Dewch bawb i’n plith ar 18 Mai 2018!
Bob mis Mai bydd cynadleddau, ac ar 18 Mai 2018 cynhelir un arbennig iawn yn Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Cymru, sef cynhadledd Gair am Air, a gyllidir gan Ganolfan Hyfforddiant Ddoethurol yr AHRC.
Amcan Gair am Air yw i annog ymchwilwyr ym myd eang y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd i ystyried sut yr ânt ati i gyflwyno’u gwaith, gan roi’r cyfle iddynt arbrofi ac ehangu ar eu defnydd o’r amrywiol ddulliau cyflwyno sydd ar gael i’r ymchwilydd modern.
Bydd rhai o’r cyflwynwyr yn darllen o destun parod, ac eraill yn traethu o’r frest. Darperir taflenni papur i gyd-fynd â’u cyflwyniadau gan rai, tra chyflwynir gwybodaeth ar sleidiau systemau fel Prezi neu Pwerbwynt gan eraill. Bydd rhai’n cyflwyno drwy gyflwyniad rhyngweithiol ar-lein, ac eraill yn dangos eu gwaith ymchwil drwy berfformiadau cerddorol.
Gyda’r fath amrywiaeth arddull bydd amrywiaeth eang ac iachus yn nhestunau cyflwyniadau’r gynhadledd hefyd.
Yn sesiwn y bore, trafodir ‘Newid Cystrawen mewn Manaweg a Chymraeg’ gan Christopher Lewin (Prifysgol Caeredin); â Catrin Bethan Williams (Coleg y Brenin, Llundain) a ni i ddyfnder y polisi arloesol, ‘Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr’; a rhydd Angharad Owen (Prosiect Mapio Cymru) gip ddifyr inni ar sut y mapir enwau lleoedd yn Gymraeg ar-lein yn ‘Mapio Cymru: Yn gyntaf, Cymru… yna, y byd!’
Ar ôl cinio, bydd Bethany Celyn (Prifysgol Bangor) yn gofyn inni ‘Ail Ystyried Prydeindod: Gwenno Saunders a’r Gân Gernyweg’; ac Elan Grug Muse (Prifysgol Abertawe) yn camu i fyd theori gyda ‘Barddoniaeth, Ysgolheictod a Chadeiriau’; cyn i’r cerddor talentog Ceri Owen-Jones (Deuair, Twmpath Aberystwyth) gloi’r sesiwn gydag esboniad swynol ac ysgolheigaidd o hanes ‘Cerddoriaeth Moddol Cymreig’.
Yn sesiwn y prynhawn, darperir hyfforddiant arbenigol ym meysydd cyflwyno ymchwil yn weledol ac ar lafar i fynychwyr y gynhadledd gan Dr. Martin Crampin (CAWCS), ‘Gair a Delwedd: Darlithiau Gweledol’, a Dr. Roger Owen (Prifysgol Aberystwyth), ‘Dramatwrgiaeth Darlithio’. Yna cynhelir sesiwn bord gron i drafod yr hyn a welwyd ac a ddysgwyd yn ystod y dydd ym myd cyflwyno gwybodaeth academaidd.
Mae’r gynhadledd yn rhad ac am ddim i’w mynychu ac yn agored i bawb. Darperir cyfieithu ar y pryd drwy gydol y gynhadledd.
Fe’ch gwahoddwn oll i ddod i ymuno â ni yn Ystafell Seminar CAWCS ar 18 Mai 2018 – gadewch i ni wybod ar gairamair2018@gmail.com am eich bwriad i ddod er mwyn inni drefnu bod digon o fwyd ar gael i bawb yn y bwffe amser cinio!
Dewch i wrando, dewch i rannu, dewch i gynnig – Gair am Air!