Y Gwyll, Parch, a’r New Welsh Review

teithior-byd
Teithio’r byd, ei led a’i hyd…

Wel, gyfeillion, bu’n gyfnod prysur iawn dros y misoedd diwethaf, gyda theithiau i gynadleddau yn yr Unol Daleithiau, sgyrsiau mewn gwyliau llenyddol, prysurdeb beunyddiol tiwtora Cymraeg i Oedolion, a gwaith ymchwil y ddoethuriaeth yn llenwi f’amserlen i’r brig. Ar fy anturiaethau yn y Byd Newydd darganfum nifer o bynciau i ysbrydoli blogiau’r dyfodol, a’r rheiny fydd testunau’r blogiadau fydd i ddod bob yn ail ddydd Iau yn ystod yr wythnosau nesaf.

Ond fel tamaid i aros pryd, dyma linciau ichi ataf i fy hun mewn cyfieithiad, megis.

Bum yn ysgrifennu adolygiadau i New Welsh Review yn ddiweddar. Mae dau ohonynt, adolygiad o ail gyfres o Parch gan Fflur Dafydd, ac adolygiad o ddwy stori gyntaf cyfres tri o Y Gwyll, i’w gweld yn y rhifyn ar-lein diweddaraf.

Cyhoeddwyd adolygiad arall o’m eiddo ar flog New Welsh Review yn gynharach yr wythnos hon, ac y mae’n agored i bawb i’w ddarllen heb danysgrifiad. Adolygiad ydyw o stori ddiweddaraf Y Gwyll – stori sydd, ei hun, yn fath ar gyfieithiad, ac adolygiad sydd, yn ei ffordd ei hun, yn gyfieithiad Saesneg o arlwy arferol Bob dydd Iau bydd #cyfieithiadau! Gobeithio’n wir y cewch chi flas ar ei ddarllen:

Y Gwyll/Hinterland, Story 3 (Episode 5 – 6), Series 3

Cofion gorau atoch bawb, ac mi wela i chi ymhen pythefnos am fwy o gyfieithiadau!

Gadael sylw