Ffilm y Blog: 03.05.2016!

Dyn Camera
Difrifoldeb y dyn camera … diolch byth mai Adam oedd yn ffilmio! 🙂

Annwyl gyfeillion,

Fel y llynedd, a’n cynhyrchiad amlieithog o Soned 30, mae Adam Wilson, y gwneuthurwr ffilmiau o Aberystwyth, a mi wedi bod yn gweithio’n galed dros yr wythnosau diwethaf yn paratoi ffilm newydd ar eich cyfer… ffilm sy’n llawn o ieithoedd amrywiol… ffilm sy’n cynnwys lleisiau o sawl cyfandir … a ffilm sy’ bron iawn yn barod …

Dewch yn Ă´l atom ni yma wedi GĹľyl y Banc, a chewch weld y cyfan!

Ffilm y Blog: 03.05.2016

H. G. Wells, y Cartrefolwr.

H_G_Wells_pre_1922
H. G. Wells

Sut fyddech chi’n disgrifio H. G. Wells? Fel awdur rhai o nofelau a straeon gwyddonias enwocaf a mwyaf dylanwadol y ffurf? Yn sicr. Fel traethodydd gwleidyddol a chymdeithasol, a chanddo ymdeimlad ddofn dros hawliau’r dosbarth gweithiol ar draws y byd ar droad yr ugeinfed ganrif? Efallai wir. Fel athro ysgol a fu’n ymgeisydd etholiadol dros y Blaid Lafur yn yr 1920au? Mae’n bosibl iawn. Fel cyfieithydd? Na, bid siŵr. Ond, yn ôl ei ddiffiniad ef ei hun, yr oedd Wells yn gyfieithydd; un â oedd, mewn sawl ffordd, yn nodweddiadol o’i gyfnod.

Yn ei ragymadrodd i’r gyfrol The Scientific Romances of H. G. Wells, a gyhoeddwyd yn gyntaf yn 1933, amlinellodd Wells ganllaw i awduron gwyddonias a elwir heddiw yn ‘Gyfraith Wells’. Canllaw ydyw sydd wedi’i seilio ar y cysyniad mai cyfieithiad o’r rhyfeddol i’r diriaethol yw ffuglen wyddonol –

“Anyone can invent human beings inside out or worlds like dumb-bells or a gravitation that repels. The thing that makes such imaginations interesting is their translation into commonplace terms and a rigid exclusion of other marvels from the story. Then it becomes human.”

War_of_the_Worlds_pg_141
Delwedd o ‘The War of the Worlds’, yn dangos y rhyfeddol, yng ngherbydau’r bodau o Fawrth, yn cael ei gartrefoli gan y gefnlen ddinesig.

Yn ôl Wells, ni thâl hi ddim i’r awdur gwyddonias i ddychmygu holl ryfeddodau’r bydysawd ynghyd yn unig. Gelwir arno hefyd i ddyneiddio’i gysyniadau ffantasïol drwy eu trosi i brofiad beunyddiol y gynulleidfa darged. Hefyd, dylai ffocysu ar ddim ond un agwedd ddychmygus, er mwyn pwysleisio’r agwedd honno, gan ei chymathu’n llwyr â’r termau cyfarwydd sydd o’i chwmpas.

Gan hynny, mae’n rhaid i’r Teithiwr yn The Time Machine, wrth gyrraedd pellafion y dyfodol a chyfarfod â’r Eloi a’r Morlociaid, weld cymdeithas ranedig sy’n wireddiad alegorïol o drafodaethau cymdeithasol a gwleidyddol Ewrop ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’n rhaid i gariad at gyfalaf fod wrth wraidd y fenter o hedfan i’r Lleuad yn The First Men in the Moon, ac i duedd y ddynoliaeth tuag at ryfel i arwain at dranc yr ymgyrch honno wrth i drigolion y Lleuad, y Selenitiaid, dorri pob cysylltiad â’r Ddaear ar ddiwedd y stori. Ac y mae’n rhaid i’r frwydr a welir yn The War of the Worlds rhwng dynoliaeth â bodau o’r blaned Mawrth, hanes â wireddir drwy amlygu dealltwriaeth newydd troad y ganrif ar wyddoniaeth microbau a chlefydon heintus, ddigwydd yng nghyd-destun disgrifiadau daearyddol cywrain o dirwedd Llundain a de Lloegr.

“For the writer of fantastic stories to help the reader to play the game properly, he must help him in every possible unobtrusive way to domesticate the impossible hypothesis.”

Wells_The_Invisible_Man
Clawr y cyhoeddiad cyntaf o ‘The Invisible Man’.

Tasg yr awdur gwyddonias, yn ôl Cyfraith Wells, yw bod yn gyfieithydd sy’n cartrefoli cysyniad mewn modd anymwthgar.  Yn hyn o beth, mae Wells yn nodweddiadol o brif farn ei oes ym Mhrydain am dechneg cyfieithu a swyddogaeth y cyfieithydd yn gyffredinol. Fel y dangosodd Lawrence Venuti yn The Translator’s Invisibility, cododd rhuglder a chartrefoli fel conglfeini crefft y cyfieithydd anweladwy yn y byd Saesneg yn y cyfnod modern cynnar, ac fe’i arddelid am sawl canrif wedi hynny fel y prif batrymlun ar gyfieithu safonol. “The dominance of domesticating translation,” esboniodd, “extended to popular genres like the novel,” gan gynnwys, fel yr awgrymir yn nhystiolaeth Wells, nofelau ffug-wyddonol.

Cartrefolwr rhyng-semiotaidd, un oedd yn cyfieithu rhwng y dychmygus â’r diriaethol, ac un a ddatblygodd yng ngwaddol dealltwriaeth ei oes, felly, oedd H. G. Wells. Un a ymlynodd at ei Gyfraith ei hun, gan geisio troi’n ddyn anweladwy, er mwyn ein galluogi ni i deithio i diroedd estron ein dychymyg torfol –

“How would you feel and what might not happen to you,” is the typical question, if for instance pigs could fly and one came rocketing over a hedge at you. How would you feel and what might not happen to you if suddenly you were changed into an ass and couldn’t tell anyone about it? Or if you became invisible?”