Y Saith Samurai a’r Magnificent Seven

Trioleg Cyfieithu Ffilmiau: 1

Delwedd 1
Akira Kurosawa yn ffilmio’r Saith Samurai.

Mae’r Saith Samurai (七人の侍), y ffilm antur hanesyddol gan Akira Kurosawa a ryddhawyd yn 1954, yn un o glasuron y sinema. Ynddi, adroddir hanes saith Ronin, sef samurai heb feistri, wrth iddynt ymwroli i amddiffyn pentref o ffermwyr reis tlawd rhag ymosodiadau criw o wylliaid creulon. Cawn ddarlun grymus o ddycnwch cymeriad cymuned gyfan yn erbyn anobaith cynni enbyd, a phortread ymholgar a theimladwy o fethiannau hierarchaeth cymdeithas ffiwdal Siapan yn ystod blynyddoedd ei rhyfeloedd cartref.

Yn ogystal, dyneiddir y samurai eu hunain. Gwelwn eu bod yn gymeriadau pragmatig, yn strategwyr sy’n cynllunio’n fanwl ar gyfer brwydr, yn unigolion sy’n ymwybodol o werth undod cydweithredol uwchlaw unigolyddiaeth gorawenus, ac yn filwyr sy’n gwybod pryd i ymladd a phryd i beidio. Amlygir eu bod yn gymeriadau trasig hefyd, gan eu bod yn filwyr tan gamp heb fyddin i’w harwain, a chan eu bod yn gaeth i’w dosbarth cymdeithasol heb waddol economaidd na sefydlogrwydd diwylliannol i’w cynnal.

Roedd y fath bortread yn radicalaidd yn Siapan yr 1950au, yn dra gwahanol i’r ddelwedd o’r samurai ymladdgar, anorchfygol a ddangoswyd yn helaeth ar sgriniau Siapan yn ystod yr Ail Ryfel Byd fel arf propaganda. Delweddir y samurai gan Kurosawa yn y modd hwn er mwyn beirniadu’r defnydd a wnaed ohonynt mewn propaganda diweddar ac mewn gwleidyddiaeth hanesyddol fel arwyddion o awdurdod a gormes.

Bu’r ffilm mor boblogaidd nes y’i cartrefolwyd ar gyfer cynulleidfa Americanaidd yn yr addasiad enwog, The Magnificent Seven, gan y cyfarwyddwr John Sturges. Rhyddhawyd hon yn 1960, gwta chwe mlynedd wedi cyhoeddi’r gwreiddiol am y tro cyntaf.

Delwedd 3
Llun o Samurai hanesyddol.

Cadwyd llawer o’r stori wreiddiol, ond newidiwyd llawer hefyd wrth gartrefoli’r testun ffynhonnell. Newidiwyd y lleoliad, o’r Siapan ffiwdal i’r ystrydeb o’r Hen Orllewin Americanaidd na fodolodd erioed ac eithrio ar rith y sgrin fawr. Newidiwyd y pentrefwyr tlawd i ffermwyr ym Mecsico, rhoddwyd i’r herwyr dienw arweinydd – y Calvera dieflig – i fod yn brif ddihiryn i’r arwyr, a gweddnewidiwyd y samurai yn saith cowboi carismataidd.

Portreadir hwynt yn y ffilm fel cymeriadau’n llawn o hyder a hyfdra’r cowboi archetypaidd. Dônt ynghyd, nid o angen na than orfodaeth ansicrwydd eu statws cymdeithasol, ond o ddewis, ar egwyddor, ac ar sail eu dyheadau personol amrywiol. Yn wahanol i’r samurai, ni chynlluniant yn fanwl ar gyfer y frwydr yn erbyn y gwylliaid, gan ddod i adnabod pob modfedd o dirwedd a phensaernïaeth y pentref amddiffynnol. Yn hytrach, hyfforddant y pentrefwyr i saethu, ac yna, gyda dyfodiad y ffrae, ânt i’r gâd gydag arddeliad, gan ddibynnu’n llwyr ar eu talentau arwrol gyda’u harfau i ennill y dydd. Ymddengys nad oedd Hollywood eto’n llwyr barod i gartrefoli dychan Kurosawa o eiconograffiaeth yr arwr ystrydebol.

Mae’r gwahaniaeth rhwng y samurai a’r cowbois i’w weld ar ei amlycaf yn hynt y frwydr olaf. Yn y Saith Samurai, daw unig wir fethiant yr ymgyrch i amddiffyn y pentref pan feiddia Kikuchiyo, yr hanner-samurai, hanner-amaethwr hwnnw sy’n pontio llawer o drafodaethau diwylliannol y ffilm, adael ei wylfa i fynd i hela am y gwylliaid ar ei ben ei hun. Collfernir ef am hyn gan Kambei, arweinydd y saith, gan i’w ddiffyg disgyblaeth ganiatáu i rai o’r gwylliaid i ymosod ar y pentref a lladd nifer o’i drigolion. Methiant y saith, felly, ac yn benodol, methiant un o’r saith, a sicrha fethiant i’r lliaws.

Delwedd 2
Patrymlun o’r Cowboi Americanaidd.

Yn The Magnificent Seven, bradychir y cowbois gan y pentrefwyr tra’u bod ymaith yn hela am wersyll y gwylliaid. Cytuna’r trigolion i dderbyn awdurdod Calvera drostynt, gan ildio’u cynnyrch iddo, a chan ildio’r frwydr yn ei erbyn yn ddisymwth. Penderfyniad y saith cowboi i orffen yr hyn a ddechreuwyd ganddynt, ac i achub yr amaethwyr rhag eu diffyg dycnwch, a dry’r frwydr yn yr achos hwn. Methiant torf sydd i’w weld yma, torf a estronolwyd o ran hynny, ger bron dyfalbarhad archetypau o wroldeb unigolyddol Americanaidd.

Dyma ddwy ffilm unigryw, dwy weithred gelfyddydol, a berthyn yn glos i ddyheadau a rhagdybiaethau eu hieithoedd a’u diwylliannau targed. Drwy eu cymharu, gwelwn ymdriniaethau gwahanol iawn o ddelfrydau arwrol dwy wlad oedd mewn cyfnodau gwrthgyferbyniol iawn yn eu hanes.

Yr oedd Siapan yn dygymod â gwaddol gormes ei chyfnod Ymerodraethol, a dioddefaint erchyll yr Ail Ryfel Byd, tra’r oedd yr Unol Daleithiau ar gychwyn un o’u chyfnodau economaidd mwyaf llewyrchus, ac yn brysur ehangu ei dylanwad milwrol ar draws y byd.

Ond, mae’n bwysig cofio, tra’r oedd y samurai yn ceisio canfod eu lle mewn byd cyfnewidiol, a thra’r oedd y cowbois yn datgan eu hawdurdod dros y peuoedd oedd o’u cwmpas, fod y naill garfan fel y llall yn gytûn ar un peth – mai’r amaethwyr, y rhai sy’n trin y tir mewn heddwch, yn unig sy’n ennill yn y pen draw.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s