendant o ‘Ysgeifiog’, fel yr Ysgeifiog hwnnw sydd yn Sir y Fflint.

1795311_10152137745682444_4200187439787904_o
Y cwt bad achub ym Mhorth Stinian, yn edrych allan tuag at Ynys Dewi, neu Ramsey, fel y’i enwyd gan y Llychlynnwyr gynt.

Fel ‘Ysgeifiog (Sgeifog)’ y cofnodir yn enw gan B. G. Charles yn The Place-Names of Pembrokeshire (Aberystwyth, 1992) hefyd. Dengys y cofnod hynafiaeth yr enw. Nodir mai yn 1341 y’i cofnodwyd am y tro cyntaf, fel villem de Skeyrvauc. Cynigia’r cofnod hefyd ddau esboniad posibl am darddiad yr enw. Yn gyntaf, yn ôl damcaniaeth Ifor Williams, awgryma fod yr un gair i’w ganfod yn tref irisceiauc, sef cofnod anghyflawn o tref ir isceuiauc, a’i fod yn golygu tref ar lethr. Yn yr ail esboniad, a gyflwynwyd yn gyntaf gan Edward Lhuyd – esboniad ‘anturus’, chwedl Williams, ond un a dderbyniwyd gan R. J. Thomas – cynigir mai o’r gair ysgaf (neu rywbeth cyffelyb), sef ffurf mwy hynafol ar ysgaw, y cyfyd yr enw. Drwy ychwanegu’r ddiweddeb -iog, a dalfyrrir yn nhafodiaith y fro i -og, awgrymir yn yr enw mai dyma’r fan lle tyf y coed ysgaw. Dadleua Charles mai’r canllaw gorau i ddeall yr enw yw ‘Skeio (Iscaio)’ yn Sir Gaerfyrddin, enw nant sy’n gyfuniad o ysgaw ac –iog, sy’n gyfatebol i ‘Helygi’ (o’r goeden helyg) yn Sir Drefaldwyn.

Tref y llethrau, neu lecyn yr ysgaw, felly. Ond o bla le y daeth tarth yr awyr? Mae’n beryg mai cyfieithu, cyfieithu seinegol uniongyrchol, sydd ar fai am y newid ystyr. Gellir gweld yn hawdd sut y trosir ‘Sgeifog i Skyfog os y cyfieithir seiniau’r gair heb ymwroli i ymateb hefyd ystyron y cymalau o’u fewn. Cefnogir y ddamcaniaeth hon gan draddodiad llafar y Penrhyn, sy’n tystiolaethu mai ar orchymyn un o’r tirfeddianwyr lleol y cadwyd yr enw yn ei sillafiad Seisnig. Mae’r fath gyfieithu trefedigaethol i’w weld ar draws y byd. Bu’n flaenllaw yn hanes diweddar Cymru, yn y gwrthymateb a fu yng nghanol yr ugeinfed ganrif yn erbyn sillafiadau fel Caernarvon, Llanelly, ac yn rhyfedd ddigon, yr enw Seisnig ar y pentref cyfagos i ‘Sgeifog a ddaeth yn gatalydd i’r frwydr i Gymreigio’r dulliau sillafu swyddogol, Trevine.

920823_10153315860012444_8352952088896561513_o
Te parti Nadoligaidd gydag Ella James, ‘Brenhines ‘Sgeifog’!

Gall cyfieithu, a cham-gyfieithu, fod yn arf grymus ym myd gwleidyddiaeth. Gall dreiddio i bob agwedd ar fywyd – gall olygu bod arwydd bychan yng nghesail clawdd ar ffordd yng Ngorllewin Cymru yn fynegiant parhaus o oruchafiaeth honedig un diwylliant dros ddiwylliant arall. Dull o hawlio meddiant ac awdurdod ydyw.

Pa beth a wnawn â Skyfog, Ysgeifiog, a ‘Sgeifog, felly? Y peth tecaf fyddai caniatáu i’w drigolion gael y gair olaf ar y mater. Dros y Nadolig, ces i’r cyfle i fynd draw gyda fy nheulu i ymweld ag Ella James, gwraig a fu’n byw yn y pentref bach – gan weithio yn Ysgol Carnhedryn am flynyddoedd, a chan fynychu’r capel Methodistaidd Calfinaidd yng Nghaerfarchell yn selog – drwy gydol ei hoes, am yn agos iawn at ganrif, hyd y dydd heddiw. Mae ganddi stôr o hanesion ac atgofion difyr am Benrhyn Dewi a’i hanes dros y ganrif diwethaf a mwy. Fel un o brif storïwyr y fro, mae’r penrhyn cyfan yn gytûn mai hi, yn wir, yw “Brenhines ‘Sgeifog”. A phwy ydw i, rhyw flogiwr bach di-nod, i ddadlau â brenhines?

‘Sgeifog amdani felly!