Gyda’n gilydd, yn gryfach.

pawb-yn-gyfartal
Ned Thomas yn siarad yn y digwyddiad ‘Pawb yn Gyfartal’.

Ni fwriedais i’r blog yma gymryd y fath hoe hafaidd ag y gwnaeth dros y misoedd diwethaf, ond, bu’r haf hwn yn un rhyfedd dros ben. Yn y pendilio dyddiol ar ddiwedd Mehefin a thrwy fis Gorffennaf rhwng gorchestion Cymru ar y cae chwarae yn Ewro 2016 a thryblith y Refferendwm a gwaddol boenus ei ganlyniad, profodd blogio’n anodd, a’r ysfa i encilio’n drech na’r dyhead i gyhoeddi.

Ar y cae, gwelsom Gymru hyderus, ryngwladol, a chynhwysol; ar y newyddion, gwelsom Gymru – gwelsom Brydain – ansicr, anghyfeillgar, a chaeedig. Gwelsom rhyw ddeuoliaeth swreal, y gwynfyd a’r adfyd yn un. Wrth i drylwyredd y diffyg cynllun ar gyfer dyfodol economaidd, gwleidyddol a diwylliannol Prydain amlygu ei hun yn yr wythnosau wedi’r bleidlais, wrth i’r ofnau am gyllid a buddiannau Cymru a’r Gymraeg yn y sefyllfa newydd honno ddyfnhau, ac wrth i’r culni hiliol a gododd yn sgil y Refferendwm effeithio’n uniongyrchol ar rai o’m cyfeillion anwylaf, daeth aruthredd anghyraeddadwy’r sefyllfa i’m meddiannu.

Felly trois, yn dawel, at wneud y pethau bychain.

cymraeg
Y tiwtoriaid yn trefnu. 🙂

Yn gyntaf, cyd-fynychais. Ar ddechrau Gorffennaf, ymgasglodd rhai cannoedd o drigolion Aberystwyth, a minnau yn eu plith, o flaen ein bandstand newydd. Cyd-ganom â Chôr Gobaith Aberystwyth, cawsom rosod yn rhoddion gan arddwyr y fro, a chlywsom areithiau o frawdoliaeth a charedigrwydd gan rai o drigolion y dref – o Gymru, o’r Undeb Ewropeaidd, ac o weddill y byd. Yn goron ar y cyfan, plethom freichiau yng nghysgod baneri’r gwledydd sy’n sirioli’r Prom i greu cadwyn gref o gydsafiad rhyngwladol a rhyngbersonol.

Yn ail, cyd-drefnais. Ganol y mis, daethom, diwtoriaid Cymraeg i Oedolion, Canolfan Iaith y Canolbarth, ynghyd i baratoi ar gyfer ein Cwrs Haf blynyddol, a gynhalir bob mis Awst ym Mhrifysgol Aberystwyth. Trafodom ddulliau dysgu, a gweithgareddau allgyrsiol; cynlluniom deithiau ac ymweliadau i gyd-fynd â’r cwrs; a chyfranogom oll, bawb yn unol â’u doniau arbennig, i sicrhau llwyddiant y fenter o groesawi dros gant ac ugain o fyfyrwyr eiddgar o bedwar ban byd i’n bro i astudio’r Gymraeg eleni eto.

twmpath
Twmpathwyr!

Yn drydydd, cyd-ddawnsiais. Ar benwythnos olaf Gorffennaf, daeth cyfeillion o bob cwr o Gymru, Ewrop, a’r byd, i ymuno â ni yn nhwmpath misol ein band, Twmpath Aberystwyth. A minnau’n galw’r stepiau fel arfer, â’r band yn bersain wrth fy nghefn, chwyrliom drwy’r Jac Do a’r Saith Lwcus, y Ddawns Briodas a’r Ffansi Ffermwr, a llawer mwy. Rhwng y dawnsfeydd, chwaraeom alawon gwerin, rhannom straeon hoff, a gwleddom ar frechdanau a chacennau a baratowyd gennym, fel cymuned, i lenwi’n boliau llon, cyn llamu eto’n ôl i’r llwyfan dawns drachefn.

Mewn byd o dryblith, un sy’n bygwth i wahanu pobl a gwledydd ar sail eu cenedligrwydd, eu crefydd, eu cyfleoedd a’u cyfoeth, bu’r tri gweithgaredd uchod yn hwb hanfodol i’r galon. Daethant, yn nyddiau rhyfedd haf 2016, yn adleisiau byw o eiriau praff ein pencampwyr pêl-droed; yn brawf ein bod oll, gyda’n gilydd, yn gryfach.