Cyfieithu Robinson Crusoe

Robinson_Crusoe_1719_1st_edition
Y cyhoeddiad cyntaf o Robinson Crusoe, 1719

Ym mis Ebrill 1719 cyhoeddwyd un o weithiau llenyddol mwyaf dylanwadol y byd Saesneg am y tro cyntaf un, sef adroddiad Daniel Defoe o stori’r cymeriad eiconig Robinson Crusoe a’i longddrylliad ar ynys unig.

Bu’r gwaith yn llwyddiant masnachol o’r dechrau’n deg. Yn wir, cymaint oedd ei boblogrwydd cynnar nes y’i cyhoeddwyd dair gwaith drachefn cyn diwedd blwyddyn gyntaf ei fodolaeth. Yn ddigon buan, aeth Defoe ati i lunio dwy gyfrol ddilynol, oedd yn adrodd anturiaethau pellach y cymeriad. Dros y 296 mlynedd ers y cyhoeddiad cyntaf, cyhoeddwyd hanes Crusoe mewn cannoedd o rifynnau gwahanol, rhai’n llyfrau llawn lluniau, eraill yn gyfuniadau o ddwy gyfrol gyntaf y drioleg, ac eraill eto fyth yn addasiadau mwy penrhydd o’r testun gwreiddiol. Bu cymaint o addasiadau ar y gwaith nes y gellir dadlau, fel y gwna Robert W. Lovett yn ei gyfrol, Robinson Crusoe: A Bibliographical Checklist of English Language Editions (1719 – 1979), ei bod hi’n amhosibl i ddiffinio union nodweddion y Robinson Crusoe ‘gwreiddiol’ bellach.

Ynys Crusoe
Dyluniad dychmygus o ynys Crusoe.

Addaswyd rhywfaint ar y stori gyda phob golygiad newydd. Mewn rhai cyhoeddiadau, cwtogwyd ar fyfyrdodau diwinyddol y prif gymeriad, mewn eraill hepgorwyd y cyfeiriadau at ganibaliaeth, ac mewn rhai eraill drachefn pwysleisiwyd moeswersi economaidd y gwaith. Bu’n sail i drafodaethau brwd ymysg beirniaid llên a sylwebwyr cymdeithasol. Trafodwyd hynt Crusoe fel dameg o ddeffroad ysbrydol, wrth iddo deithio o anwybodaeth ac anniddigrwydd, drwy chwalfa, i ganfod hunan-ymwybyddiaeth mewn bywyd asgetig. Deallwyd y gwaith gan eraill fel dychan ar fethodoleg y system gyfalafol, wrth i ynys Crusoe ei hun droi’n alegori o fyd masnach. A gwelodd eraill, gyda James Joyce yn flaenllaw yn eu plith, ynddi bortread llawn propaganda amhleserus o blaid ymlediad yr Ymerodraeth Brydeinig ar draws y byd.

Yn ogystal â bod yn destun poblogaidd ar ei liwt ei hun, ac yn destun myfyrdodau dwys, esgorodd y gwaith ar lawer iawn o drosiadau i wahanol gyfryngau diwylliant dros y canrifoedd. Bellach, medrwn brofi hanes yr anturiwr mewn llyfrau print, llyfrau plant, rhaglenni teledu, gemau fideo, ffilmiau, celfyddyd weledol, gemau bwrdd, a llawer mwy o gyfryngau eraill. Cymaint oedd dylanwad y gwaith nes y daeth yn sail i genre gyfan ar gynnyrch llenyddol – genre’r castaway, neu’r ffurf Robinsonade, fel y’i gelwid. Mae’r hyn a ddechreuwyd gan Daniel Defoe yn 1719 felly’n fwy o lên gwerin na gwaith llenyddol unigol bellach – mae’n rhan o’n hymwybod torfol.

CLASSICS_ILLUSTRATED_-10-_ROBINSON_CRUSOE
Clawr i addasiad o stori Robinson Crusoe, 1959.

Cyfieithwyd yr hanes, a’r amrywiadau a gaed arno, i lawer iawn o ieithoedd y byd, gan gynnwys y Gymraeg. Cyhoeddwyd y cyfieithiad Cymraeg cynharaf o’r gwaith, Bywyd hynod a gweithredoedd rhyfeddol y dewr a’r gwrol Robinson Crusoe: Yr hwn a fu byw wyth mlynedd ar hugain mewn ynys anghyfannedd, yr hon wedi hynny a boblwyd ganddo ef, sef cyfieithiad o addasiad Saesneg diweddarach sy’n gyfuniad o ddwy gyfrol gyntaf Defoe, ym 1795 gan J. Tye o Wrecsam.  Cyhoeddwyd (neu ail-gyhoeddwyd) cyfrolau eraill yn adrodd yr hanes yn Gymraeg gan argraffwyr ledled Cymru yn gyson drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a pharhawyd â’r gwaith hwnnw, ar raddfa llai, yn yr ugeinfed ganrif.

Yr wyf i wrthi ar hyn o bryd yn catalogio’r holl fersiynau o hanes Crusoe a gyhoeddwyd yn y Gymraeg yn y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, fel sail i bennod o’m doethuriaeth ar gyfieithu i’r Gymraeg. Wrth feddwl am yr holl amrywiadau a fu ar yr stori honno dros y canrifoedd, does wybod pa anturiaethau rhyfeddol a fydd yn fy nisgwyl, wrth imi fwrw i’r dwfn i chwilio am Robinson a’i ynys bellennig, rhywle draw dros y don …

Advertisements

Trosi Dydd Gŵyl Ddewi

Eisteddfod Tyddewi 2016
Gareth Evans yn adrodd yn Eisteddfod Tyddewi, 2016.

Maddeuwch imi am hwyrni’r blog yr wythnos hon – bûm yn brysur tu hwnt ym mwrlwm dathliadau Dydd Gŵyl Ddewi!

Dros y penwythnos diwethaf, golygais a chyd-argraffais gyfrol o gyfansoddiadau a beirniadaethau llên Eisteddfod Tyddewi 2015, yn barod i’w gwerthu yn yr Eisteddfod eleni. Ar ddydd Llun, bûm yn arwain yr Eisteddfod honno ac yn beirniadu’r cystadleuthau llenyddol yno. Roedd Neuadd y Ddinas yn lawn dop unwaith eto eleni, a bu cystadlu brwd yn y cystadlaethau llwyfan a gwaith cartref fel ei gilydd.

Ar ddydd Mawrth, wedi brysio nôl i Aberystwyth ben bore – a chael fy nal am 20 munud yn Aberaeron wrth i barêd Gŵyl Ddewi’r dref amgylchynu’r bws! – es i â’m dosbarth Cymraeg i’r Llyfrgell Genedlaethol, er mwyn iddynt gael bowlen o gawl a thocyn o fara brith i ginio tra’n gwrando ar delynores dalentog yn canu rhai o hoff alawon gwerin Cymru.

Yna, heddiw, es i a’m gwraig, ynghyd â channoedd o bobl eraill, i ddilyn Parêd Gŵyl Ddewi Aberystwyth, oedd yn basiant o faneri, canu, lliw a llawenydd.

Het!
Y benwisg berffaith!

Mae cymaint o ffyrdd i ddathlu hunaniaeth dorfol. Yn ogystal â’r amrywiol ddigwyddiadau a nodais, gallwn hefyd fod wedi mynd i gymanfa ganu fawreddog, parêd dreigiau, a thwmpath dawns yn Nhyddewi. Yn Aberystwyth, cynhaliwyd, a chynhalir o hyd, nosweithiau gwerin, boreau coffi, a hyd yn oed gweithdai beatbocsio i dathlu’r ŵyl. Cynhaliwyd gweithgareddau tebyg ledled Cymru, yn wir, ledled y byd, dros yr wythnos diwethaf – o’r digwyddiadau mawr cymdeithasol i’r gweithredoedd personol tawel.

Beth sydd gan hyn oll i’w wneud â chyfieithu felly?

Mae’n duedd gennym i feddwl am gyfieithiadau fel dim ond trosiadau o un iaith i iaith arall yn unig. Ond, mae mwy i gyfieithu na hynny. Fel y esboniodd Roman Jakobson wrth amlinellu’r tri math ar gyfieithiad, gellir trosi’n fewn-ieithyddol (aralleirio o fewn iaith) ac yn rhyng-semiotig (o un cyfrwng i un arall, o iaith i ddawns, er enghraifft) yn ogystal ag yn y dull rhyng-ieithyddol mwy cyfarwydd. Ac enghreifftiau o drosiadau rhyng-semiotig yw pob un o’r digwyddiadau a nodwyd gennyf yn y blogiad hwn.

Trosiadau i’r diriaethol yw’r ddraig, y ddawns, y cawl a’r canu, o gysyniadau haniaethol o gymuned ac o hunaniaethau unigol a thorfol. Priodolwn ystyron alegorïol i’r arwyddion a’r gweithgareddau hyn, ac o’u perfformio a’u harddel, awn gam o’r ffordd tuag at wireddu’r ystyron rheiny. Apeliwn at eu hynafiaeth, eu traddodiad, eu hiconograffiaeth, ac at y ddefosiwn seciwlar o’u hymarfer, fel cyfiawnhad gylchynol o’u parhad. Yn syml, drwy wneud y pethau hyn, dangoswn mai’r hyn sy’n ein nodweddu yw mai ni yw’r bobl sy’n eu cyflawni. Adeiladwn ein byd, ac yna, awn ati i fyw ynddo, drwy ei adeiladu drachefn.

Pared Aberystwyth
Mary Lloyd Jones ym Mharêd Aberystwyth.

Tybed beth â droswn yn ein perfformiadau hunaniaethol, felly? Pa fath o le yw’r byd hwn a luniwn ar ein cyfer ni ein hunain? Beth yw ei ansawdd, ei swm, a’i sylwedd? Pwyslais mawr yr artist Mary Lloyd Jones, Tywysydd Parêd Aberystwyth, yn ei haraith ger bron y gorymdeithwyr heddiw oedd bod Cymreictod y dref wedi’i gwreiddio yn ei haml-ddiwylliannedd ryddfrydol. Dadleuodd o blaid arddel hunaniaeth dorfol gynhwysol ac agored. Dyma, i mi, yw hanfod yr hyn a ddathlwn. Hynodion ein diwylliant unigryw ni, yn ei wedd fwyaf agored a chroesawgar, yw ein cyfraniad at gyfoeth diwylliannol y ddynoliaeth gyfan. Ar Ddydd Gŵyl Ddewi, fel ar bob diwrnod arall, felly, boed inni barhau i wneud y pethau bychain, mawr…