Mae’n wir bod cyfieithu’n dod â phrofiadau’r byd i bau diwylliant deiliaid yr iaith darged. Trwy gyfieithu gweithiau Plato a Socrates cawn blymio i feddwl yr Hen Roeg Glasurol. Trwy gyfieithu Shakespeare cawn well amgyffrediad o grefft a dawn y dramodydd o Stratford. Trwy gyfieithu testunau o ieithoedd eraill cawn ein cyd-destunio ein hunain, a magwn well ddealltwriaeth o’n lle yn y byd.
Ond, mae’n bwysig peidio ag anghofio bod y cyfnewid profiad hwn yn gweithio’r ddwy ffordd. Yn fynych, cyfoethogir byd yr awduron gwreiddiol, ynghyd â’r cyfieithwyr a siaradwyr yr iaith darged, drwy’r broses o gyfieithu. Cânt hwythau olwg ar fyd ac ar fydoedd nas gwyddant, o reidrwydd, y nesaf peth i ddim amdanynt. Cânt hwythau hefyd gyd-destunau diwylliannol newydd.
Felly y bu profiad Eugène Ionesco yn 1968.
Yn y flwyddyn honno aeth Cwmni Theatr Cymru – cwmni oedd yn ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn gwmni proffesiynol dwy-ieithog oedd yn perfformio gweithiau gan awduron Cymraeg, dramâu Clasurol, a dramâu’r theatr gyfoes – ati i berfformio cyfieithiadau o dair drama fer o eiddo’r dramodydd o Rwmania. ‘Merthyron Dyletswydd’, wedi’i chyfieithu gan Gareth Miles, ‘Pedwarawd’, wedi’i chyfieithu gan John Watkins, a ‘Y Tenant Newydd’, wedi’i chyfieithu gan Ken Lloyd-Jones, oedd y dair drama a ddewiswyd ganddynt. Yr oeddent yn dair drama oedd yn nodweddiadol o arddull lenyddol y dramodydd. Arferai Ionesco, chwedl nodiadau rhaglen y perfformiadau, ‘blymio’n ddwfn i mewn i’w hunan i chwilio am ddeunydd’, ac yno, ymysg ei freuddwydion, ei gudd ofnau a’i ddyheadau cyfrin, byddai’n canfod testunau i’w ysbarduno a’u ysbrydoli ym myd llên.
Mae dau gopi o’r rhaglenni a baratowyd ar gyfer y perfformiadau wedi’u cadw yn Adran Deipysgrifau a Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Nodir ynddynt fanylion y cwmni, yr actorion, a’r cynhyrchwyr, ynghyd â rhywfaint o wybodaeth am yrfa ac am arddull lenyddol y dramodydd. Ond nodir ynddynt hefyd fanylyn arbennig iawn, sef dyfyniad o gyfarchiad o eiddo Eugène Ionesco ei hun. Dyma fe, ynghyd â’r cyfieithiad a ddarparwyd ohono yn y rhaglen:
“Neges oddiwrth [sic] Eugène Ionesco:
‘Merci de vous interesser a mes pieces. Je suis fier d’apprendre que le Welsh Theatre Company joue mes pieces. Salut aux comediens. Et “Vive le Pays de Galles Libre”.’
(Diolch ichi am eich diddordeb yn fy ngwaith. Yr wyf yn ymfalchio o wybod fod Cwmni Theatr Cymru am gyflwyno fy nramâu. Cyfarchion i’r actorion. A hir oes i Gymru Rydd.)”
Mae’n anochel bod y Cwmni, mewn cydymffurfiaeth â rheolau hawlfraint, wedi sicrhau caniatâd y dramodydd, neu ganiatâd ystâd y dramodydd o leiaf, cyn mynd ati i gyfieithu ac i berfformio’r dramâu hyn. Ond, trwy wneud hynny, mae’n amlwg eu bod hefyd wedi ennyn diddordeb y dramodydd yng Nghymru ac yn y Gymraeg. O ystyried dyddiad y perfformiadau, cwta flwyddyn cyn yr Arwisgo yng Nghaernarfon, ac o ystyried yr hinsawdd wleidyddol yng Nghymru ar y pryd, mae sylw olaf Ionesco yn ei gyfarchiad yn un dadlennol. Sylwer mai dyfyniad ydyw o fewn y dyfyniad mwy. Dyfyniad uniongyrchol o bau diwylliant arall. Nid sylw diddim, na chyfarchiad niwtral, oedd ‘Vive le Pays de Galles Libre’ yn y Gymru Gymraeg ar ddiwedd y chwedegau.
Er nad yw’r cyfarchiad yn ddigon, yn ei hun, i brofi bod gan y dramodydd farn wleidyddol benodol am sefyllfa Cymru ar y pryd, mae’n ddigon i ddangos ei fod wedi ymgyfarfod â disgyrsiau hunaniaethol y Cymry a’r Gymraeg yn sgil cyfieithu ei waith, a’i fod felly’n fwy hyddysg yn y drafodaeth hunaniaethol honno o’r herwydd. Efallai bod mynegiant hunaniaethol y Cymry ar sail iaith wedi taro tant iddo, ac yntau’n feirniad mor hallt o dechnegau awdurdodau totalitaraidd o ormesu trwy unffurfiaeth ieithyddol. Efallai bod y cysyniad o ryddid gwrth-awdurdodol wedi apelio at ei bwyslais ar ryddid mynegiannol yr unigolyn a’r artist o fewn cymdeithas. Beth bynnag fo’i gymhellion dros gynnwys y dyfyniad hwn yn ei gyfarchiad, mae un peth yn eglur. Ehangwyd ar bau diwylliannol y dramodydd trwy ei brofiad uniongyrchol o bau’r cyfieithwyr, a gwnaed hynny trwy gyfieithu.
Yn ei ragymadrodd i’r gyfrol gyntaf o ‘Storïau Tramor’ dadleua Bobi Jones fod y weithred o fynd ati i drosi ac o ddarllen gweithiau o bedwar ban yn fodd o’n hatgoffa ein bod yn rhan o Farchnad Gyffredin o syniadau byd-eang. Mae profiad Ionesco’n dangos inni ein bod oll yn gydamserol yn brynwyr ac yn werthwyr yn y farchnad eang honno. Galluogir ein llwyddiant yng nghyfalafiaeth syniadaeth y ddynoliaeth trwy’r cyfnewid parhaus sy’n digwydd wrth inni gyfieithu, a gwerthfawrogi, ein geiriau ein gilydd.