Yn ystod yr wythnos hon mae pedwar cyfaill imi, Alaw Gwyn, Gwion James, Carwyn Blayney a Lucy Andrews, pedwar myfyriwr sy’n astudio ar gyfer gradd feistr Cyfryngau Creadigol Ymarferol yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth, wedi bod yn gwibio o gwmpas Cymru yn trosi anturiaethau Sal Paradise a’r nofel On the Road gan Jack Kerouac i’r peuoedd diwylliannol a daearyddol Cymraeg a Chymreig.
Adleisir y nofel yn eu prosiect mewn sawl ffordd. Cyn teithio, dewiswyd ganddynt 21 lleoliad yng Nghymru a fyddai’n cynrychioli 21 lleoliad penodol yn y gwaith gwreiddiol. Mesurwyd hyd y daith hefyd fel ei bod yn cyfateb at filltiroedd y nofel: 600 milltir yng Nghymru, 6,000 milltir yn yr UDA. Aed ati yn ogystal i drydar a blogio am y daith yn barhaus, gan gyfleu rhywfaint o’r bwrlwm a’r cyflymdra di-baid hwnnw sydd mor nodweddiadol o arddull y nofel ei hun. Cofiwn, yn ôl y chwedl, taw nofel yw hon a ysgrifennwyd gan Kerouac ar un rholyn mawr o bapur mewn un chwa o deipio gwyllt: mae brys a phrysurdeb yn rhan o’i chynhysgaeth.
Ceir hefyd yn nhaith y pedwar ymholiad i weld i ba raddau y gellid Cymreigio’r cysyniad o ‘road trip’. Trafodir felly gyfieithu cysyniadol a chelfyddydol yn y prosiect. Fel yr esboniodd Alaw Gwyn wrth drafod â gwefan Golwg360:
‘ “Mae roadtrip yn fath o beth ‘dach chi’n mynd arni a does neb arall wedi bod o’r blaen, ond mae Cymru mor fach ‘da ni’n trio holi a ydi o’n bosib i ni wneud hynny,” esboniodd Alaw Gwyn, “Mae ‘na siawns fyddan ni’n nabod pobl ar y daith – fel ‘na mae Cymru ynde!” ‘
Bwriad y pedwar yw cywain y deunydd a gasglwyd ganddynt ar yr antur ynghyd mewn perfformiad aml-gyfrwng a gynhelir ar y 1af o Fai, 2015, ym Mhrifysgol Aberystwyth.
A minnau wedi mwynhau dilyn eu hanturiaethau dros y dyddiau diwethaf, a chan edrych ymlaen yn awchus at gael gweld y perfformiad terfynol o’r gwaith, penderfynais y byddwn yn dathlu eu camp, ac yn eu croesawi yn ôl i Aberystwyth (neu’r Patterson, New Jersey, Cymreig, â bod yn fanwl gywir!) drwy wneud ychydig o gyfieithu mwy traddodiadol er eu clod.
Penderfynais gyfieithu brawddeg derfynol On the Road. Brawddeg fyfyriol, aml-gymalog, ôl-syllol a maith. Brawddeg sy’n croniclo pensyniadau olaf Sal Paradise am yr Unol Daleithiau, ei phobl, ei thirwedd, ei hamrywiaeth a’i haruthredd. Brawddeg sy’n cloi taith drwy gydnabod nad yw’r un daith fyth yn dod i’w therfyn mewn gwirionedd. Brawddeg sy’n ein herio ni i gyd i barhau i deithio, ac i chwilio, ac i ryfeddu’n dragwyddol, ym mhob iaith a phaith ar yr un pryd:
“Ac felly yn America wrth i’r haul fachludo eisteddaf ar hen lanfa’r afon yn gwylio’r awyr faith, faith uwchlaw New Jersey gan geisio amgyffred yr holl dir amrwd hwnnw sy’n rolio’n un ymchwydd anghredadwy drosodd a thraw hyd Lannau’r Gorllewin, a’r hen ffordd ddiderfyn honno, a’r holl bobl rheiny sy’n breuddwydio yn aruthredd y peth, ac yn Iowa mi wn erbyn hyn, mae’n rhaid fod y plant yn wylo yn y tir lle gadewir i’r plant wylo, a heno bydd y sêr yn disgleirio, ac oni wyddoch mai Pooh Bear yw’r Duw Mawr ei hun? mae’n rhaid fod seren y cyfnos yn pendrymu ac yn diosg fflachiadau’r pylu ar hyd y paith, eiliadau’n unig cyn dyfodiad yr wylnos sy’n bendithio’r ddaear, sy’n duo’r afonydd, sy’n mwytho’r copaon, sy’n plethu’n un â’r draethell olaf, gan wybod yn sicr na ŵyr neb, neb, ddim un taten o’r hyn sydd o’n blaenau ac eithrio am garpiau amddifad ein henaint anochel, a meddyliaf am Dean Moriarty, meddyliaf hyd yn oed am yr Hen Ddean Moriarty y tad na ddaethom o hyd iddo fyth, meddyliaf am Dean Moriarty.”