Trosi Dydd Gŵyl Ddewi

Eisteddfod Tyddewi 2016
Gareth Evans yn adrodd yn Eisteddfod Tyddewi, 2016.

Maddeuwch imi am hwyrni’r blog yr wythnos hon – bûm yn brysur tu hwnt ym mwrlwm dathliadau Dydd Gŵyl Ddewi!

Dros y penwythnos diwethaf, golygais a chyd-argraffais gyfrol o gyfansoddiadau a beirniadaethau llên Eisteddfod Tyddewi 2015, yn barod i’w gwerthu yn yr Eisteddfod eleni. Ar ddydd Llun, bûm yn arwain yr Eisteddfod honno ac yn beirniadu’r cystadleuthau llenyddol yno. Roedd Neuadd y Ddinas yn lawn dop unwaith eto eleni, a bu cystadlu brwd yn y cystadlaethau llwyfan a gwaith cartref fel ei gilydd.

Ar ddydd Mawrth, wedi brysio nôl i Aberystwyth ben bore – a chael fy nal am 20 munud yn Aberaeron wrth i barêd Gŵyl Ddewi’r dref amgylchynu’r bws! – es i â’m dosbarth Cymraeg i’r Llyfrgell Genedlaethol, er mwyn iddynt gael bowlen o gawl a thocyn o fara brith i ginio tra’n gwrando ar delynores dalentog yn canu rhai o hoff alawon gwerin Cymru.

Yna, heddiw, es i a’m gwraig, ynghyd â channoedd o bobl eraill, i ddilyn Parêd Gŵyl Ddewi Aberystwyth, oedd yn basiant o faneri, canu, lliw a llawenydd.

Het!
Y benwisg berffaith!

Mae cymaint o ffyrdd i ddathlu hunaniaeth dorfol. Yn ogystal â’r amrywiol ddigwyddiadau a nodais, gallwn hefyd fod wedi mynd i gymanfa ganu fawreddog, parêd dreigiau, a thwmpath dawns yn Nhyddewi. Yn Aberystwyth, cynhaliwyd, a chynhalir o hyd, nosweithiau gwerin, boreau coffi, a hyd yn oed gweithdai beatbocsio i dathlu’r ŵyl. Cynhaliwyd gweithgareddau tebyg ledled Cymru, yn wir, ledled y byd, dros yr wythnos diwethaf – o’r digwyddiadau mawr cymdeithasol i’r gweithredoedd personol tawel.

Beth sydd gan hyn oll i’w wneud â chyfieithu felly?

Mae’n duedd gennym i feddwl am gyfieithiadau fel dim ond trosiadau o un iaith i iaith arall yn unig. Ond, mae mwy i gyfieithu na hynny. Fel y esboniodd Roman Jakobson wrth amlinellu’r tri math ar gyfieithiad, gellir trosi’n fewn-ieithyddol (aralleirio o fewn iaith) ac yn rhyng-semiotig (o un cyfrwng i un arall, o iaith i ddawns, er enghraifft) yn ogystal ag yn y dull rhyng-ieithyddol mwy cyfarwydd. Ac enghreifftiau o drosiadau rhyng-semiotig yw pob un o’r digwyddiadau a nodwyd gennyf yn y blogiad hwn.

Trosiadau i’r diriaethol yw’r ddraig, y ddawns, y cawl a’r canu, o gysyniadau haniaethol o gymuned ac o hunaniaethau unigol a thorfol. Priodolwn ystyron alegorïol i’r arwyddion a’r gweithgareddau hyn, ac o’u perfformio a’u harddel, awn gam o’r ffordd tuag at wireddu’r ystyron rheiny. Apeliwn at eu hynafiaeth, eu traddodiad, eu hiconograffiaeth, ac at y ddefosiwn seciwlar o’u hymarfer, fel cyfiawnhad gylchynol o’u parhad. Yn syml, drwy wneud y pethau hyn, dangoswn mai’r hyn sy’n ein nodweddu yw mai ni yw’r bobl sy’n eu cyflawni. Adeiladwn ein byd, ac yna, awn ati i fyw ynddo, drwy ei adeiladu drachefn.

Pared Aberystwyth
Mary Lloyd Jones ym Mharêd Aberystwyth.

Tybed beth â droswn yn ein perfformiadau hunaniaethol, felly? Pa fath o le yw’r byd hwn a luniwn ar ein cyfer ni ein hunain? Beth yw ei ansawdd, ei swm, a’i sylwedd? Pwyslais mawr yr artist Mary Lloyd Jones, Tywysydd Parêd Aberystwyth, yn ei haraith ger bron y gorymdeithwyr heddiw oedd bod Cymreictod y dref wedi’i gwreiddio yn ei haml-ddiwylliannedd ryddfrydol. Dadleuodd o blaid arddel hunaniaeth dorfol gynhwysol ac agored. Dyma, i mi, yw hanfod yr hyn a ddathlwn. Hynodion ein diwylliant unigryw ni, yn ei wedd fwyaf agored a chroesawgar, yw ein cyfraniad at gyfoeth diwylliannol y ddynoliaeth gyfan. Ar Ddydd Gŵyl Ddewi, fel ar bob diwrnod arall, felly, boed inni barhau i wneud y pethau bychain, mawr…

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

w

Connecting to %s