Blog Cronfa Cyfieithiadau’r Gymraeg

Croeso i Flog Cronfa Cyfieithiadau’r Gymraeg!

Amcan y blog wythnosol hwn fydd i ddathlu Cronfa newydd o Gyfieithiadau i’r Gymraeg a luniwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf gan Sefydliad Mercator, Prifysgol Aberystwyth, tan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  Catalog ar-lein yw Cronfa Cyfieithiadau’r Gymraeg sy’n casglu ynghyd ddeunydd sydd o ddiddordeb academaidd ym meysydd y Celfyddydau, y Dyniaethau, a’r Gwyddorau Cymdeithasol.

Cloriau

Mae dros 650 o wahanol destunau wedi’u cynnwys yn y gronfa’n barod, yn cynrychioli dros 30 o ieithoedd. Mae amrywiaeth y gwaith yn eang. Ceir yn y gronfa Faniffesto’r Blaid Gomiwnyddol (Marx ac Engels, cyf. W.J. Rees), Y Wladwriaeth (Plato, cyf. D. Emrys Evans), Gweledigaethau Dante, sef La Divina Commedia (Dante cyf. Daniel Rees), gwaith Tolstoi, Twrgenief, Tsiecoff a mawrion llenyddiaeth Rwsia, a Datganiadau Cyfreithiol Rhyngwladol i enwi ond rhai. Ceir testunau ym myd Daearyddiaeth, Athroniaeth, Hanes, Astudiaethau Crefydd, Addysg, Gofal Amaethyddol i enwi ond ychydig ohonynt. Ceir hefyd enghreifftiau o ddeunydd print, o weithiau heb eu cyhoeddi, o deipysgrifau, o ddogfennau swyddogol, o recordiadau sain, o deunydd fideo a llawer mwy.

Catalog

Darperir ystod eang o wybodaeth am bob testun yn y cofnodion, gan gynnwys enw’r awdur, enw’r cyfieithydd, dyddiad cyhoeddi’r cyfieithiad, iaith wreiddiol y gwaith, allweddeiriau hanfodol, a disgrifiad manwl o nodweddion pob testun unigol. Gwiriwyd pob testun yn unigol i sicrhau ansawdd a chywirdeb y cofnod. Gellir pori testunau trwy ddefnyddio’r meysydd hyn, neu trwy ddewislen eang o gategorïau eraill.

10552603_10152257123902444_1134793980587915499_nMae manylder y catalog eisoes wedi esgor ar amryw o brosiectau pellach, megis papur ymchwil ‘Tri Hamlet y Gymraeg’ Huw Owen a Roger Owen a gyflwynwyd yng Nghymru ac ym Mharis; ysbrydolodd berfformiad o gyfieithiad Arzel Even o ddrama Lydaweg Roparz Hemon ‘Carnifal’; a bu’n sbardun i ddigideiddio rhai testunau theoretig pwysig i’r Gymraeg, sef cyfres ‘Be’ Ddywedodd…?’, sydd bellach i’w gweld ar Y Porth.

A dyma esgor yn awr ar flog newydd i ddathlu’r casgliad gwerthfawr hwn o ffrwyth dyfeisgarwch siaradwyr y Gymraeg ym myd cyfieithu dros y ganrif ddiwethaf. Cofiwch alw draw i’r blog yn wythnosol i ddysgu mwy am waith rhai o’n cyfieithwyr pennaf, i ddarllen am rai o glasuron y byd yn iaith y nefoedd, ac i weld pa ryfeddodau prin sy’n celu yng Nghronfa Gyfieithiadau’r Gymraeg …