Mae hi’n benblwydd heddiw ar Emanuel Swedenborg, y gwyddonydd, yr athronydd a’r cyfrinydd o Sweden. Fe’i ganed yn 1688, a bu’n ddyfeisiwr ac yn wyddonydd tan gamp am flynyddoedd cyn iddo ddechrau profi breuddwydion a gweledigaethau cyfriniol yn ystod Wythnos y Pasg yn 1744. Arweiniodd y gweledigaethau hyn at ‘ddeffroad ysbrydol’ iddo, ac fe’i cymhellwyd gan y deffroad hwn i ysgrifennu’n helaeth am fetaffiseg, gyda’r bwriad o ddiwygio Cristnogaeth.
Disgrifiodd ‘Eglwys Newydd’ o weledigaeth grefyddol, un a oedd yn pwysleisio unoliaeth Crist fel mynegiant cyflawn o’r Drindod, gan ganolbwyntio ar y Gredo Apostolaidd yn hytrach na’r Gredo Niceaidd fel sail i’w ddadl. Hanfod arall yr eglwys hon oedd ei phwyslais ar ddilyn y traddodiad Protestannaidd o osod yr unigolyn meidrol fel canolbwynt i’r ymgyrch grefyddol, gan ei orseddu uwchlaw awdurdod eglwys fydol.
Yn eironig ddigon, esgorodd y syniadau hyn yn eu tro ar eglwys fydol, sef Yr Eglwys Newydd, neu’r Eglwys Swedenborgaidd. Gwelwyd sefydlu rhai canghennau o’r eglwys yn Ne Cymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, a thrwy’r diddordeb hynny mae gennym nifer o weithiau gwreiddiol Swedenborg, ynghyd â thractau’r Eglwys Newydd, wedi’u cyfieithu i’r Gymraeg.
Mae un o’r casgliadau mwyaf cynhwysfawr o’r cyfieithiadau hyn i’w weld yn Adran Llawysgrifau a Theipysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cedwir yma ynghyd weithiau a gyfieithwyd gan Philip Charles Davies, neu ‘Philos o’r Cwm’, yn 1885. Maent oll yn llawysgrifau manwl a chywrain. Fe’u bwriadwyd, ymddengys, i fod yn bamffledi ar gyfer yr Eglwys Newydd yng Nghymru, ond nid yw’n amlwg os y’u cyhoeddwyd hwynt erioed.
Ceir yn y casgliad rai gweithiau allweddol o eiddo Swedenborg ei hun, fel ‘Esboniad Ysbrydol ar y Datguddiad’, dadansoddiad adnod-wrth-adnod gan yr awdur o werth cyfriniol a bydol Llyfr y Datguddiad, rhan o’i brosiect mawr o ail-ddarllen yr Ysgrythurau mewn gwedd gyfriniol.
Ceir hefyd rai testunau a ddaeth yn gonglfeini i’r Eglwys Newydd ar ei gwedd fydol, gan gynnwys ‘Athrawiaeth yr Eglwys Newydd’, sy’n amlinellu’n eglur y datganiad gwaelodol am eu cred yn unoliaeth Crist:
“Y Drindod yn yr Arglwydd: Athrawiaeth sylfaenol yr Eglwys Newydd yw mai un yw Duw, mewn hanfod a pherson, ac mai yr Arglwydd Iesu Grist yw y Duw hwnnw. Yr Arglwydd Iesu Grist yw yr unig Berson Dwyfol – yr unig Fod Dwyfol – nid un o dri pherson, ond yr Unig Un. Efe yw Duw wedi ymddangos yn y cnawd, y Tad Tragwyddol o ran Ei Dduwdod, Mab Duw o ran ei ddyndod, a’r Ysbryd Glan o ran ei Ddylanwad Deilliadol. Efe yn unig yw ffynhonnell daioni: Y Ffordd, y Gwirionedd a’r Bywyd. Eiddo Ef yw pob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear. Efe yw unig a phriodol wrthrych addoliad; oblegid mae y Drindod o Dad, Mab ac Ysbryd Glan, yr hyn yw “cyflawnder y Duwdod”, yn preswylio ynddo Ef yn gorfforol. Efe yw delw y Duw anweledig. Ei adnabod Ef yw adnabod y Tad. Ei weled Ef yw gweled y Tad. Ei addoli Ef yw addoli y Tad. Oblegid mae Efe a’r Tad yn un – Un Person Dwyfol, fel y mae enaid a chorff yn un dyn.”
Cyn y Nadolig bu inni ddathlu pen-blwydd Awstin Sant, un o’r cyntaf i ddisgrifio’r ddeuoliaeth ddynol rhwng corff ac enaid, sef un o’r cymalau disgwrs mwyaf dadleuol mewn anthropoleg Gristnogol. Yma, gwelwn ymateb Swedenborgaidd i’r athrawiaeth honno sy’n ymestyn y dehongliad am ddyn i’r bau ddwyfol ac sy’n dadlau bod math ar symbiosis rhwng y ddau ohonynt. Mae gennym yma sgwrs rhwng dau o feddylwyr mwyaf dylanwadol y byd, ac mae’r sgwrs honno, trwy grefft ein cyfieithwyr, yn canu yn ein clustiau yn y Gymraeg. Gadewch inni felly nodi pen-blwydd un arall o feddylwyr y byd trwy ddarllen ac ystyried ei waith trwy gyfrwng ein mamiaith ni.