Dyma rifyn tra gwahanol o’r blog arferol. Dros yr wythnos diwethaf, bûm yn darllen dros gant o eitemau llenyddol o bob math ar gyfer fy nhasg flynyddol o feirniadu llenyddiaeth Eisteddfod Tyddewi, a gynhelir yfory.
Mae’n eisteddfod ddwyieithog, ac o’r herwydd mae’n ddisgwyliad i’r beirniad llên i gynnig pwt o gyfieithiadau o’r gweithiau buddugol yn ei feirniadaethau er mwyn i bawb gael mwynhau cynnyrch yr Ŵyl. Gan hynny, nid siarad am gyfieithiadau Cronfa Cyfieithiadau’r Gymraeg y byddaf i yn y blogiad hwn, ond siarad fel beirniad llên yr eisteddfod hon, a sôn am safle’r cynnyrch llenyddol dwyieithog fel mynegiant ar hybridedd ddiwylliannol y fro.
Dewisir yr un testun i bob cystadleuaeth greadigol yn yr Eisteddfod, yn y ddwy iaith, yn flynyddol, – eleni, “Blodau Gwylltion / Wild Flowers” yw’r testun hwnnw. Mae’r thema gyson hon yn rhoi golwg dda o’r ystod o greadigrwydd sydd i’w weld ar Benrhyn Dewi, ac y mae hefyd yn rhoi cip ar y gwahanol esthetegau sy’n bodoli ym mheuoedd diwylliant y ddwy iaith yn yr ardal hon.
Yn fynych, yn y cerddi a’r straeon Saesneg, rhamentir y tirwedd, y wlad a’i phobl mewn termau sy’n adleisio canu Wordsworth a’r canu Rhamantaidd Saesnig. Trafodir hunaniaeth genedlaethol fel un gydamserol Gymreig a Phrydeinig, a chyfeirir yn aml at ddigwyddiadau a symbolau mawrion calendr hunaniaethol Prydain, megis y Rhyfeloedd Byd ac yn y blaen. Yn y cerddi a’r straeon Cymraeg, rhamentir yr iaith Gymraeg a’i bywyd gwledig, yr hynafiaeth ddiweddar o fyd a oedd yn fwy rhugl yn yr Heniaith, byd y Capel a’r gymanfa ganu. Trafodir hunaniaeth genedlaethol fel un sy’n pwyso’n fwy tuag at Gymreictod wedi’i ddatod oddi wrth yr idiom Brydeinig, a chyfeirir at ddigwyddiadau a symbolau fel yr Eisteddfod Genedlaethol, y traddodiad barddol Cymraeg, ac ymgyrchoedd iaith yr ugeinfed ganrif.
Mae’r iaith hefyd yn dylanwadu ar natur y gwaith – weithiau bydd yr un bardd neu awdur yn ysgrifennu yn y ‘dull Saesneg’ a nodwyd uchod yn ei weithiau Saesneg, tra’n mabwysiadu’r ‘idiom Gymraeg’ uchod yn ei gynnyrch Cymraeg. Ymddengys fod yr ieithoedd yn gydamserol yn gyfryngau diwylliant ac yn fynegiannau unigol ohonynt.
Mae gennym yn Nhyddewi felly hybridedd yng ngwir ystyr y gair – lleolir hunaniaeth y ddinas yn y sgwrs rhwng y ddwy iaith, a mynegir hynny yn ei chynnyrch eisteddfodol. Dyma lawenydd pennaf gwyliau sy’n dathlu’r hybridedd ddiwylliannol sy’n perthyn inni gyd – caniatânt i amrywiol leisiau i ganu rhwng ein diffiniadau haearnaidd o ddiwylliant ac iaith. Canant yn yr hybridedd, canant yn y bwlch lle trigwn oll. Dathlant blwraliaeth ac amlddiwylliannedd ein byd.
Yn awr, maddeuwch imi, gan fod yn rhaid imi ffarwelio â chi, a dychwelyd at fy meirniadaethau – mae’r telynau’n galw, a’r dorf yn distewi, a’r drysau’r prysur gau yn y cefn …