“Pob chwarae teg …”: Hybridedd Eisteddfod Tyddewi

428008_10150606157592444_754743866_n
Neuadd Dinas Tyddewi dan ei sang ar ddydd yr eisteddfod.

Dyma rifyn tra gwahanol o’r blog arferol. Dros yr wythnos diwethaf, bûm yn darllen dros gant o eitemau llenyddol o bob math ar gyfer fy nhasg flynyddol o feirniadu llenyddiaeth Eisteddfod Tyddewi, a gynhelir yfory.

Mae’n eisteddfod ddwyieithog, ac o’r herwydd mae’n ddisgwyliad i’r beirniad llên i gynnig pwt o gyfieithiadau o’r gweithiau buddugol yn ei feirniadaethau er mwyn i bawb gael mwynhau cynnyrch yr Ŵyl. Gan hynny, nid siarad am gyfieithiadau Cronfa Cyfieithiadau’r Gymraeg y byddaf i yn y blogiad hwn, ond siarad fel beirniad llên yr eisteddfod hon, a sôn am safle’r cynnyrch llenyddol dwyieithog fel mynegiant ar hybridedd ddiwylliannol y fro.

421381_10150606138842444_1796190475_n
Côr ‘Friends in Harmony’ yn paratoi i berfformio.

Dewisir yr un testun i bob cystadleuaeth greadigol yn yr Eisteddfod, yn y ddwy iaith, yn flynyddol, – eleni, “Blodau Gwylltion / Wild Flowers” yw’r testun hwnnw. Mae’r thema gyson hon yn rhoi golwg dda o’r ystod o greadigrwydd sydd i’w weld ar Benrhyn Dewi, ac y mae hefyd yn rhoi cip ar y gwahanol esthetegau sy’n bodoli ym mheuoedd diwylliant y ddwy iaith yn yr ardal hon.

Yn fynych, yn y cerddi a’r straeon Saesneg, rhamentir y tirwedd, y wlad a’i phobl mewn termau sy’n adleisio canu Wordsworth a’r canu Rhamantaidd Saesnig. Trafodir hunaniaeth genedlaethol fel un gydamserol Gymreig a Phrydeinig, a chyfeirir yn aml at ddigwyddiadau a symbolau mawrion calendr hunaniaethol Prydain, megis y Rhyfeloedd Byd ac yn y blaen. Yn y cerddi a’r straeon Cymraeg, rhamentir yr iaith Gymraeg a’i bywyd gwledig, yr hynafiaeth ddiweddar o fyd a oedd yn fwy rhugl yn yr Heniaith, byd y Capel a’r gymanfa ganu. Trafodir hunaniaeth genedlaethol fel un sy’n pwyso’n fwy tuag at Gymreictod wedi’i ddatod oddi wrth yr idiom Brydeinig, a chyfeirir at ddigwyddiadau a symbolau fel yr Eisteddfod Genedlaethol, y traddodiad barddol Cymraeg, ac ymgyrchoedd iaith yr ugeinfed ganrif.

Mae’r iaith hefyd yn dylanwadu ar natur y gwaith – weithiau bydd yr un bardd neu awdur yn ysgrifennu yn y ‘dull Saesneg’ a nodwyd uchod yn ei weithiau Saesneg, tra’n mabwysiadu’r ‘idiom Gymraeg’ uchod yn ei gynnyrch Cymraeg. Ymddengys fod yr ieithoedd yn gydamserol yn gyfryngau diwylliant ac yn fynegiannau unigol ohonynt.

10349066_10152136199512444_9024597313995516318_n
Geraint Morse, o Groesgoch, y buddugwr yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Tyddewi, 2014, yn eistedd yn hedd yr eisteddfod, gydag aelodau o’r pwyllgor gwaith, y stiwardiaid, a’r beirniaid yn cadw cwmni iddo.

Mae gennym yn Nhyddewi felly hybridedd yng ngwir ystyr y gair – lleolir hunaniaeth y ddinas yn y sgwrs rhwng y ddwy iaith, a mynegir hynny yn ei chynnyrch eisteddfodol. Dyma lawenydd pennaf gwyliau sy’n dathlu’r hybridedd ddiwylliannol sy’n perthyn inni gyd – caniatânt i amrywiol leisiau i ganu rhwng ein diffiniadau haearnaidd o ddiwylliant ac iaith. Canant yn yr hybridedd, canant yn y bwlch lle trigwn oll. Dathlant blwraliaeth ac amlddiwylliannedd ein byd.

Yn awr, maddeuwch imi, gan fod yn rhaid imi ffarwelio â chi, a dychwelyd at fy meirniadaethau – mae’r telynau’n galw, a’r dorf yn distewi, a’r drysau’r prysur gau yn y cefn …

Gadael sylw